Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Prif ganlyniadau

  • Mae’r Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi derbyn hysbysiad o 4,281 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers Mawrth 1 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19.
  • Mae hyn yn 53% yn uwch na'r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.
  • Roedd 68% o’r cyfanswm o farwolaethau ers Mawrth 1 2020 am breswylwyr oedd yn derbyn gofal gyda nyrsio.
  • Cafodd AGC hysbysiad o 745 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 17% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd ymysg preswylwyr mewn cartrefi gofal oedolion.
Image
Mae’r AGC wedi derbyn hysbysiad o 4,281 o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion ers 1 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys marwolaethau o bob achosion, nid yn unig COVID-19. Mae hyn 53% yn uwch na’r nifer o farwolaethau adroddwyd am yr un cyfnod blwyddyn ddiwethaf, ac yn 40% yn uwch na’r un cyfnod yn 2018.

Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr a dderbyniwyd o gartrefi gofal i oedolion, gan gynnwys marwolaethau o bob achos (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 7 Ionawr i 11 Medi 2020 (MS Excel)

Tabl 1: Y cyfanswm o farwolaethau preswylwyr a dderbyniwyd i AGC o gartrefi gofal i oedolion, Mawrth 1 i Medi 11 2020 wedi’i gymharu â’r un cyfnod dwy flynedd yn gynt
Y gofal a ddarparwyd 1 Mawrth i 11 Medi 2018 1 Mawrth i 11 Medi 2019 1 Mawrth i 11 Medi 2020
Gyda nyrsio 1,947 1,914  2,929 
Heb nyrsio 1,109 889 1,352
Cyfanswm 3,056 2,803 4,281 

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Yn ystod 2019, roedd gwasanaethau cartrefi gofal yn cael eu hail-gofrestru gyda AGC o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd, a chyflwynodd dull newydd o hysbysu AGC am farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal.  Gallai fod hyn wedi amharu ar yr hysbysiadau a gyflwynwyd.

Image
Cafodd AGC hysbysiad o 745 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19. Mae hyn yn ffurfio 17% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd.  Cafodd 349 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 396 fel achosion bosib o COVID-19.

Marwolaethau preswylwyr cartrefi gofal a hysbyswyd i AGC yn ôl achos marwolaeth a dyddiad yr hysbysiad (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 1 Mawrth i 11 Medi 2020 (MS Excel)

Mae’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn y siart yn cynnwys achosion sydd wedi’i gadarnhau ac achosion bosib o COVID-19. Ehangwyd y polisi profi cartrefi gofal ar 16 Mai i gynnwys cynnig profion i bob aelod o staff a phob preswyliwr sy’n symptomatig ac asymptomatig a nad ydynt erioed wedi profi'n bositif am COVID-19, hyd yn oed lle nad yw'r cartref wedi rhoi gwybod am achosion posibl neu wedi eu cadarnhau. Gallai profion mwy eang fod wedi arwain at rai marwolaethau'n cael eu cofnodi fel marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID-19 pan fyddant o'r blaen efallai wedi cael eu cyhoeddi fel rhai a amheuir o farwolaeth COVID-19

Rhwng Mawrth 1 a Medi 11 2020:

  • cafodd AGC hysbysiad o 745 o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal gydag achosion cadarnhaol neu phosib o COVID-19, mae hyn yn ffurfio 17% o'r holl farwolaethau a gofnodwyd
  • cafodd 349 o rain eu hadrodd fel achos cadarnhaol o COVID-19 a 396 fel achosion bosib o COVID-19
  • roedd yr achos cyntaf o farwolaeth COVID-19 a hysbyswyd i AGC ar Mawrth 16, a ddigwyddodd mewn lleoliad ysbyty
  • ers diwedd mis Mehefin mae llai na 5 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 wedi cael eu hysbysu i AGC bob wythnos
  • roedd pythefnos lle ni hysbyswyd unrhyw farwolaethau oedd yn gysylltiedig â COVID-19 i AGC
Image
Roedd 68% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal. Roedd 29% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty.

Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID-19 yn ôl lleoliad o farwolaeth a dyddiad yr hysbysiad (cyfartaledd treigl 7 diwrnod), 7 Mawrth i 11 Medi 2020 (MS Excel)

Tabl 2: Hysbysiadau o farwolaethau preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion gydag achos cadarnhaol neu phosib o COVID, yn ôl lleoliad o farwolaeth, Mawrth 1 i Medi 11 2020
Ambiwlans 2
Yn y gwasanaeth 506
Yr ysbyty 214
Hosbis 1
Arall 13
Cartref ei hunain 9
Anhysbys 0
Cyfanswm 745

Ffynhonnell: Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Rhwng Mawrth 1 a Medi 11 2020:

  • roedd 68% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn y cartref gofal
  • roedd 29% o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion posib a chadarnhaol o COVID-19 wedi’i lleoli yn yr ysbyty

2. Cefndir

Mae’r data a gynhwysir yn seiliedig ar yr Hysbysiadau o Farwolaethau Defnyddwyr Gwasanaethau a dderbyniwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) o gartrefi gofal i oedolion sy’n ymwneud â'i phreswylwyr. Gall y lleoliad o farwolaeth bod o fewn y cartref gofal, yn yr ysbyty neu mewn lleoliad arall. 

Cyhoeddir y data hwn i sicrhau bod mynediad i ddata AGC yn dryloyw ac i roi syniad amserol o'r tueddiadau ar gyfer pob marwolaeth o breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru, os yw’n achos o COVID-19 neu arall. Serch hynny mae AGC yn ddibynnol ar y darparwyr i hysbysu ac i allu mynegi bod y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19. Mae’r data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cynnwys pob marwolaeth sydd yn gysylltiedig â COVID-19 yn ôl y dystysgrif marwolaeth, yn adrodd niferoedd uwch o farwolaethau oherwydd COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda AGC a SYG i ymchwil ansawdd y data hwn.

