Hysbysiad newid safonau data ar gyfer Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach (WHC/2025/031)
Hysbysiad i ddiweddaru'r ffordd y mae data'n cael ei gasglu wrth gefnogi'r rhai sy'n paratoi ar gyfer gofal wedi'i gynllunio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion:
Statws:
Cydymffurfio – rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio ag ef.
Categori:
Polisi.
Teitl:
Adrodd ar ddata canlyniadau a gweithgareddau Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A.
Dyddiad dod i ben neu adolygu:
Dim dyddiad dod i ben.
I’w weithredu gan:
Holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG.
Erbyn:
Ar unwaith.
Anfonwyd gan:
Lesley Law
Pennaeth Gofal a Gynlluniwyd
Cyflenwi a Pherfformiad y GIG
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Lesley Law, Lesley.Law@llyw.cymru
Dogfennau amgaeedig:
- Llythyr gan Lesley Law.
- Hysbysiad Newid Safonau Data (DSCN) 2025/17.
Adrodd ar ddata canlyniadau a gweithgareddau Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A
Prif Weithredwyr Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
Prif Swyddogion Gweithredu Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
Prif Weithredwyr Iechyd a Gofal Digidol Cymru y GIG
Arweinwyr Gweithredol Polisi 3A y GIG
Arweinwyr Clinigol Polisi 3A y GIG
26 Medi 2025
Annwyl gyfeillion,
Cyhoeddir y cylchlythyr iechyd Cymru hwn i roi gwybod am gyhoeddi Hysbysiad Newid Safonau Data ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A, yn unol â cham 2 proses gofnodi ac adrodd ar ddata a chynllun cyflawni'r Polisi 3A. Mae'r cylchlythyr yn darparu gwybodaeth bellach am y gofyniad ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG i sicrhau bod yr holl ddiweddariadau system yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion a disgwyliadau'r hysbysiad newid safonau data fel yr amlinellir isod.
Dyddiadau dechrau a gorffen y camau
Cam 1: ffurflen gyfanredol ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt
(Rhwng 1 Medi 2024 a 31 Mawrth 2026)
Fel rhan o gam 1, datblygwyd ffurflen gyfanredol ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt er mwyn:
- cynnig ateb dros dro i gofnodi ac adrodd ar ganlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt er mwyn galluogi Tîm Polisi Gofal a Gynlluniwyd Llywodraeth Cymru i fonitro cynnydd ac effaith wrth weithredu a chyflwyno'r model ledled Cymru
- darparu data i fyrddau iechyd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu eu hachosion busnes i ymgorffori'r model fel busnes arferol o fis Ebrill 2026 ymlaen
Bydd y ffurflen gyfanredol hon yn cael ei thynnu'n ôl ar ôl i'r data gael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2026.
Cam 2: hysbysiad newid safonau data ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt
O 1 Ebrill 2026 ymlaen (dim dyddiad gorffen)
Bydd cam 2 yn cynnig ateb cynaliadwy i ddarparu data i gefnogi'r gwaith o gyflawni'n weithredol a monitro gwerth ac effaith y gwasanaeth un pwynt cyswllt.
Er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd yn dechrau adrodd yn unol â'r hysbysiad newid safonau data erbyn mis Ebrill 2026, disgwylir y camau isod:
Pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd i wneud y canlynol:
- diweddaru prosesau a systemau lleol i gydymffurfio â'r fanyleb wybodaeth a amlinellir yn yr hysbysiadau newid safonau data
- cydweithio â Thîm Caffael Data Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gytuno a sefydlu prosesau ar gyfer cyflwyno data wrth baratoi ar gyfer casglu
Iechyd a Gofal Digidol Cymru i wneud y canlynol:
- sicrhau bod yr holl systemau cenedlaethol wedi'u diweddaru i gydymffurfio â'r safon a nodir yn y fanyleb wybodaeth o fewn yr hysbysiad newid safonau data hwn
- sicrhau bod y Tîm Caffael Data yn cydgysylltu â phob bwrdd iechyd yn unigol i drafod manylion y prosesau ar gyfer cyflwyno data a chynnig unrhyw gymorth angenrheidiol
Mae asesiad o'r effaith ar ddiogelu data wedi'i gymeradwyo ar gyfer cam 2 i alluogi llif a rheolaeth ddiogel ac effeithlon o wybodaeth sy'n datgelu pwy yw cleifion, yn unol â gofynion llywodraethiant.
Mae gan bob aelod o dimau gweithredol y byrddau a'r ymddiriedolaethau iechyd gyfrifoldeb am gyflwyno adroddiadau cywir ac amserol, yn unol â phob hysbysiad newid safonau data. Bydd cyfarwyddiadau a chanllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi i gefnogi byrddau iechyd i gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn yr hysbysiad newid safonau data. Bydd hyn yn cynnwys dyddiadau a phrosesau cyflwyno.
Diolch ichi ymlaen llaw am eich cymorth.
Yn gywir,
Lesley Law
Pennaeth Gofal a Gynlluniwyd
Cyflenwi a Pherfformiad
Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Copi at:
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
- Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
- Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru
- Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd
- Philip Barry, Cyfarwyddwr Gwelliant Gweithredol, Perfformiad a Gwella'r GIG
- Marilize du Preez, Arweinydd Proffesiynol ar gyfer y Polisi 3A
- Liz Davies, Arweinydd Polisi Gofal a Gynlluniwyd, Perfformiad a Gwella'r GIG
- Helen Roberts, Perfformiad GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
- Alex Percival, Pennaeth Rhaglenni Gofal a Gynlluniwyd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Cylchlythyr iechyd Cymru mewn cysylltiad â'r hysbysiad newid safonau data ar gyfer gwasanaeth un pwynt cyswllt aros yn iach y Polisi 3A (DSCN 2025/17)
Yr Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Health, Social Care and Early Years Group
Prif Swyddogion Gweithredol GIG Cymru
Prif Weithredwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru GIG Cymru
Arweinwyr Gweithredol y Polisi 3A
Arweinwyr Clinigol y Polisi 3A
26 Medi 2025
Annwyl gyfaill
Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd yn cyflwyno data'n fisol am Wasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A drwy ffurflen gyfanredol. Fel y cytunwyd gydag arweinwyr polisi 3A y byrddau iechyd, mesur dros dro yw hwn tra bod yr hysbysiad newid safonau data, a gydgynhyrchwyd â'r GIG, yn mynd drwy'r broses lywodraethiant berthnasol.
Ynghlwm, mae cylchlythyr iechyd Cymru sy'n rhoi gwybod i fyrddau iechyd y bydd yr hysbysiad newid safonau data hwn yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2026 ymlaen, pan fydd y ffurflen gyfanredol yn cael ei thynnu'n ôl. Byddwn yn gofyn i bob bwrdd iechyd sicrhau bod y diweddariadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'w systemau gweinyddu cleifion a rheoli gwybodaeth i gydymffurfio'n llawn â'r hysbysiad newid safonau data a'r amserlenni a nodwyd.
Yn gywir
Lesley Law
Pennaeth Polisi Gofal a Gynlluniwyd
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Copi at:
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
- Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
- Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru
- Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd
- Philip Barry, Cyfarwyddwr Gwelliant Gweithredol, Perfformiad a Gwella'r GIG
- Marilize du Preez, Arweinydd Proffesiynol ar gyfer y Polisi 3A
- Liz Davies, Arweinydd Polisi Gofal a Gynlluniwyd, Perfformiad a Gwella'r GIG
- Helen Roberts, Perfformiad GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
- Alex Percival, Pennaeth Rhaglenni Gofal a Gynlluniwyd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
