Mae yna lawer o ffyrdd o fynd i mewn i addysgu, ac ar Ddiwrnod Athrawon y Byd (Hydref 5), beth am ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i ddechrau'r daith tuag at fod yn athro?
A chyflog athro yn dechrau ar £33,700 ar hyn o bryd, ac yn cyrraedd hyd at £146,300 i bennaeth, mae'n amser gwych i fod yn athro yng Nghymru. Ac mae galw arbennig am athrawon ysgol uwchradd mewn pynciau allweddol (Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern, Ffiseg a Chymraeg).
Mae sawl cymhelliant i helpu pobl i fynd i mewn i addysgu, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi cadarnhau rhaglen gymorth ar gyfer 2026, sydd unwaith eto yn cynnwys Cymhelliant Pynciau â Blaenoriaeth, Cymhelliant i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, a Chymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ymwneud â'r Gymraeg. Mae cymhellion o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, i'r rhai nad ydynt ar y llwybr cyflogedig.
Mae'r llwybr cyflogedig yn opsiwn arall, sef llwybr i addysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth, a ddarperir gan bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored drwy gwrs TAR dwy flynedd. Gan weithio mewn ysgol, felly, gallwch gymhwyso drwy eich TAR ac ennill cyflog ar yr un pryd.
Mae'r llwybr cyflogedig a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020 yn dathlu pum mlynedd o helpu pobl i fynd i mewn i addysgu, sy'n cynnwys ariannu eu ffioedd hyfforddi. Ers ei lansio yn 2020, mae 505 o raddedigion wedi elwa o'r math hwn o hyfforddiant, ac mae ysgolion ledled Cymru hefyd wedi elwa o'r gefnogaeth ychwanegol gan athrawon dan hyfforddiant y mae'r llywodraeth yn talu amdani.
Gall y rhai sy'n dymuno bod yn athrawon cynradd neu'n athrawon uwchradd yn y meysydd pwnc canlynol ddilyn llwybr cyflogedig:
- Gwyddoniaeth
- Mathemateg
- Cymraeg
- Saesneg (gydag opsiynau mewn Drama neu'r Cyfryngau)
- Dylunio a Thechnoleg
- Ieithoedd tramor modern
- Cyfrifiadureg/TGCh
Mae'r llwybr hwn wedi bod o help arbennig i gofrestru darpar athrawon na fyddent efallai wedi gallu cael mynediad i'r proffesiwn fel arall, ac mae dros hanner (61%) y bobl sy'n dewis y llwybr hwn dros 30 oed.
Un athro sydd wedi elwa o'r llwybr hwn yw Michael Rees, dechreuodd Michael fel un o garfan wreiddiol y llwybr cyflogedig yn 2020. Gan weithio fel technegydd gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, ymddiddorodd Michael mewn bod yn athro, ac edrychodd ar yr opsiynau a oedd ar gael iddo, gan gynnwys llwybr cyflogedig TAR.
Gyda chefnogaeth ei Bennaeth, cafodd wneud ei TAR yn yr ysgol lle roedd eisoes yn gweithio, a oedd, meddai Michael, o fudd enfawr iddo:
Nawr, chwe blynedd i mewn i'w yrfa addysgu, ac yn Fentor TAR ei hun ar gyfer dechreuwyr newydd, mae Michael yn cofio'n ôl am y cyfle a gafodd drwy'r llwybr cyflogedig: "Bob diwrnod dw i'n addysgu, mae'n teimlo fel braint. Mae cael bod yn rhan o'r gwaith o addysgu pobl ifanc a gweld eu diddordeb mewn gwyddoniaeth yn tyfu yn dod â boddhad anhygoel.
I mi, dyma'r swydd orau yn y byd, a dw i'n ddiolchgar am y cyfle i gael gwneud TAR gan ennill cyflog ar yr un pryd.
Pan wnes i adael y brifysgol am y tro cyntaf, wnes i ddim meddwl am yrfa mewn addysgu, ond o fod yn rhan o'r ysgol fel technegydd gwyddoniaeth, fe wnes i ddarganfod yn fuan iawn fy mod i nid yn unig eisiau helpu i baratoi'r dosbarthiadau gwyddoniaeth, ond hefyd eu haddysgu.
Mae addysgu wedi rhoi cyfle imi nid dim ond i ddefnyddio fy sgiliau gwyddoniaeth, ond dw i wrth fy modd fy mod i'n cael defnyddio fy sgiliau Cymraeg bob dydd.
Fe fyddwn i wir yn annog pobl i ymchwilio i'r opsiynau o ran addysgu a mynd amdani.
Dywedodd Miss Lisa Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun:
Fel Penaethiaid, rydyn ni'n gweld bob dydd y gwahaniaeth y mae athrawon a staff cymorth dysgu ymroddedig yn ei wneud i fywydau ein disgyblion. Yng Nghymru, ac yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, rydyn ni'n gwybod bod yna heriau wrth geisio recriwtio, a dyna pam mae llwybrau amrywiol a hyblyg i addysgu yn hollol hanfodol.
