Neidio i'r prif gynnwy

Mae System Monitro Llongau y Glannau (IVMS) yn system fonitro sy'n seiliedig ar GPS sy'n darparu data i'r Awdurdod Pysgodfeydd yn rheolaidd ar leoliad, cwrs a chyflymder cychod. Mae'r ddyfais yn casglu data i fonitro ymddygiad cychod pysgota mewn amser real. Mae angen gosod dyfeisiau monitro ar unrhyw gwch pysgota sy'n llai na 12 metr o hyd sy'n gweithredu o fewn dyfroedd Cymru o dan Orchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022.

Pam fod angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol?

Er mwyn sicrhau bod eich llong yn cydymffurfio â'r Gorchymyn, mae angen i Lywodraeth Cymru brosesu rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch. Mae prosesu'r wybodaeth yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thasg gyhoeddus ac arfer ei hawdurdod swyddogol. Bydd Llywodraeth Cymru yn Rheolwr Data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir mewn perthynas â'r iVMS.

Y data a drosglwyddir gan y ddyfais fonitro yw:

  • rhif cyfresol unigryw'r ddyfais fonitro
  • safle daearyddol
  • dyddiad ac amser ar bob safle daearyddol
  • cyflymder a chwrs y cwch bryd hynny

Cofnodir y data hwn ar gronfa ddata a gynhelir gan Gyflenwr ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd cofrestr o rifau cyfresol dyfeisiau a dynodau cychod yn cael eu cynnwys ar yr un platfform.

Ar gyfer beth fyddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn prosesu eich data i fonitro, gorfodi, ac ar gyfer gwyddoniaeth a rheoli pysgodfeydd at ddibenion swyddogaethau statudol a pholisi'r Gweinyddiaethau. Mae cyfnewid data personol rhwng Gweinyddiaethau at ddibenion rheoli, cynllunio, gwyddoniaeth a gorfodi'r gyfraith ar y môr ac mewn pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig.

Beth yw'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer y newid hwn?

Y sail ddeddfwriaethol ar gyfer y newid hwn yw adran 5(1) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ar gyfer rheoleiddio'r gwaith pysgota a'r gweithrediadau sy'n ategol iddynt, a’u gwarchod, gan gynnwys darpariaeth mewn perthynas ag adnabod a marcio cychod pysgota ac offer pysgota. Bydd Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022 yn cael ei gyflwyno ar 15 Chwefror 2022 i'r perwyl hwnnw.

Pwy fydd yn gallu gweld fy ngwybodaeth bersonol?

  • Gellir datgelu eich data safle i asiantau awdurdodedig Llywodraeth Cymru, adrannau/rheoleiddwyr pysgodfeydd eraill yn y DU ac adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau perthnasol y Comisiwn Ewropeaidd, Aelod-wladwriaethau eraill a thrydydd gwledydd.
  • Bydd eich data safle ar gael, ar gais, i wylwyr y glannau yn y DU at ddibenion chwilio ac achub.
  • Gall eich data safle hefyd gael ei gyhoeddi neu ei ddatgelu ar ffurf ddienw a/neu gyfunol, i sefydliadau, cyrff neu bersonau eraill at ddibenion eraill, gan gynnwys ymchwil wyddonol.
  • Bydd fersiwn ddienw a chyfanredol o'r data yn cael ei hychwanegu at y Porth Cynllunio Morol, sydd ar gael i'r cyhoedd.
  • Mae gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y DU y gallu i ofyn am adroddiadau safle ar sail ad hoc a holi adroddiadau a gedwir yng nghof mewnol y ddyfais VMS at ddiben monitro a gorfodi.

 

Gellir rhannu data lleoliadau cychod gyda'r Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Faterion Morol a Physgodfeydd (DG-MARE) Comisiwn yr UE mewn achosion penodol, e.e. monitro gweithgareddau pysgodfeydd mewn cyd-destun rhyngwladol ehangach neu fel rhan o ymchwiliad penodol.

Yng nghyd-destun cytundebau rhyngwladol, caiff data IVMS eu cyfnewid drwy sianeli diogel gyda thrydydd gwledydd a sefydliadau rhyngwladol (Sefydliadau Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol - RFMOs) a dim ond mewn systemau diogel y cânt eu rheoli a'u defnyddio at ddibenion arolygu a gwyliadwriaeth yn unig.

Os bydd eich dyfais IVMS yn rhoi'r gorau i weithredu, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio hysbysu'r sgip neu'r perchennog.  Yn hytrach na thynnu eich dyfais i'w hatgyweirio neu ei hadnewyddu, gellir datrys y mater o bell weithiau, felly byddai eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu gyda chyflenwr y ddyfais i wneud diagnosis o'r mater gyda'r sgiper neu'r perchennog.

Cyn i'r system fynd yn fyw, gall eich dyfais gyfleu data profion dienw o bryd i'w gilydd.

Am ba hyd y cedwir fy ngwybodaeth bersonol?

Bydd Data IVMS yn cael ei gadw gan Lywodraeth Cymru cyhyd ag y bo angen ar gyfer cydymffurfiaeth statudol, dibenion archwilio, gwneud penderfyniadau gweithredol, modelu gweithgarwch yn y dyfodol neu adolygu gweithgareddau yn y gorffennol.

Eich hawliau

Mae mynediad at ddata IVMS yn cael ei reoli'n llym. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 gall perchnogion cychod ofyn am gael gweld eu data IVMS. Gall cynrychiolwyr llongau, gan gynnwys meistri, hefyd ofyn am ddata IVMS os oes ganddynt ganiatâd y perchennog i wneud hynny.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gafael ar y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru arnoch
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • i (mewn rhai amgylchiadau) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i'ch data (mewn rhai amgylchiadau) gael ei 'ddileu'
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Gwybodaeth gyswllt

I gael gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru yn rheoli eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'n Swyddog Diogelu Data:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 029 2067 8400

Ffacs: 029 2067 8399

E-bost: wales@ico.org.uk

Newidiadau i'r polisi hwn

Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg a byddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau ar unwaith.