Neidio i'r prif gynnwy

Data am incwm busnes fferm, dadansoddiad ar yr amrywiad o gwmpas y cyfartaledd, a chyd-destun hirdymor ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Mae’r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau’r Arolwg o Fusnesau Ffermio yng Nghymru ar gyfer 2021-22.

Mae’r adroddiad yn cynnwys tabl ychwanegol sy’n dangos y tueddiadau mewn tri mesur gwahanol o incwm ffermydd.

Gwnaeth pandemig coronafeirws (COVID-19) barhau i amharu ar y broses o gasglu data, ac arweiniodd hynny at leihau’r sampl o’r 550 o ffermydd arferol i 517 o ffermydd ar gyfer y flwyddyn 2021-22.

Incwm cyfartalog busnesau ffermio yng Nghymru yn 2021-22, a’r newid ers 2020-21 (yn ôl prisiau cyfredol)

Ffermydd godro

Mae incwm cyfartalog wedi amrywio’n fawr yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf. Ar ôl cwymp yn 2018-19, mae incwm wedi cynyddu'n gyson o flwyddyn i flwyddyn ac wedi cyrraedd uchafbwynt newydd yn 2021-22 o £88,000. Mae hwn yn gynnydd o 46% o gymharu â’r llynedd ac yn sylweddol uwch nag ar gyfer y cyfnod isel yn 2015-16 a 2016-17.

Ffermydd gwartheg a defaid (Ardaloedd Llai Ffafriol)

Ar ôl bod yn isel yn 2018-19, cynyddodd incwm cyfartalog am y drydedd flwyddyn yn olynol ar gyfer 2021-22 i £38,600 (cynnydd o 29%) a dyma'r uchaf ers 2011-12.

Ffermydd gwartheg a defaid (llawr gwlad)

Ar ôl gostyngiad dros gyfnod o ddwy flynedd ers 2017-18, cynyddodd incwm cyfartalog ar gyfer 2021-22 am yr ail flwyddyn yn olynol, gan gyrraedd £26,500 (cynnydd o 16%), a dyma’r uchaf ers 2014-15.

Adroddiadau

Incymau fferm, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 982 KB

PDF
Saesneg yn unig
982 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Incymau fferm, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 55 KB

ODS
Saesneg yn unig
55 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Katherine Green

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.