Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Uned Tribiwnlysoedd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Uned Tribiwnlysoedd Cymru.

Yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y byddwn yn prosesu eich data personol.

Data personol yw unrhyw ddata am unigolyn sy’n fyw y gellir ei defnyddio i’w hadnabod. Mae’n cynnwys eu henw, cyfeiriad, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost neu gymwysterau. Y bobl fydd yn rheoli eich data personol fydd staff Uned Tribiwnlysoedd Cymru sy’n adran o fewn Llywodraeth Cymru.

Y math o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu

Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu’r wybodaeth a ganlyn: gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig fel enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol.

Sut rydym yn cael gafael ar yr wybodaeth bersonol a pham

Byddwn yn casglu eich data personol mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft:

  • Bydd y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn eu darparu pan fyddwch yn cael eich argymell ar gyfer penodiad
  • Byddwch chi yn eu darparu wrth ichi dderbyn penodiad

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi inni at y dibenion a ganlyn:

  • i dalu’ch ffioedd, costau teithio a chynhaliaeth
  • at ddibenion pensiwn
  • ar gyfer unrhyw reswm dilys arall sy’n berthnasol i’ch penodiad

We may share this information with: 

  • Tribiwnlysoedd Cymru
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
  • eJudiciary (ar gyfer eich cyfrif eJudiciary)
  • Coleg Barnwrol (ar gyfer eich hyfforddiant)
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
  • Y Swyddfa Farnwrol
  • Cyflogres Llywodraeth Cymru
  • Darparwr gwasanaethau’r gyflogres (Liberata ar hyn o bryd)
  • Darparwr pensiwn (XPS ar gyfer aelodau cyfreithiol / NEST ar gyfer aelodau nad ydynt yn gyfreithiol, ar hyn o bryd)
  • Adrannau eraill Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data gyda sefydliadau eraill o bryd i’w gilydd os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny.

O dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR), y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw: (e) Rydym ei angen i gyflawni tasg gyhoeddus.

Sut rydyn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel.

Byddwn yn cadw eich data tra byddwch yn aelod o Dribiwnlysoedd Cymru. Pan na fyddwch yn aelod mwyach, byddwn yn cadw eich gwybodaeth tra bydd hynny’n ofynnol yn unig, a dim hirach, yn unol â’r dyddiadau adolygu yn ein hatodlen ar gadw a gwaredu. Byddwn yn cael gwared ar eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel pan fydd y cyfnod cadw wedi dod i ben.

Pa hawliau sydd gennyf?

  • Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad bod eich data’n cael eu prosesu a hawl i gael gafael ar eich data personol
  • Mae gennych hawl i gael cywiro eich data personol os yw’r data yn anghywir neu’n anghyflawn
  • Mae gennych hawl i gael dileu data personol ac atal prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i ‘rwystro’ neu atal data personol rhag cael eu prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i gludadwyedd data mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyffredinol ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ran ohono, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru.

Y Rheolydd Data

Llywodraeth Cymru

2il Lawr 
Adain y De 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd

Llywodraeth Cymru
2il Lawr
Adain y De 
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Sut mae modd i mi gwyno os nad ydw i’n fodlon?

Os nad ydych chi’n fodlon ag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu â sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru.

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cwyn drwy gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113