Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 001/2023

Dyddiad cyhoeddi:    28/03/2023

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Hysbysiad cymeradwyo methodolegau cyfrifo a ddiweddarwyd yng Nghymru 

Cyhoeddwyd gan:    Colin Blick, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

Cyfeiriwyd at:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol 
CICAIR Limited 
Cyngor y Diwydiant Adeiladu
Fforwm Personau Cymwys

Anfonwch ymlaen at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu’r Awdurdodau Lleol
Aelodau’r Senedd

Crynodeb:

Yn unol â gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 mae'r cylchlythyr hwn yn hysbysu'r methodolegau cyfrifo a ddiweddarwyd ar gyfer perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu 
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Merthyr Tudful
CF48 1UZ  

Llinell uniongyrchol:    0300 060 4440
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Hysbysiad cymeradwyo ar gyfer methodolegau cyfrifo

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i mi roi gwybod i chi fod hysbysiad cymeradwyo newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y methodolegau cyfrifo a ddiweddarwyd.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae’r Cylchlythyr hwn yn gymwys i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru. 

Hysbysiad cymeradwyo ar gyfer methodolegau cyfrifo perfformiad ynni adeiladau

  1. Mae rheoliadau 25, 26, 26A, 26B, 26C, 27, 27A, 27B a 27C o Reoliadau Adeiladu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifo perfformiad ynni adeiladau newydd drwy ddefnyddio methodoleg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny.

  2. I gyd-fynd â’r diwygiadau sy’n dod i rym i ofynion effeithlonrwydd ynni’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer ‘adeiladau nad ydynt yn anheddau’, mae hysbysiad cymeradwyo ar gyfer y methodolegau cymeradwy a ddiweddarwyd ynghlwm yn Atodiad A.

  3. Daw’r methodolegau cymeradwy i rym ar 29 Mawrth 2023. Mae’r hysbysiad yn nodi’r adeiladau hynny y bydd y methodolegau newydd yn gymwys iddynt ac yn nodi hefyd pryd y gellir parhau i ddefnyddio’r fersiynau blaenorol o’r methodolegau.  

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, cysylltwch â:

Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Rhyd-y-car,
Merthyr Tudful,
CF48 1UZ.

E-bost:  enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Neil Hemington
Pennaeth Cynllunio

Atodiad A

Hysbysiad Cymeradwyo methodolegau i gyfrifo perfformiad ynni adeiladau er mwyn dangos eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010 yng Nghymru. 

Cyflwyniad

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi’r methodolegau cyfrifo cenedlaethol (NCM) a gymeradwyir ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau penodol yng Nghymru yn unol â rheoliad 24 ac at ddibenion rheoliad 25 o Reoliadau Adeiladu 2010 (OS 2010/2214).

Nid yw’r ddogfen hon yn gymwys i fethodolegau cyfrifo cenedlaethol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio gwahanol.
 
Caiff yr hysbysiad cymeradwyo ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 ei gyhoeddi fel dogfen ar wahân gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Methodologies for expressing the energy performance of buildings in England and Wales: notice of approval (GOV.UK)

Hysbysiad cymeradwyo

SYLWCH fod Gweinidogion Cymru, o dan reoliad 24 o Reoliadau Adeiladu 2010, drwy hyn yn cymeradwyo’r methodolegau a restrir isod ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau at ddibenion rheoliad 25 (Gofynion perfformiad ynni sylfaenol ar gyfer adeiladau newydd) o Reoliadau Adeiladu 2010. 

Daw’r gymeradwyaeth hon i rym ar 29 Mawrth 2023 ac mae’n disodli’r cymeradwyaethau blaenorol a oedd mewn grym o 23 Tachwedd 2022, 30 Ebrill 2015, 31 Gorffennaf 2014 a 2 Hydref 2014. Bydd y gymeradwyaeth hon yn parhau mewn grym nes bydd Gweinidogion Cymru yn ei thynnu’n ôl neu nes caiff ei disodli. 

Nid yw’r gymeradwyaeth hon yn gymwys i: 

(a) waith adeiladu a ddechreuodd ar adeilad penodol cyn 23 Tachwedd 2022 ar gyfer ‘anheddau’ a 29 Mawrth 2023 ar gyfer ‘adeiladau nad ydynt yn anheddau’ yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol; neu 

(b) os rhoddwyd darpariaeth hysbysu berthnasol ar adeilad unigol cyn 23 Tachwedd 2022 ar gyfer ‘anheddau’ a 29 Mawrth 2023 ar gyfer ‘adeiladau nad ydynt yn anheddau’ cyhyd ag y bo’r gwaith ar gyfer pob adeilad yn dechrau cyn 23 Tachwedd 2023 ar gyfer ‘anheddau’ a 29 Mawrth 2024 ar gyfer ‘adeiladau nad ydynt yn anheddau’.

