Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data incwm fferm a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol yma yn deillio o’r Arolwg o Fusnesau Ffermio blynyddol. Incwm fferm yw’r gwahaniaethau bach rhwng y cyfanswm allbwn a’r cyfanswm mewnbwn, ac felly yn gallu bod yn anweddol dros flynyddoedd. Mae incwm fferm yn rhoi mesur pwysig o broffidioldeb fferm ac, yn ogystal â mesuriadau eraill o’r cyfrifon fferm, yn gallu hysbysu ar berfformiad a hyfywdra busnesau fferm.

Mae’n bwysig ystyried yr incwm fferm fwyaf diweddar o fewn cyd-destun tueddiadau hir dymor o fewn incwm fferm ac amodau'r farchnad.

Incwm busnes fferm yw’r mesuriad pennawd o incwm fferm yng Nghymru. Mae data o fesuriadau incwm eraill (incwm fferm net ac incwm arian parod) yn cael ei gyhoeddi mewn taenlen ynghyd a’r datganiad yma ar y tudalen ystadegau incwm fferm Llywodraeth Cymru.

Mae’r data a ddarperir yn yr adroddiad ystadegol hwn wedi cael eu Arolwg o Fusnesau Ffermio, Llywodraeth Cymru oni nodir yn wahanol.

Prif bwyntiau

Ffermydd godro

Mae eu hincwm cyfartalog wedi amrywio’n aruthrol dros y degawd diwethaf. Ar ôl y cwymp yn 2018-19, mae eu hincwm wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn gan gyrraedd uchafbwynt newydd yn 2022-23 ar ôl cynyddu 87% i £164,900. Gall y cynnydd sylweddol yma mewn incwm cael ei esbonio’n bennaf gan y codiad mewn allbwn gan laeth a chynnyrch llaeth, a wnaeth cynyddu 49% y flwyddyn ddiweddaraf.

Ffermydd gwartheg a defaid ALFf (Ardaloedd Llai Ffafriol)

Mae eu hincwm cyfartalog wedi cwympo 37% yn 2022-23 i £24,300. Mae hynny’n dilyn tair blynedd o’r bron o gynnydd (Edrychir yn fanylach ar y ffermydd hyn isod).

Ffermydd gwartheg a defaid (tir isel)

Yn dilyn dwy flynedd o gynnydd, gwelwyd gwymp o 30% yn eu hincwm cyfartalog yn 2022-23 i £18,700.

Cefndir a Chyd-destun

Er bod amaethyddiaeth yn rhoi cyfraniad cymharol fach i GDP ar 0.6% o GDP y DU, mae tua hanner o’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y DU yn dod o amaethyddiaeth y DU, gyda’r gweddill yn cael ei fewnforio o dramor. Mae amaethyddiaeth hefyd yn cael effeithiau pwysig ar yr amgylchedd naturiol, gyda dros 80% o dir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth. Mae incwm fferm yn dangos ychydig o anweddolrwydd o flwyddyn i flwyddyn, sy’n cael ei ddylanwadu gan amodau amaethyddol (gan gynnwys tywydd) a farchnadol. Yn ogystal, mae yna amrywiad eang mewn incwm ar gyfer ffermydd unigol, gan gynnwys ar gyfer ffermydd o'r un fath. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (GDP Allbwn – lefel-isel cyfan)y Llyfr Poced Ystadegau Bwyd (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a’r Arolwg Amaethyddol Mehefin

Mae’r datganiad hwn yn cwmpasu’r flwyddyn hyd at y 31ain o Fawrth 2023, ac felly yn cyd-daro a’r rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng costau byw. Mae’r ddau ddigwyddiad yma wedi cael effaith sylweddol ar gostau i ffermydd yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Ffigur 1: Incwm cyfartalog busnesau ffermio yng Nghymru, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linellau yn dangos incwm cyfartalog busnesau ffermio yn ôl math o fferm rhwng 2013-14 a 2022-23. Yn dilyn codiadau dilynol ers 2018-19, gwelodd ffermydd yr ALFf a thir isel gwymp bychan yn eu hincwm yn 2022-23. Gwelodd ffermydd godro fwy o gynnydd nag erioed ac mae eu hincwm yn uwch nag incwm pob math arall o fferm ar y siart.

Dosraniad o ffermydd, tir ac allbwn yng Nghymru

Mae’r adran hon yn dangos cyfrannau mathau o fferm, allbwn a thir yng Nghymru. Prif weithgaredd y fferm sy’n penderfynu pa fath o fferm yw hi.  Mae allbwn yn cynnwys allbwn cnydau a da byw unigol, allbwn gweithgareddau arallgyfeirio a chymhorthdal.  Mae tir yn seiliedig ar nifer yr hectarau a ddefnyddir at ddiben amaethyddol ar y fferm.

