Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion sy’n byw yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Ni ddylid cymharu canlyniadau â blynyddoedd cyn 2020-21 (pan oedd cyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb).

Prif bwyntiau

  • 72% o oedolion yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu’n dda iawn.
  • 46% o oedolion yn dweud bod ganddynt salwch hirdymor.
  • 33% o oedolion yn dweud bod ganddynt salwch cyfyngus hirdymor.

Roedd oedolion yn yr ardaloedd gyda’r mwyaf o amddifadedd yn llai tebygol o adrodd am iechyd cyffredinol da neu dda iawn na'r rhai yn yr ardaloedd gyda’r lleiaf o amddifadedd, ac roeddwn nhw’n fwy tebygol o adrodd am salwch hirdymor / salwch cyfyngus hirdymor.

Roedd cyfran yr oedolion a adroddodd iechyd cyffredinol da neu da iawn yn is nag yn 2020-21.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Cath Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.