Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr reoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 007/2022

Dyddiad cyhoeddi:    23/11/2022

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Hysbysiad cymeradwyo methodolegau cyfrifo a ddiweddarwyd yng Nghymru 

Cyhoeddwyd gan:    Colin Blick, Rheolwr Technegol Safonau Adeiladu

Cyfeiriwyd at:    Anfonwch ymlaen at:

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol 

CICAIR Limited 

Cyngor y Diwydiant Adeiladu

Fforwm Personau Cymwys

Swyddogion Rheoli Adeiladu’r Awdurdodau Lleol

Aelodau’r Senedd

Crynodeb:

Yn unol â gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 mae'r cylchlythyr hwn yn hysbysu'r methodolegau cyfrifo a ddiweddarwyd ar gyfer perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu 
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Merthyr Tudful
CF48 1UZ  

Llinell uniongyrchol:    0300 060 4440
E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Hysbysiad cymeradwyo ar gyfer methodolegau cyfrifo

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i mi roi gwybod i chi fod hysbysiad cymeradwyo newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y methodolegau cyfrifo a ddiweddarwyd.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae’r Cylchlythyr hwn yn gymwys i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru.

Hysbysiad cymeradwyo ar gyfer methodolegau cyfrifo perfformiad ynni adeiladau

  1. Mae rheoliadau 25, 26, 26A, 26B, 26C, 27, 27A, 27B a 27C o Reoliadau Adeiladu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfrifo perfformiad ynni adeiladau newydd drwy ddefnyddio methodoleg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny.

  2. I gyd-fynd â’r diwygiadau sy’n dod i rym i ofynion effeithlonrwydd ynni’r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer anheddau, mae hysbysiad cymeradwyo ar gyfer y methodolegau cymeradwy a ddiweddarwyd ynghlwm yn Atodiad A.

  3. Daw’r methodolegau cymeradwy i rym ar 23 Tachwedd 2022. Mae’r hysbysiad yn nodi’r adeiladau hynny y bydd y methodolegau newydd yn gymwys iddynt ac yn nodi hefyd pryd y gellir parhau i ddefnyddio’r fersiynau blaenorol o’r methodolegau.  

  4. I gyd-fynd â'r diwygiadau i ofynion effeithlonrwydd ynni'r Rheoliadau Adeiladu ar gyfer adeiladau ac eithrio anheddau yn dod i rym, bydd hysbysiad cymeradwyo diwygiedig yn cael ei gyhoeddi ar gyfer methodolegau cymeradwy a ddiweddarwyd cyn 29 Mawrth 2023. 

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn, cysylltwch â:

Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Rhyd-y-car,
Merthyr Tudful,
CF48 1UZ.

E-bost:  enquiries.brconstruction@llyw.cymru

 

Atodiad A

Hysbysiad Cymeradwyo methodolegau i gyfrifo perfformiad ynni adeiladau er mwyn dangos eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010 yng Nghymru.

Cyflwyniad

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi’r methodolegau cyfrifo cenedlaethol (NCM) a gymeradwyir ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau penodol yng Nghymru yn unol â rheoliad 24 ac at ddibenion rheoliad 25 o Reoliadau Adeiladu 2010 (OS 2010/2214).

Nid yw’r ddogfen hon yn gymwys i fethodolegau cyfrifo cenedlaethol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, sy’n ddarostyngedig i ofynion rheoleiddio gwahanol.

Caiff yr hysbysiad cymeradwyo ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 ei gyhoeddi fel dogfen ar wahân gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

Methodologies for expressing the energy performance of buildings in England and Wales: notice of approval

Hysbysiad cymeradwyo

SYLWCH fod Gweinidogion Cymru, o dan reoliad 24 o Reoliadau Adeiladu 2010, drwy hyn yn cymeradwyo’r methodolegau a restrir isod ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau at ddibenion rheoliad 25 (Gofynion perfformiad ynni sylfaenol ar gyfer adeiladau newydd) o Reoliadau Adeiladu 2010.

Daw’r gymeradwyaeth hon i rym ar 23 Tachwedd 2022 ac mae’n disodli’r cymeradwyaethau blaenorol a oedd mewn grym o 30 Ebrill 2015, 31 Gorffennaf 2014 a 2 Hydref 2014. Bydd y gymeradwyaeth hon yn parhau mewn grym nes bydd Gweinidogion Cymru yn ei thynnu’n ôl neu nes caiff ei disodli.

Nid yw’r gymeradwyaeth hon yn gymwys i:

(a) waith adeiladu a ddechreuodd ar adeilad penodol cyn 23 Tachwedd 2022 yn unol ag unrhyw ddarpariaeth hysbysu berthnasol; neu

(b) os rhoddwyd darpariaeth hysbysu berthnasol ar adeilad unigol cyn 23 Tachwedd 2022, cyhyd ag y bo’r gwaith ar gyfer pob adeilad yn dechrau cyn 23 Tachwedd 2023

(c) safleoedd lle y cydymffurfiwyd â darpariaeth hysbysu berthnasol cyn 31 Gorffennaf 2014 ac y cafodd y gwaith adeiladu ei gychwyn cyn 31 Gorffennaf 2015.