(c) safleoedd lle y cydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol cyn 31 Gorffennaf 2014 ac y cafodd y gwaith adeiladu ei gychwyn cyn 31 Gorffennaf 2015.
 
Ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” yw hysbysiad o waith adeiladu o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Adeiladu 2010, neu adrannau 47(1), 50, 51A(2) neu 54 o Ddeddf Adeiladu 1984, 

Yn yr achosion hyn, gellir parhau i ddefnyddio fersiynau cynharach o’r methodolegau.

Dyma’r methodolegau cymeradwy: 

o 23 Tachwedd 2022:

a.    Gweithdrefn Asesu Safonol Llywodraeth y DU (SAP) ar gyfer rhoi Sgôr Ynni i Anheddau, argraffiad 10.2; ac

o 29 Mawrth 2023: 

b.    Y Fethodoleg Gyfrifo Genedlaethol (NCM) ar gyfer adeiladau ac eithrio anheddau yng Nghymru, fersiwn 2022.

Llofnodwyd 


Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Nodiadau ar y methodolegau cymeradwy

Mae’r hysbysiad cymeradwyo hwn yn nodi’r dulliau o ddangos perfformiad ynni adeiladau, fel y’u cyfrifir yn unol â’r fethodoleg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 24, at ddibenion rheoliad 25, 25C a 25D (gofynion perfformiad ynni sylfaenol ar gyfer adeiladau newydd) o Reoliadau Adeiladau 2010. 

Rhyngwynebau a phecynnau meddalwedd

I ddefnyddio’r methodolegau cymeradwy, mae angen hefyd defnyddio’r rhyngwynebau a’r pecynnau meddalwedd penodol sy’n gysylltiedig â nhw. Mae’r rhyngwynebau a’r pecynnau meddalwedd a gymeradwyir ar hyn o bryd i’w gweld yn: 

Adeiladau domestig newydd:

SAP10 – Gweithdrefn Asesu Safonol (BRE Group) 

Adeiladau annomestig newydd:

Canllawiau ar y rheoliadau adeiladu: rhan L (arbed tanwydd ac ynni) 

Sylwch y caiff y rhestr a welwch drwy ddilyn y ddolen hon ei diwygio o bryd i’w gilydd i gynnwys cymwysiadau meddalwedd newydd, neu fersiynau newydd o’r rheini a restrir, wedi iddynt gael eu cymeradwyo. 

Cyfrifo perfformiad ynni anheddau newydd


At ddibenion cydymffurfio â rheoliadau 25, 25C, 25D, 26, 26A, 26B, 26C, 27, 27A , 27B a 27C o Reoliadau Adeiladau 2010, defnyddir SAP 10.2 i gyfrifo ar gyfer yr annedd fel y’i cynlluniwyd a’i hadeiladwyd:

  • cyfraddau targed allyriadau CO2
  • cyfraddau targed ynni sylfaenol
  • gwerthoedd targed perfformiad ffabrig
  • cyfraddau effeithlonrwydd ynni sylfaenol
  • cyfraddau allyriadau CO2 a gyfrifwyd
  • cyfraddau ynni sylfaenol a gyfrifwyd 
  • gwerthoedd perfformiad ffabrig a gyfrifwyd 
  • cyfraddau effeithlonrwydd ynni a gyfrifwyd.

​​​​​​​Cyfrifo perfformiad ynni adeiladau newydd nad ydynt yn anheddau

At ddibenion rheoliadau 25, 26, 26A, 27 a 27A o Reoliadau Adeiladu, cyfraddau targed allyriadau CO2, cyfraddau targed ynni sylfaenol, cyfraddau allyriadau CO2 a gyfrifwyd a chyfraddau ynni sylfaenol a gyfrifwyd ar gyfer adeilad nad yw’n annedd, fel y’i cynlluniwyd a’i hadeiladwyd, yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio gweithrediad cymeradwy o'r Fethodolegau Cyfrifo Cenedlaethol ar gyfer adeiladau nad ydynt yn anheddau, e.e. SBEM fersiwn 6.1 neu DSM cymeradwy.

Cymeradwyo offer meddalwedd cyfrifo masnachol

Gellir gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo pecynnau meddalwedd i fod yn rhan o’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau, fel: 

a. cymwysiadau meddalwedd SAP; 
b. rhyngwynebau meddalwedd gyda SBEM; 
c. Modelau Efelychu Dynamig (DSMs).

Cyn y cânt eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid dilysu offer meddalwedd yn ôl set o feini prawf cyhoeddedig i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd sy’n cyd-fynd â’r methodolegau cyfrifo cenedlaethol a’u bod o’r un safon. Mae’r meini prawf cymeradwyo a’r drefn ar gyfer gwneud cais am gymeradwyaeth i’w cael gan: 

Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ. 
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru