Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion y cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru a asesir ar sail incwm ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 i 2023. Sicrhewch fod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu i'r holl staff a chydweithwyr sy'n helpu i weinyddu'r cynlluniau.

Bydd copi o'r cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023 ar gael i'w gweld ar dudalen we cyllid a chyllid i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.

Ffurflenni cais

Agorodd gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer y cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023 ar 25 Ebrill 2022. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd pecynnau cais dwyieithog ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd yn cael eu dosbarthu i ganolfannau dysgu cofrestredig. Bydd y ffurflenni a'r nodiadau canllaw newydd ar gymhwystra a hawl ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae'r dyfarniadau grant a'r trothwyon incwm ar gyfer y cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023.

Gellir cysylltu â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050. Croesawir galwadau yn Gymraeg.

Categorïau preswyliaeth

Mae manylion am gategorïau preswyliaeth a newidiadau o ganlyniad i ymadael â'r UE ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 wedi'u nodi yn y tablau yn yr Atodiad.

Mae materion preswyliaeth a mewnfudo yn gymhleth ac os oes angen cyngor ar ymgeiswyr wrth gwblhau eu cais am gymorth, dylent gyfeirio at y nodiadau perthnasol neu gysylltu â gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru. Fodd bynnag, dim ond ar ôl derbyn cais wedi'i gwblhau'n llawn gyda thystiolaeth ategol briodol y bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu penderfynu ar gymhwystra a hawl.

Bydd y ffurflenni a chanllawiau'r cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 yn adlewyrchu'r newidiadau

Cynllun Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru – asesiad ariannol o incwm aelwydydd

Bydd newidiadau'n cael eu gwneud i'r asesiad ariannol o incwm aelwydydd yng Nghynllun Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 i 2023 fel a ganlyn:

  • bydd myfyrwyr annibynnol yn cyd-fynd â myfyrwyr dibynnol a noddwyr/partneriaid at ddibenion asesu incwm. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2022 i 2023, y gofynnir i ymgeiswyr sy'n fyfyrwyr annibynnol ddarparu gwybodaeth incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2020 i 2021. Mae'r newid yn caniatáu i Gyllid Myfyrwyr Cymru wirio manylion incwm yr aelwyd gyda CThEM
  • I adlewyrchu incwm myfyrwyr dibynnol a rhieni a phartneriaid, bydd myfyrwyr annibynnol yn gallu gofyn am asesiad Incwm Blwyddyn Gyfredol os bu gostyngiad yn incwm eu haelwyd ers y flwyddyn dreth 2020 i 2021 nad yw’n ostyngiad dros dro
  • bydd myfyrwyr dibynnol yn cyd-fynd â myfyrwyr annibynnol ac yn gallu darparu manylion ar gyfer didyniadau incwm a ganiateir

Bydd y ffurflen gais a’r canllawiau ategol ar gyfer Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r newidiadau uchod.

Trefniadau COVID-19: presenoldeb, taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio a llofnodi Cytundebau Dysgu

Bydd y trefniadau disgresiwn a gyflwynwyd mewn ymateb i reoli sefyllfa Covid-19 yn cael eu cynnal ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023. Mae’r manylion yn Hysbysiad Gwybodaeth (04/2020).

Ymholiadau

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â Thîm Addysg Uwch Llywodraeth Cymru drwy e-bostio isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Gellir lawrlwytho copi o'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn Gymraeg neu’n Saesneg o dudalen we cyllid a chyllid i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.

Gellir gofyn am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Atodiad

Bydd newid yn cael ei wneud i'r categori myfyrwyr cymwys canlynol yn y cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru:

CategoriNewid ar gyfer 2022 i 2023

Personau a ddiogelir ac aelodau o'u teuluoedd.

Ar hyn o bryd, mae'r categori hwn yn darparu ar gyfer person (a/neu aelod perthnasol o'r teulu) sy'n cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros ar sail:

  • diogelwch dyngarol
  • caniatâd fel person di-wladwriaeth
  • caniatâd o dan adran 67 i aros
  • caniatâd Calais i aros

Bydd y categori'n cael ei ymestyn i gynnwys personau (a/neu aelodau perthnasol o'r teulu) sy'n cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Afghanistan neu Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Afghanistan.

