Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gweithredu gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar ran Gweinidogion Cymru. Mae gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gweinyddu cymorth i bob myfyriwr sy’n byw yng Nghymru. Mae’n rhaid i wasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru gydymffurfio â’r safonau gwasanaeth a osodwyd ar Weinidogion Cymru gan Gomisiynydd y Gymraeg yn yr hysbysiad cydymffurfio a welir yma.

Mae’r safonau wedi eu gwreiddio yng ngwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ers peth amser bellach, ac maent wedi dod yn realiti gweithredol i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Yn unol â Safon 157, mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu’r adroddiad canlynol.

Goruchwylio cydymffurfiaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru â’r Safonau Gwasanaeth

Er mwyn sicrhau bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar y cynnig cyntaf i’w gwsmeriaid Cymru yn yr iaith o’u dewis hwy (Cymraeg/Saesneg) bob amser, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o’u prosesau a’u systemau.

Mae swyddogion o’r Is-adran Addysg Uwch yn goruchwylio cydymffurfiaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru â’r safonau gwasanaeth Cymraeg. Mae cyngor, cymorth a chefnogaeth wedi ei roi gan dîm Safonau Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am oruchwylio cydymffurfedd Llywodraeth Cymru â Safonau’r Gymraeg.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gyson i drafod Cyllid Myfyrwyr Cymru a pherfformiad y gwasanaeth. Darperir ystadegau ynghylch nifer y ceisiadau Cymraeg am gymorth i fyfyrwyr, amser prosesu’r ceisiadau hynny a’r nifer sydd wedi edrych ar y tudalennau cymorth a chanllawiau yn Gymraeg ar y wefan. Mae hyn yn caniatáu i ni sicrhau bod cwsmeriaid sy’n dymuno cael gwasanaeth Cymraeg yn derbyn hynny, ac nad ydynt yn cael eu trin yn llai ffafriol na defnyddwyr y gwasanaeth Saesneg.

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu llinell gymorth hollol ddwyieithog, sy’n sicrhau bod cwsmeriaid sy’n dymuno trafod achos â Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu gwneud hynny, mewn iaith o’u dewis.

Mae prosesau busnes yn cael eu gwirio yn gyson er mwyn sicrhau bod unrhyw ddogfennau neu erthyglau’n cael eu cyhoeddi ar yr un pryd ar y wefan Gymraeg a’r wefan Saesneg. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro i sicrhau bod negeseuon yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Mae cydymffurfedd â Safonau’r Gymraeg yn cael ei drafod yn ystod cyfarfodydd monitro â swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae pob maes busnes o fewn y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gyfrifol am gydymffurfio â’r safonau sy’n berthnasol i’w maes. Ar lefel gorfforaethol, gofynnwyd i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr nodi unigolyn fel Perchennog y Gwasanaeth Cymraeg. Bydd hwnnw yn cymryd cyfrifoldeb am y Gymraeg ledled meysydd busnes a gwaith y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a yn cydweithio a Rheolwr Gweithrediadau Busnes Cyllid Myfyrwyr Cymru i fonitro cydymffurfedd gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Pan fo newidiadau i’r system neu’r broses yn cael eu hystyried, cyfrifoldeb y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yw gwneud asesiad o’r effaith ar y Gymraeg er mwyn sicrhau nad oes effaith andwyol neu ganlyniad anfwriadol yn digwydd i’r ddarpariaeth Gymraeg. Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cynnal cofnodion er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r safonau ynghylch cadw cofnodion a’r safonau gweithredol.

Dosberthir arolygon myfyrwyr i bob defnyddiwr gwasanaeth yn eu dewis iaith. Defnyddir data a gesglir mewn ymateb i'r arolwg myfyrwyr i wneud gwelliannau lle bo angen.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu arolwg cydymffurfedd llawn, yn erbyn pob un o’r safonau gwasanaeth yn yr hysbysiad cydymffurfio. Disgwylir i’r gwaith ddechrau ym mis Chwefror 2022, a bydd casgliadau’r adolygiad yn ei helpu ni a Cyllid Myfyrwyr Cymru i gryfhau ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, sy’n gywir ar y cynnig cyntaf, i gwsmeriaid Cymru. Bydd yr adroddiad cydymffurfedd hwn yn cael ei ddiweddaru wedi i’r adolygiad gael ei gwblhau.

