Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwybodaeth faint o arian sydd ar gael gan unigolion yn y sector aelwydydd ar gyfer gwario neu gynilo ar ôl i fesurau dosbarthiad incwm ddod yn weithredol ar gyfer 1997 i 2016.

Prif bwyntiau

  • Roedd incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn £15,835 y pen yn 2016, 81.5% o gyfartaledd y DU, i fyny 0.1 pwynt canran o'i gymharu â chyfartaledd y DU yn 2015.
  • Gwelodd Cymru’r trydydd cynnydd canrannol isaf  o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr rhwng 1999 a 2016, cynnydd o 58.8% o'i gymharu â 67.4% ar draws y DU.
  • Gwelodd Cymru’r seithfed cynnydd canrannol mwyaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr rhwng 2015 a 2016, i fyny 0.7% sydd yr un peth â chynnydd y DU. Roedd y cynnydd mwyaf yn Nwyrain Lloegr (i fyny 1.3%).
  • Mae'r amcangyfrifon ar gyfer 2016 yn dangos bod GDHI y pen yn Nwyrain Cymru a Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 86.5% a 78.5% gyfartaledd y DU yn y drefn honno.
  • Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi gweld cynnydd o 58.0% yn GDHI y pen ers 1999, tra bod Dwyrain Cymru wedi gweld 59.7% o gynnydd, y ddau o dan yr cynnydd ar gyfer y DU (cynnydd o 67.4%).
  • Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2016 y pedwerydd isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, o flaen Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.