Mae hyn yn debyg i'r newid a wnaed mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr Addysg Uwch ar gyfer 2022 i 2023 a gyfathrebwyd yn Hysbysiad Gwybodaeth (01/2022).

Newidiadau pwysig eraill sy'n ymwneud â newidiadau o ganlyniad i ymadael â'r UE:

PwncNewid ar gyfer 2022 i 2023
2. Dileu darpariaethau'n ymwneud â'r “cyfnod gras” ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).

2.1 Daeth y ‘dyddiad cau ar gyfer ceisiadau’ a'r ‘cyfnod gras’ sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ben ar 30 Mehefin 2021. Gwneir darpariaeth ar gyfer y rhain yn Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020.

Roedd pobl yn gallu gwneud cais am ganiatâd o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE tan y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin 2021. Cedwir rhai hawliau a roddwyd gan Reoliadau Mewnfudo (yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016 tan y dyddiad hwnnw hefyd, er gwaethaf y ffaith bod y rheoliadau hynny wedi eu dirymu – sef y ‘cyfnod gras’. At hynny, pan fo'r cyfnod gras wedi dod i ben a bod unigolyn wedi gwneud cais dilys na wnaed penderfyniad yn ei gylch eto, caiff y cyfnod hwn ei estyn tan y gwneir penderfyniad – sef y ‘cyfnod perthnasol’

2.2 Gwnaed darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 i sicrhau na fyddai unrhyw unigolyn a oedd yn gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr, ac a oedd wedi gwneud cais am ganiatâd i aros o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ystod y cyfnod gras, yn cael ei wneud yn anghymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn anfwriadol. Mae diwygiad angenrheidiol wedi ei wneud i'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr i ddileu unrhyw gyfeiriadau at y cyfnod gras (yn unig).

Diffiniadau o aelodau teulu gweithwyr AEE/Swisaidd.

 

Mae’r canllawiau ar y diffiniadau o aelodau o'r teulu yn cael eu diweddaru mewn ffurflenni cais i gyd-fynd yn well â diffiniadau yn y cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn gwneud y diffiniadau o aelodau'r teulu yn gliriach ar draws y categorïau preswyl gwahanol perthnasol.

Trwydded gweithiwr trawsffiniol neu dystiolaeth gyfatebol arall.

 

Bydd gweithwyr trawsffiniol yn gallu darparu naill ai trwydded gweithiwr trawsffiniol neu dystiolaeth arall eu bod yn weithiwr trawsffiniol.

Lle na ddarperir trwydded gweithiwr trawsffiniol, byddai angen tystiolaeth amgen i gadarnhau bod y person naill ai'n weithiwr trawsffiniol cyflogedig neu'n weithiwr trawsffiniol hunangyflogedig sy'n gweithio yn y DU. Bydd ffurflenni cais a chanllawiau’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn adlewyrchu’r rheol hon.

Aelodau teulu sy’n ymuno’n hwyr â gwladolion AEE/Swisaidd a ddaeth i’r DU cyn 31 Rhagfyr 2020.

Mae Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn caniatáu i rai aelodau o'r teulu ddod i'r DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020 i ymuno â gwladolyn o'r AEE neu'r Swistir sydd eisoes yn y DU. Rhaid i'r aelod o'r teulu sy'n ymuno wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar ôl cyrraedd y DU ac yn gyffredinol mae ganddynt 90 diwrnod o’i ddyddiad cyrraedd i wneud hynny.

Mae gan aelod cymwys o'r teulu sy'n ymuno â gwladolyn sydd eisoes yn y DU hawliau fel dinasyddion o'r dyddiad y maent yn cyrraedd y DU, waeth a ydynt wedi gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog. Felly, gall Cyllid Myfyrwyr Cymru asesu ymgeisydd am gyllid myfyrwyr cyn y dyddiad y rhoddir statws cyn-sefydlog, yn amodol ar fodloni'r rheolau a nodir yng Nghynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.