Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi bod gan bob awdurdod lleol yng Nghymru bellach Hyrwyddwr dros Bobl Hŷn i helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i greu Cymru Oed-gyfeillgar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae pob awdurdod lleol yn cael ei gefnogi’n llawn i wireddu’r un genhadaeth genedlaethol i ddod yn Oed-gyfeillgar.

Bu’r Dirprwy Weinidog yn cyfarfod â’r tîm Oed-gyfeillgar yng Nghyngor Abertawe, a’r cynghorydd etholedig sy’n gweithredu fel ei Hyrwyddwr Oed-gyfeillgar, ar daith gerdded i annog cymdeithasu ac i leihau unigrwydd i bobl hŷn yn y ddinas a’r ardal ehangach. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am bryderon a dyheadau pobl hŷn yn yr ardal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £1.1 miliwn ar gael i awdurdodau lleol i gael swyddog ar waith a’i gefnogi wrth iddynt weithio tuag at ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad diweddaru blynyddol cyntaf ar gyflawni Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio. Prif brosiect y strategaeth hon yw cefnogi awdurdodau lleol i ddod yn oed-gyfeillgar. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed tuag at greu Cymru sy’n dathlu cyfraniad pobl hŷn i gymdeithas.

Dywedodd Julie Morgan:

Mae amcangyfrifon o’r boblogaeth yn awgrymu y byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn y rhai sydd dros 80 oed yn ystod y degawdau nesaf. Felly, mae’n hollbwysig ein bod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol rydym i gyd ei eisiau, heddiw.

Rwy’n falch iawn o’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gefnogi pobl hŷn, cymunedau a darparwyr gwasanaethau i fynd ati ar y cyd i wneud y lleoedd y maent yn byw ynddynt yn fwy oed-gyfeillgar.

Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i roi sylw i rai o’r prif faterion yn ein cymdeithas sy’n heneiddio, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, cynyddu’r nifer sy’n cael Credyd Pensiwn, ac addasu ein cartrefi.

Mae’r cyllid yn helpu awdurdodau lleol i weithio tuag at ddod yn aelodau o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar, a chreu lleoedd gwych i heneiddio ynddynt.

Yn Abertawe, mae’r cyngor yn cynnal sesiwn Cerdded Cymdeithasol bob dydd Iau. Mae’r rhain yn helpu pobl dros 50 oed i ddod i adnabod pobl eraill, rhannu gwybodaeth a chysylltu â gwasanaethau a sefydliadau partner.

Mae’r sesiynau cerdded hyn fel arfer yn denu rhwng 55 a 75 o bobl bob wythnos – gyda’r cerddwr hynaf hyd yn hyn yn 92 oed.

Dywedodd Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogaeth Gymunedol:

Mae’r sesiynau cerdded yn llwyddiant ysgubol. O siarad â’r rhai sy’n cymryd rhan, mae’n anhygoel sut y gall rhywbeth sy’n ymddangos mor syml â cherdded mewn grŵp a chael coffi gael effaith mor ystyrlon a chadarnhaol ar fywydau pobl drwy wella eu hiechyd a thaclo ynysu cymdeithasol.

Mae ein tîm partneriaeth a chyfranogiad wedi datblygu rhaglen lawn ac amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau, o gynnal côr heneiddio’n dda i fowlio deg ac ymweld â’r sinema fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod cyfleoedd i’n poblogaeth hŷn fyw bywydau egnïol a llawn boddhad.

Dywedodd Ray Osborne, aelod cymunedol Heneiddio’n Dda Abertawe:

Mae’r cynllun hwn o fudd i gynifer o bobl hŷn, gan roi cyfle i wneud ffrindiau newydd a rheswm i adael y tŷ a chymdeithasu. Mae cymaint o ddewis o ran y gweithgareddau sydd ar gael.

Mae’r staff yn hynod gefnogol ac yn galonogol i bawb o bob oedran a gallu. Mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau cynifer o bobl, ac mae rhai ohonyn nhw wedi ei ddisgrifio fel achubiaeth.

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Mae’r grŵp cerdded hwn yn helpu pobl i fyw eu bywydau gorau ac i heneiddio’n dda. Mae’n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth i leihau ynysu cymdeithasol ac roeddwn wrth fy modd yn cymryd rhan a chyfarfod â rhai o’r preswylwyr y mae’n eu cefnogi.