Ffigur 2: Cyfran y ffermydd yn ôl math o fferm o ran costau, allbwn, tir a nifer o ffermydd, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar wedi’i bentyrru sy’n dangos cyfran y ffermydd yn ôl math o fferm yng Nghymru, o ran eu costau, eu hallbwn, eu tir a’u nifer ar gyfer 2022-23. Ffermydd godro sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o gostau ac allbwn yng Nghymru, a ffermydd pori da byw yn yr ALFf sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o ffermydd a thir yng Nghymru. Pori da byw ar dir isel a ffermydd eraill sydd â’r cyfrannau isaf ym mhob un o’r pedwar categori. 

Mae Ffigur 2 yn dangos nad yw nifer y ffermydd o reidrwydd yn ddangosydd da o’u heffaith o ran gwerth ariannol na thir. 

Ffermydd godro sy’n gyfrifol am bron hanner (47%) cyfanswm allbwn amaethyddiaeth Cymru ac am 45% o gyfanswm y costau, hynny ar gyfran llawer llai o gyfanswm y tir (13%) a ffermydd (15%).  Mae’n bwysig ystyried hyn yng nghyd-destun incwm cyfartalog busnesau ffermio yng Nghymru gan fod ffermydd godro yn cael effaith sylweddol ar hyn trwy gynyddu’r cyfartaledd ond gan gyfrif ond am gyfran fach o dir a ffermydd yng Nghymru. 

Ffermydd pori da byw yn yr ALFf yw cyfran fwyaf y ffermydd a’r tir yng Nghymru, gan gyfrif am dau traean (66%) o’r holl fathau o ffermydd a bron dri chwarter (73%) o’r tir yng Nghymru.  Mae ffermydd pori da byw’r ALFf hefyd yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau ac allbwn amaeth Cymru (39% a 38% yn y drefn honno). 

Mae ffermydd pori da byw ar dir isel a mathau eraill o ffermydd yn cyfrif am gyfran llawer llai o amaeth Cymru, gyda ffermydd pori da byw ar dir isel yn cyfrif am 7% o’r holl gostau, allbwn a thir a 12% o’r holl ffermydd. Mae mathau eraill o ffermydd yn cyfrif am 8% o’r holl gostau ac allbwn, 6% o’r holl dir a 7% o’r holl ffermydd.

Incwm busnesau ffermio

Mae ffermydd mewn ALFf/LFA yn cael eu diffinio yn ôl meini prawf sy'n ymwneud ag ansawdd y tir, ac maent yn cynnwys ardaloedd ffermio’r bryniau a’r mynyddoedd. O fewn yr ALFf mae'r Ardaloedd dan Anfantais Fawr (SDA) a'r Ardaloedd Dan Anfantais (DA). Yng Nghymru, mae digon o ffermydd i ni allu dangos ffermydd defaid arbenigol yr SDA, ffermydd gwartheg a defaid cymysg yr SDA a ffermydd gwartheg a defaid y DA ar wahân. Efallai na fydd hyn yn wir mewn rhannau eraill o'r DU. Mae amgylchedd ardaloedd yr SDA yn fwy heriol ac yn ucheldir gan fwyaf. Mae ardaloedd y DA yn llai felly. Mae'r ardaloedd hyn yn dylanwadu ar y math o ffermio, gyda ffermydd yr ALFf yn ffermydd gwartheg a defaid yn bennaf, ac ar dir arall - a ddiffinnir fel Tir isel – y mae’r ffermydd godro a chnydau gan fwyaf.

Gweler yr adran Nodiadau am ragor o fanylion sut mae ffermydd yn cael eu dosbarthu i'r mathau hyn o ffermydd.

Ffigur 3: Incwm cyfartalog busnesau ffermio ALFf yng Nghymru, 2017-18 to 2022-23 (prisiau cyfredol)

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linellau’n dangos incwm cyfartalog busnesau ffermio yn ôl math o fferm yn yr ALFf o 2017-18 i 2022-23. Mae incwm ffermydd yn yr SDA Defaid, SDA Defaid/Eidion a DA Defaid/Eidion i gyd wedi cwympo yn 2022-23, yn enwedig ffermydd Defaid yr SDA. Mae incwm ffermydd yr SDA wedi cwympo o dan gyfartaledd Cymru ar gyfer pob fferm am y tro cyntaf ers 2017-18. 

Mae Ffigur 3 yn dangos bod gwahaniaethau sylweddol o fewn ffermydd yr ALFf, ond mae pob un wedi gweld gostyngiad yn incwm ei busnes ffermio yn 2022-23 o’i gymharu â'r flwyddyn cynt. Ffermydd Defaid yr SDA welodd y cwymp mwyaf yn eu hincwm yn 2022-23, o 45% i £28,700.  Ffermydd Defaid/Eidion y DA sydd â’r incwm cyfartalog isaf o holl ffermydd yr ALFf ers 2018-19 gyda cwymp o 33% yn 2022-23 o’i gymharu â’r flwyddyn cynt i £18,600. Mae ffermydd Defaid/Eidion  yr SDA wedi cwympo 23% yn y flwyddyn ddiwethaf i £24,100. 

