Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwybodaeth faint o arian sydd ar gael gan unigolion yn y sector aelwydydd ar gyfer gwario neu gynilo ar ôl i fesurau dosbarthiad incwm ddod yn weithredol ar gyfer 2021.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2021. Effeithiodd pandemig y coronafeirws ar gydrannau GDHI yn wahanol ac adlewyrchir hyn mewn rhai symudiadau anarferol yn y data ar gyfer 2020 a 2021, yn enwedig wrth edrych ar ardaloedd daearyddol llai.

Prif bwyntiau

  • Roedd cyfanswm incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn 2021 yn £56 biliwn, cynnydd o 2.7% o’i gymharu â 2020. Cynyddodd cyfanswm GDHI y DU 3.6% dros yr un cyfnod i £1,453 biliwn.
  • Roedd GDHI yng Nghymru yn £18,038 y pen yn 2021, 83.2% o ffigur y DU, i fyny 0.9 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2020.
  • Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2021 y trydydd isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Caiff cymariaethau rhwng 2020 a 2021 ar gyfer amcangyfrifon GDHI y pen eu hystyried yn annibynadwy oherwydd diffyg parhad yn y data poblogaeth ar gyfer rhai ardaloedd, yn sgil gwahaniaethau o ran amseru diweddariadau cyfrifiad.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data a ddefnyddir yn y pennawd hwn, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Incwm Cartrefi Gros Rhanbarthol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Joshua Cruickshank

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.