Mae’r data yn y datganiad yma yn seiliedig ar ddyddiad yr hysbysiad yn hytrach na dyddiad y farwolaeth. Mae hysbysiadau i AGC am achosion marwolaeth yn cael ei adrodd gan y darparwr cartref gofal. Nid yw'r rhain yn seiliedig ar brofion a gadarnhawyd yn y labordy, ac felly nid oes modd eu cymharu yn uniongyrchol gyda data Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Yn ei dangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym, mae ICC yn cynnwys rhai hysbysiadau a dderbyniwyd o gartrefi gofal gyda phrawf am COVID-19 sydd wedi’i gadarnhau gan labordy. O ganlyniad, ni all y data yma cael eu hadio at ei gilydd. Byddwn yn gweithio gyda ICC ac AGC i ddeall yr orgyffwrdd yma a cheisio mesur faint o'r marwolaethau hyn sydd wedi'u chynnwys yn amcangyfrifon ICC.

Mae’r data a gynhwysir yn y datganiad yma yn gywir ar 23:59 Medi 11.

3. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Er mwyn gwella’r argaeledd amserol o ddata ar farwolaethau mewn cartrefi gofal sydd wedi’i achosi gan y coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cytuno i gyhoeddi cyfrifiadau dros dro o’r nifer o farwolaethau mewn cartrefi gofal, yn seiliedig ar hysbysiadau statudol gan ddarparwyr cartrefi gofal i’r AGC. Mae’r wybodaeth yma yn helpu i fonitro'r effeithiau o COVID-19, ac yn cyfrannu tuag at fonitro a phenderfyniadau ledled Cymru a’r DU.

Perthnasedd

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru, mae'n ofynnol yn statudol i ddarparwyr hysbysu marwolaethau preswylwyr i AGC. Hefyd, defnyddir yr ystadegau hyn yn ddyddiol at nifer o ddibenion eraill:

  • i ddeall yr effaith o’r pandemig ar gartrefi gofal
  • i gefnogi cyngor ar sail dystiolaeth am benderfyniadau dyfodol ynghylch adolygiadau o drefniadau cyfyngiad symud
  • cyfraniadau at fonitro a gwneud penderfyniadau ledled Cymru a’r DU

Cywirdeb

Caiff data ei gasglu yn ddyddiol trwy ffurflen ar-lein sydd wedi’i ddatblygu a chynnal gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dilyswyd y data yn erbyn datganiadau blaenorol a chwestiynwyd unrhyw newidiadau sylweddol.

Mae’r data yn cynnwys yr holl hysbysiadau hyd at ganol nos pob diwrnod.

Mae’r casgliad data yn ymwneud â phreswylwyr o gartrefi gofal i oedolion.

Mae’n ofynnol i gartrefi gofal hysbysu i AGC am y lleoliad ac achosion marwolaeth.  Cyn 29 Ebrill 2020 roedd hyn drwy flwch testun rhydd ac mae AGC wedi defnyddio chwiliadau â law ar y data i gynhyrchu crynodebau yn ôl categori. Ers 29 Ebrill 2020 mae’r ffurflen wedi’i diwygio i gynnwys categorïau blwch ticio gorfodol ar gyfer achosion cadarnhaol/posib o COVID-19, ac i gynnwys lleoliad (ysbyty, cartref gofal, hosbis, ambiwlans, arall). O ganlyniad mae yna newid i’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu’r ffigurau ers 29 Ebrill 2020.

O ran yr achosion ‘Cadarnhaol’ COVID-19, o Ebrill 29 ymlaen, mae'r darparwr cartrefi gofal wedi rhoi gwybod i AGC drwy ateb y cwestiwn: 'A oedd y farwolaeth wedi cael ei chadarnhau fel canlyniad o COVID-19?'.

Cyn y dyddiad hwn, ni ofynnwyd y cwestiwn yma i ddarparwr cartrefi gofal ac felly 'Cadarnhaol' ar gyfer y rhain yw lle mae arolygwyr AGC wedi adolygu'r data testun rhydd a hysbyswyd gan ddarparwr y cartref gofal (ar sail cwestiynau ‘achosion marwolaeth y person, os yw'n hysbys ac wedi'i gadarnhau gan ymarferydd meddygol’ a 'crynodeb o'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth y person a'r holl ffactorau sy'n cyfrannu') a phenderfynu ei fod yn ymwneud ag achos a gadarnhawyd.

Yn y ddwy senario, mae AGC yn ddibynnol ar y darparwr cartref gofal i'w hysbysu'n briodol o achos a gadarnhawyd.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o Fawrth 1 2020 ymlaen, ac ar gyfer yr un cyfnod ddwy flynedd yn gynt.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau ac Ymchwil o ein gwefan. Mae Taenlen Dogfen Agored yn cyd-fynd ag ef i ganiatáu i ddefnyddwyr gael mynediad uniongyrchol at y data tu ôl i'r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymharedd

Cyhoeddwyd data ar gyfer Lloegr am y tro cyntaf ar 28 Ebrill 2020.

Mae'r Prif Ystadegydd wedi cynhyrchu blog o'r gwahanol ffynonellau data ar farwolaethau cysylltiedig â coronafeirws (COVID-19) yng Nghymru.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddigwyddiadau'r sy’n datblygu dros y byd.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Hynny yw, Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Mawrth 15 Medi.

Hoffem gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at  kas.covid19@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Christopher Ravenscroft
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 143/2020