Neidio i'r prif gynnwy

Ymadael â'r UE: Rheolau cymhwystra newydd ar gyfer statws ffioedd cartref a chymorth i fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022

Cyflwyniad

  1. Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021 ('y Rheoliadau') wrthi’n cael eu llunio ac ar ôl iddynt gael eu gwneud byddant yn diwygio'r rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cymorth a statws ffioedd cartref i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2021.
  1. Mae’r trefniadau a ddisgrifir yma yn agored i newid ac yn amodol ar wneud y Rheoliadau.  Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio i helpu â dehongli'r Rheoliadau. Nid yw'n ymdrin â phob agwedd ar gymorth i fyfyrwyr ac nid yw chwaith yn cynnwys cyngor cyfreithiol na datganiad diffiniol o'r gyfraith.  Er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i sicrhau bod yr wybodaeth a geir yn gywir adeg ei chyhoeddi, ni ddylid dibynnu ar y canllawiau hyn fel crynodeb cyflawn a chywir o'r Rheoliadau, sydd heb eu gwneud eto. Os bydd anghysondebau rhwng y canllawiau hyn a'r Rheoliadau, dylid dilyn y Rheoliadau.
  1. O ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, mae angen newidiadau sylweddol i gymhwystra myfyrwyr am gymorth.  Bydd nifer o gategorïau cymhwystra presennol yn gymwys dim ond i’r rhai sydd ar gyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Awst 2021.  Bydd categorïau cymhwystra newydd yn cael eu cynnwys ar gyfer y rhai sydd ar gyrsiau a ddechreuir  ar neu ar ôl 1 Awst 2021.  Mae rhai categorïau yn aros yr un fath (y rhai na fydd ymadael â'r UE yn effeithio arnynt).
  1. Bydd myfyrwyr sydd wedi dechrau neu sydd yn dechrau cyrsiau cyn 1 Awst 2021 yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref drwy gydol eu cwrs, os ydynt yn parhau i fodloni'r meini prawf cymhwystra.
  1. O 1 Awst 2021 ymlaen, yn amodol ar wneud y Rheoliadau, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir sy'n elwa ar hawliau dinasyddion o dan y gwahanol gytundebau ymadael, ac aelodau o deuluoedd gwladolion yr UE, aelodau o deuluoedd pobl Gogledd Iwerddon, plant gwladolion y Swistir, plant Gweithwyr o Dwrci, gwladolion y DU sy'n byw yn yr AEE a'r Swistir, gwladolion y DU a'r UE sy'n preswylio yn Gibraltar, a phersonnau o dan y trefniant Ardal Deithio Gyffredin.  Bydd rhai grwpiau yn cael cymorth wedi'i gyfyngu i gyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Ionawr 2028.  Bydd pob grŵp yn elwa ar statws ffioedd cartref yng Nghymru.  Hefyd, bydd gwladolion y DU sy'n byw yn nhiriogaethau tramor Prydain yn gymwys i gael statws ffioedd cartref, yn yr un modd ag y bydd, hyd 1 Ionawr 2028, gwladolion y DU sy'n byw yn nhiriogaethau tramor yr UE.
  1. Yn ôl yr arfer, bydd amodau preswylio yn gymwys er mwyn i'r ymgeisydd ddangos cysylltiad â'r DU.
  1. Mae'r Cytundeb Ymadael y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd yn darparu y bydd yr egwyddor o driniaeth gyfartal yn parhau i fod yn gymwys i'r rhai y mae’r darpariaethau hawliau dinasyddion yn eu cwmpasu.  Mae hyn yn golygu y bydd gwladolion yr UE ac aelodau o’u teuluoedd sy'n preswylio'n gyfreithlon yn y DU ar neu cyn diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020 yn gymwys i gael cymorth ar sail debyg i’r un bresennol.  Llofnodwyd cytundebau tebyg gyda gwladwriaethau Masnach Rydd Ewrop yr AEE a'r Swistir a bydd yr un egwyddor yn gymwys.
  1. Bydd y Rheoliadau yn gymwys i flynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021.