Nid dim ond agor y drws i unigolion talentog fel Michael y mae'r llwybrau hyn, na fydden nhw efallai wedi mynd i mewn i'r proffesiwn fel arall. Maen nhw hefyd yn cyfoethogi ein hysgolion ag ystod fwy amrywiol o brofiadau, sgiliau a safbwyntiau. Drwy gefnogi'r TAR cyflogedig, rydyn ni'n buddsoddi mewn pobl angerddol a all ysbrydoli ein dysgwyr a chryfhau dyfodol addysg Gymraeg.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Dw i'n falch unwaith eto o gael cadarnhau pecyn o gymhellion i gefnogi'r rhai sydd eisoes yn hyfforddi ac i helpu i ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn addysgu. Mae stori Michael yn enghraifft bositif o sut mae'r cymorth sydd ar gael yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy'n dechrau ar eu taith i addysgu.
Mae'n wych gweld bod dros 500 o bobl wedi dewis hyfforddi drwy'r llwybr cyflogedig. Wrth iddo gyrraedd y garreg filltir o bum mlynedd, mae'r llwybr hwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd i bobl fynd i mewn i'r proffesiwn addysgu, rhai ohonyn nhw efallai na fydden nhw wedi gallu gwneud hynny fel arall. Mae'n opsiwn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion ac ysgolion.
Ar Ddiwrnod Athrawon y Byd, dw i am ddiolch i'n hathrawon a chydnabod y gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud wrth lywio'r genhedlaeth nesaf. I'r rhai sy'n ystyried addysgu, ga i eich annog i ddarganfod mwy am y cymorth sydd ar gael?
Dywedodd Dr Sarah Stewart, Cyfarwyddwr rhaglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru:
Bum mlynedd yn ôl, daeth y myfyrwyr TAR cyntaf trwy ddrysau rhithiol y Brifysgol Agored. Rwy'n falch iawn ein bod, yn ystod y cyfnod hwn, wedi helpu i greu dros 500 o athrawon cymwys. Rwy’n talu teyrnged i'w gwaith caled, y tiwtora a'r arweiniad arbenigol gan holl dîm y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac i'r bartneriaeth gref rydym wedi'i chreu gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion ledled Cymru. Rwy'n diolch yn arbennig i'n chwe ysgol arweiniol sy'n gweithio ochr yn ochr â ni i ddod â dysgu academaidd o ansawdd uchel a phrofiadau gwirioneddol o’r ystafell ddosbarth at ei gilydd.
Yn fwyfwy, mae myfyrwyr addysgu yng Nghymru yn gweld manteision astudio dros gyfnod o ddwy flynedd. Mae'n eu galluogi i barhau i ennill bywoliaeth, treulio amser gyda ffrindiau a theulu, ar yr un pryd ag astudio ar gyfer gyrfa gwerth chweil. Mae ein harweinwyr ysgol yn dweud bod y profiad hwn yn gwella eu parodrwydd ar gyfer y proffesiwn yn fawr. Mae'r llwybr yn denu pobl o gefndiroedd amrywiol, llawer ohonyn nhw'n newid galwedigaeth, gan ddod â chyfoeth o brofiadau gyda nhw i'r ystafell ddosbarth.
Dyma rai dulliau eraill o fynd i mewn i addysgu:
Tystysgrif addysg llawn-amser i raddedigion (TAR)
Mae'r dystysgrif hon ar gael ar gyfer lefel gynradd a thrydyddol ac mae'n cymryd blwyddyn i gwblhau. Mae angen gradd anrhydedd.
Gellir hunan-ariannu'r cwrs, neu efallai y bydd benthyciadau myfyrwyr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser ar gael i helpu gyda'r costau.
TAR Rhan-amser
Mae'r TAR rhan-amser ar gael ar lefel gynradd ac uwchradd, ac mae'n cymryd dwy flynedd i'w chwblhau. Mae angen gradd anrhydedd. Mae'n ffordd ddelfrydol o astudio'r TAR o amgylch swydd neu ymrwymiadau eraill. Gellir hunan-ariannu'r cwrs, neu efallai y bydd benthyciadau myfyrwyr a grantiau cynhaliaeth rhan-amser ar gael i helpu gyda'r costau.
Cwrs gradd amser llawn
Mae cwrs tair blynedd ar gael ar lefel gynradd.
Am ragor o wybodaeth am lwybrau i addysgu, ewch i: dod yn athro gydag opsiynau hyfforddiant hyblyg (Addysgwyr Cymru)
Mae cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ar gael gan ddarparwyr ledled Cymru (Addysgwyr Cymru)