Hyrwyddo gwasanaethau

Mae’n bwysig bod cwsmeriaid Cyllid Myfyrwyr Cymru ac unigolion sy’n chwilio am wybodaeth ar gynnyrch cyllid myfyrwyr, yn deall bod gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gael mewn iaith o’u dewis (Cymraeg/Saesneg).

Mae Llywodraeth Cymru a Cyllid Myfyrwyr Cymru yn hyrwyddo’r gwasanaeth dwyieithog yn gyson, gan dynnu sylw at y ffaith bod croeso i gwsmeriaid ddefnyddio’r Gymraeg wrth gyfathrebu. Mae negeseuon i hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg ar gael drwy’r flwyddyn, ond rhoddir hwb arbennig iddynt cyn dyddiad lansio’r gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd, pan fo cwsmeriaid yn fwy tebygol o chwilio am wybodaeth ynghylch gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr.

Atgoffir myfyrwyr y gallant gael gafael ar eu cyfrifon, gwneud cais ar lein a chyfathrebu â chynghorwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru yn Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny, drwy negeseuon a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys baner Cymru er mwyn ategu bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg.

Mae llinell gymorth Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gweithredu system awtomatig lle mae gofyn i’r sawl sy’n galw wneud dewis iaith i barhau â’r alwad.

Mewn achos pan fo myfyriwr yn dymuno cwyno am y gwasanaeth a gafodd, mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi cyhoeddi gweithdrefn gwyno sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno’u cwyn mewn iaith o’u dewis hwy.

Mae holl gynghorwyr llinell gymorth Cyllid Myfyrwyr Cymru yn siaradwyr Cymraeg. Gweinyddir gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru o swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac mae ganddi bolisi Cymraeg yn gyntaf yn y dderbynfa. Anogir staff nad ydynt yn delio â chwsmeriaid i ddefnyddio cyfarchion dwyieithog ac i annog defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae cynrychiolwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru sy’n darparu gwasanaeth Cymraeg wedi cael y bathodyn Iaith Gwaith.

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn dathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg drwy anfon negeseuon at staff yn hybu ac annog defnyddio’r Gymraeg. Cyhoeddir y rhain ar ei fewnrwyd.

Hwyluso defnydd gwasanaethau

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnal gwefan Gymraeg a Saesneg. Mae modd neidio o un i’r llall ar bob tudalen.

Gall myfyrwyr wneud cais am gymorth i fyfyrwyr trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr un ffordd ac y byddant yn ei wneud yn Saesneg. Gall myfyrwyr fynd at geisiadau ar-lein a chreu cyfrif ar-lein yn Gymraeg, ac, os ydynt yn dewis gwneud hynny, gallant gyflwyno cais papur yn Gymraeg.

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cofnodi’r dewis iaith fel sy’n cael ei nodi ar gais y myfyriwr, ac yn creu nodyn yn y system i sicrhau bod unrhyw ohebiaeth, ac yn wir, pob gohebiaeth yn y dyfodol, sy’n cael ei anfon at y myfyriwr hwnnw yn cael ei ddarparu yn yr iaith o’i ddewis.

Mae negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo bod gwasanaeth ar gael yn Gymraeg yn cynnwys dolenni i’r wefan Gymraeg a’r gwasanaeth ceisiadau Cymraeg.

Mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gweithredu llinell gymorth i gwsmeriaid sy’n byw yng Nghymru. Mae’r llinell gymorth yn awtomatig ac mae’r Gymraeg yn gyntaf, gan ofyn i’r sawl sy’n galw wneud dewis iaith cyn cario ymlaen.