Blwyddyn academaidd 2020 i 2021                

  1. Bydd myfyrwyr sydd wedi dechrau neu sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Awst 2021 yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref drwy gydol eu cwrs, os ydynt yn parhau i fodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Blwyddyn academaidd 2021 i 2022

  1. Ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021, ni fydd y gwladolion hynny o’r UE, gwladolion eraill yr AEE a gwladolion y Swistir ac aelodau o'u teuluoedd nad yw’r cytundebau ymadael yn eu cwmpasu yn gymwys i gael statws ffioedd cartref, cymorth israddedig na chymorth ôl-raddedig.  Ni fydd plant gweithwyr o Dwrci sy'n cyrraedd y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020 yn gymwys i gael statws ffioedd cartref a chymorth i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar nac ar ôl 1 Awst 2021.
  1. Nid yw'r newidiadau hyn o ran cymhwystra yn gymwys i ddinasyddion Iwerddon sy'n byw yn y DU y cedwir eu hawliau o dan y trefniant Ardal Deithio Gyffredin, hawliau sydd wedi’u rhoi i ddinasyddion Prydain ac Iwerddon fel ei gilydd.
  1. Bydd gwladolion yr UE, gwladolion eraill yr AEE a gwladolion y Swistir ac aelodau o'u teuluoedd nad yw’r cytundebau ymadael yn eu cwmpasu yn parhau i gael mynediad at statws ffioedd cartref a chymorth ariannol i fyfyrwyr ar seiliau tebyg iawn i’r rhai presennol.  Yn gyffredinol, mae hyn yn cwmpasu’r rhai sydd:
  • yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 ar ôl arfer hawl i breswylio o dan gyfraith yr UE, Cytundeb yr AEE neu'r Cytundeb Rhyddid Pobl i Symud
  • yn parhau i fyw yn y DU ar ôl 31 Rhagfyr 2020
  1. Bydd pobl o'r fath wedi gwneud cais am statws preswylydd cyn-sefydlog neu statws preswylydd sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE.  Nid yw'n ofynnol i ddinasyddion Iwerddon wneud cais gan fod eu hawliau'n cael eu diogelu o ganlyniad i’r trefniant Ardal Deithio Gyffredin.

Statws preswylydd sefydlog

  1. Yn gyffredinol, bydd y rhai sydd wedi cael statws preswylydd sefydlog o dan Gynllun Setliad yr UE yn gymwys i gael statws ffioedd cartref, ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth os ydynt wedi bod yn preswylio fel arfer yn y DU neu’r Ynysoedd am o leiaf 3 blynedd.
  1. Caiff dinasyddion Iwerddon eu trin fel rhai sydd wedi setlo yn y DU ac nid oes angen iddynt wneud cais i Gynllun Setliad yr UE i elwa ar yr hawliau hyn.

Statws Preswylydd Cyn-sefydlog

  1. Bydd gwladolion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd sy'n ymgymryd â chwrs yng Nghymru yn gymwys i gael cymorth ffioedd dysgu pan fo ganddynt statws preswylydd cyn-sefydlog a phreswyliad tair blynedd yn y DU, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir (oni bai fod y preswyliad hwnnw yn llwyr neu’n rhannol at ddibenion addysg).  Byddant hefyd yn gymwys i gael statws ffioedd cartref.
  1. Bydd y rhai sydd â phreswyliad tair blynedd yn y DU neu’r Ynysoedd ac sy'n byw yng Nghymru yn gymwys i gael cymorth ffioedd dysgu a chynhaliaeth, yn ogystal â statws ffioedd cartref, pa le bynnag y maent yn dilyn cwrs.
  1. Bydd gweithwyr o’r AEE a'r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd yn gymwys i gael ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth pan fo ganddynt statws preswylydd cyn-sefydlog a phreswyliad tair blynedd yn y DU, Gibraltar, yr AEE a'r Swistir.  Byddant hefyd yn gymwys i gael statws ffioedd cartref.
  1. Bydd plentyn cyn-weithiwr o’r AEE neu’r Swistir hefyd yn gymwys i gael cymorth ffioedd dysgu a chynhaliaeth pan fo gan y myfyriwr statws preswylydd cyn-sefydlog a phreswyliad tair blynedd yn y DU, Gibraltar, yr AEE a'r Swistir.  Byddant yn gymwys i gael statws ffioedd cartref.
  1. Bydd aelodau o deuluoedd pobl Gogledd Iwerddon, pan fo gan yr aelod o'r teulu statws preswylydd cyn-sefydlog, yn gymwys i gael statws ffioedd cartref a chymorth ffioedd dysgu ar yr un sail ag aelodau o deuluoedd gwladolion yr UE y mae’r cytundeb ymadael yn eu cwmpasu.