Ystyr “darpariaeth hysbysu berthnasol” yw hysbysiad o waith adeiladu o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Adeiladu 2010, neu adrannau 47(1), 50, 51A(2) neu 54 o Ddeddf Adeiladu 1984,

Yn yr achosion hyn, gellir parhau i ddefnyddio fersiynau cynharach o’r methodolegau.

Dyma’r methodolegau cymeradwy:

o 23 Tachwedd 2022:

  1. Gweithdrefn Asesu Safonol Llywodraeth y DU (SAP) ar gyfer rhoi Sgôr Ynni i Anheddau, argraffiad 10.2; ac

o 31 Gorffennaf 2014:

  1. Y Fethodoleg Gyfrifo Genedlaethol (NCM) ar gyfer adeiladau ac eithrio anheddau yng Nghymru, fersiwn 2014.

Nodiadau ar y methodolegau cymeradwy

Mae’r hysbysiad cymeradwyo hwn yn nodi’r dulliau o ddangos perfformiad ynni adeiladau, fel y’u cyfrifir yn unol â’r fethodoleg a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 24, at ddibenion rheoliad 25, 25C a 25D (gofynion perfformiad ynni sylfaenol ar gyfer adeiladau newydd) o Reoliadau Adeiladau 2010.

Rhyngwynebau a phecynnau meddalwedd

I ddefnyddio’r methodolegau cymeradwy, mae angen hefyd defnyddio’r rhyngwynebau a’r pecynnau meddalwedd penodol sy’n gysylltiedig â nhw. Mae’r rhyngwynebau a’r pecynnau meddalwedd a gymeradwyir ar hyn o bryd i’w gweld yn:

Adeiladau domestig newydd:

SAP10 – Gweithdrefn Asesu Safonol - BRE Group

Adeiladau annomestig newydd:

Canllawiau ar y rheoliadau adeiladu: rhan L (arbed tanwydd ac ynni) | LLYW.CYMRU

Sylwch y caiff y rhestr a welwch drwy ddilyn y ddolen hon ei diwygio o bryd i’w gilydd i gynnwys cymwysiadau meddalwedd newydd, neu fersiynau newydd o’r rheini a restrir, wedi iddynt gael eu cymeradwyo. 

Cyfrifo perfformiad ynni anheddau newydd

At ddibenion cydymffurfio â rheoliadau 25, 25C, 25D, 26, 26A, 26B, 26C, 27, 27A , 27B a 27C o Reoliadau Adeiladau 2010, defnyddir SAP 10.2 i gyfrifo ar gyfer yr annedd fel y’i cynlluniwyd a’i hadeiladwyd:

  • cyfraddau targed allyriadau CO2
  • cyfraddau targed ynni sylfaenol
  • gwerthoedd targed perfformiad ffabrig
  • cyfraddau effeithlonrwydd ynni sylfaenol
  • cyfraddau allyriadau CO2 a gyfrifwyd
  • cyfraddau ynni sylfaenol a gyfrifwyd
  • gwerthoedd perfformiad ffabrig a gyfrifwyd
  • cyfraddau effeithlonrwydd ynni a gyfrifwyd.

​​​​​​​Cyfrifo perfformiad ynni adeiladau newydd nad ydynt yn anheddau

At ddibenion rheoliadau 25, 25C(a), 26, 26A, 27 a 27A o Reoliadau Adeiladu, defnyddir SBEM fersiwn 5.2 neu DSM cymeradwy i gyfrifo cyfraddau targed allyriadau CO2,  cyfraddau targed defnyddio ynni sylfaenol, cyfraddau allyriadau CO2 a gyfrifwyd ar gyfer adeilad nad yw’n annedd, fel y’i cynlluniwyd a’i hadeiladwyd, a chyfraddau targed defnyddio ynni sylfaenol a gyfrifwyd ar gyfer adeilad nad yw’n annedd, fel y’i cynlluniwyd a’i hadeiladwyd.

Cymeradwyo offer meddalwedd cyfrifo masnachol

Gellir gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo pecynnau meddalwedd i fod yn rhan o’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo perfformiad ynni adeiladau, fel:

a. cymwysiadau meddalwedd SAP;

b. rhyngwynebau meddalwedd gyda SBEM;

c. Modelau Efelychu Dynamig (DSMs).

Cyn y cânt eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid dilysu offer meddalwedd yn ôl set o feini prawf cyhoeddedig i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd sy’n cyd-fynd â’r methodolegau cyfrifo cenedlaethol a’u bod o’r un safon. Mae’r meini prawf cymeradwyo a’r drefn ar gyfer gwneud cais am gymeradwyaeth i’w cael gan:

Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru