Neidio i'r prif gynnwy

Data am incwm busnes fferm, dadansoddiad ar yr amrywiad o gwmpas y cyfartaledd, a chyd-destun hirdymor ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau’r Arolwg Busnes Fferm yng Nghymru ar gyfer 2019-20.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tabl ychwanegol gyda tueddiadau mewn tri fesur wahanol o incwm ffermydd.

Amharodd y pandemig coronafeirws (COVID-19) ar y broses o gasglu data a arweiniodd at oedi sylweddol wrth ddadansoddi a chyhoeddi’r canlyniadau. Penderfynwyd cyhoeddi'r canlyniadau allweddol cyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol (Mawrth 2021) gyda dadansoddiadau manwl pellach i ddilyn yn ystod y misoedd nesaf, yn ôl gofynion y defnyddwyr.

Incwm busnes fferm cyfartolog yng Nghrymu yn 2019-20, a newid ers 2018-19 (ar prisiau cyfredol)

Ffermydd godro

Mae incwm cyfartalog wedi amrywio’n fawr yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Ar ôl bod yn uchel yn 2017-18, dychwelodd yr incwm i lefel gymedrol (£50,700) ond wedi cynyddu 9% o’r flwyddyn diwethaf ac yn sylweddol uwch na'r cyfnod isel yn 2015-17.

Ffermydd gwartheg a defaid (Ardal Lai Ffafriol)

Ar ôl bod yn isel yn 2018-19, dychwelodd yr incwm i’r un lefel (£22,600) a welodd dros y chwe blynedd flaenorol yn dilyn cynnydd o 20% o’r flwyddyn diwethaf.

Ffermydd gwartheg a defaid (llawr gwlad)

Yn dilyn y cynnydd yn 2017-18, mae’r incwm cyfartalog yn aros ar yr un lefel (£16,600) a welodd yn 2015-16 yn dilyn gostyngiad bach o 3% o’r flwyddyn diwethaf.

Diweddariadau yn ystod 2022

Disgwylir i’r canlyniadau terfynol ar gyfer 2020-21 gael eu cyhoeddi ar ddechrau 2022.

Adroddiadau

Incymau fferm, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Incymau fferm, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 38 KB

ODS
Saesneg yn unig
38 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.