Gwladolion y DU sy'n byw yn Nhiriogaethau Tramor yr AEE, y Swistir a'r UE

  1. Yn gyffredinol, bydd gwladolion y DU ac aelodau o'u teuluoedd sy'n byw yn yr AEE neu'r Swistir ar 31 Rhagfyr 2020 yn gymwys i gael statws ffioedd cartref, ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021 a chyn 1 Ionawr 2028 os ydynt yn bodloni'r amodau a ganlyn:
  • roeddent yn byw yn yr AEE neu'r Swistir ar 31 Rhagfyr 2020 (neu maent wedi symud yn ôl i'r DU yn syth ar ôl byw yn yr AEE neu'r Swistir)
  • maent wedi byw yn yr AEE, y Swistir, y DU neu Gibraltar am y tair blynedd ddiwethaf o leiaf
  • maent wedi byw yn barhaol yn yr AEE, y Swistir, y DU neu Gibraltar rhwng 31 Rhagfyr 2020 a dechrau'r cwrs.
  1. Bydd gwladolion y DU ac aelodau o'u teuluoedd sy'n byw yn Nhiriogaethau Tramor yr UE ar 31 Rhagfyr 2020 yn parhau i fod yn gymwys i gael statws ffioedd cartref ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau cyn 1 Ionawr 2028.

Plant gwladolion y Swistir

  1. Yn gyffredinol, bydd plant gwladolion y Swistir y mae Cytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir yn eu cwmpasu yn gymwys i gael statws ffioedd cartref, ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth ar ôl preswylio am dair blynedd yn y DU, Gibraltar, yr AEE neu'r Swistir (oni bai fod y preswyliad hwnnw yn llwyr neu’n rhannol at ddibenion addysg).

Plant Gweithwyr o Dwrci

  1. Nid yw plant gweithwyr o Dwrci yn cael eu cwmpasu gan y Cytundebau Ymadael, ond os ydynt hwy a'u rhiant yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 a bod cyfnod caniatâd i aros y rhiant yn parhau i fod yn ddilys, byddant yn gymwys i gael statws ffioedd cartref, ffioedd dysgu a chymorth cynhaliaeth ar ôl preswylio am dair blynedd yn y DU, Gibraltar, yr AEE, y Swistir neu yn Nhwrci.

Trefniant yr Ardal Deithio Gyffredin gydag Iwerddon

  1. Bydd dinasyddion Iwerddon sy'n byw yn y DU, yr Ynysoedd neu Weriniaeth Iwerddon am dair blynedd cyn dechrau eu cwrs ac sy'n dilyn cwrs yng Nghymru yn gymwys i gael statws ffioedd cartref a benthyciadau ffioedd dysgu ar yr un sail â gwladolion y DU.
  1. Hefyd, bydd dinasyddion Iwerddon yn gymwys i gael cymorth cynhaliaeth gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn preswylio yng Nghymru ac os ydynt wedi byw yn y DU neu’r Ynysoedd am dair blynedd cyn dechrau'r cwrs.

Gwladolion y DU a'r UE sy'n byw yn Gibraltar

  1. Bydd gwladolion y DU sy'n byw yn Gibraltar, a gwladolion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd sydd â hawl i breswylio yno yn sgil y cytundeb ymadael, yn parhau i fod yn gymwys i gael statws ffioedd cartref ar sail tair blynedd o breswyliad yn y DU, Gibraltar, yr AEE neu'r Swistir.  Byddant yn gymwys i gael cymorth â ffioedd ar gyfer cyrsiau yng Nghymru sy'n dechrau cyn 1 Ionawr 2028.

Gwladolion y DU sy'n preswylio yn y tiriogaethau tramor eraill

  1. Bydd gwladolion y DU sy'n byw yn Ngiriogaethau Tramor eraill Prydain yn gymwys i gael statws ffioedd cartref wrth astudio yng Nghymru, ar sail tair blynedd o breswyliad yn y diriogaeth dramor, yr AEE neu'r Swistir cyn dechrau'r cwrs.