Mae Tabl 1 isod yn dangos y newid mewn incwm cyfartalog ar gyfer pob math o fferm dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd nifer o ffactorau a ddisgrifir yn fanylach isod. Dylid ystyried y newid blwyddyn ar ôl blwyddyn ddiweddaraf gyda’r duedd amrywiol hon.

 

Tabl 1: Incwm cyfartalog busnesau ffermio yn ôl math o fferm yng Nghymru (£ i fferm), 2017-18 i 2022-23
Math o fferm2020-212021-222022-23% newid (2021-22 to 2022-23)
Yn ôl prisiau cyfredol
Gwartheg a defaid (LFA)29,90038,60024,300-37%
Defaid SDA40,00051,80028,700-45%
Tir pori DA27,70031,40024,100-23%
Tir pori SDA19,90027,80018,600-33%
Gwartheg a defaid (tir isel)22,90026,50018,700-30%
Godro60,20088,000164,90087%
Eraill41,40043,20047,80011%
Pob math o fferm34,30045,20046,6003%
Mewn termau real yn ôl prisiau 2022-23 [Nodyn 1]
Gwartheg a defaid (LFA)31,40038,60024,300-40%
Defaid SDA42,00051,80028,700-45%
Tir pori DA29,10031,40024,100-23%
Tir pori SDA20,90027,80018,600-33%
Gwartheg a defaid (tir isel)24,10026,50018,700-30%
Godro63,20088,000164,90087%
Eraill43,50043,20047,80011%
Pob math o fferm36,00045,20046,6003%

[Nodyn 1] Defnyddir y datchwyddwyr GDP yma i ddiweddaru ffigyrau ar gyfer 2020-21 (a chynt) i brisiau 2022-23.

Cyfanswm Incwm yn ôl Math o Fferm ar StatsCymru.

Incwm cyfartalog busnesau ffermio yn 2022-23, yn ôl math o fferm

Nawr byddwn yn edrych ar y gwahaniaethau allweddol mewn incwm cyfartalog ar gyfer y gwahanol fathau o ffermydd.

Ffermydd godro

Mae incwm cyfartalog busnesau ffermio wedi cynyddu am y bedwaredd flwyddyn o’r bron. Cynyddodd incwm fesul fferm 87% yn ôl prisiau cyfredol yn 2022-23 i £164,900. Gellir esbonio’r cynnydd sylweddol hwn yn eu hincwm yn bennaf gan y cynnydd o 49% yn yr allbwn llaeth a chynnyrch llaeth yn y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae nifer fach o ffermydd llaeth o fewn y sampl sy'n chwyddo'r incwm busnes fferm cymedrig yn artiffisial. Cynhaliwyd dadansoddiad ychwanegol eleni yn defnyddio cyfartaleddau wedi’u tocio a oedd yn ddiystyru’r ffermydd godro oedd â’r 5% o incwm uchaf a’r 5% o incwm isaf. Dangosodd hyn fod incwm cyfartalog busnesau ffermio ychydig yn is, ond roedd yn dal i fod yn sylweddol uwch na blynyddoedd cynt. Daethpwyd i’r casgliad nad oedd unrhyw wahaniaeth ystyrlon rhwng y cyfartaleddau a ddefnyddir yn y datganiad hwn a’r cyfartaleddau wedi’u tocio. 

Mae’r cynnydd yn incwm ffermydd godro wedi para er gwaethaf cwymp bach o 4% yn y cynhyrchiant llaeth o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Y rheswm o bosibl am hyn yw cyflenwadau tynn y farchnad yn ogystal â’r 45% o gynnydd ym mhris llaeth wrth gât y fferm yng Nghymru ers y flwyddyn cynt i 45 ceiniog y litr (cl). Mae’r gyfradd hon ychydig yn uwch na chyfartaledd prisiau llaeth y DU wrth gât y fferm a gododd 42% i 46cl yn 2022-23. Mae’r cynnydd hwn wedi niwtraleiddio’r cwymp bach o 11% yn yr allbwn cnydau.

Ffigur 4: Prisiau cyfartalog blynyddol llaeth wrth gât y fferm yng Nghymru a’r DU, 2014-15 i 2022-23
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy’n dangos y duedd gyffredinol ym mhrisiau cyfartalog llaeth wrth gât y fferm yn y DU ac yng Nghymru rhwng 2014-15 a 2022-23. Mae’r ddwy linell yn dilyn yr un trywydd gyda chwymp ym mhris y litr yn 2015-16 a 2016-17, gan gwympo i’w isaf o 23cl yn y DU a 21cl yng Nghymru. Gwelwyd cynnydd yn 2017-18 i 29cl yn y DU a 28cl yng Nghymru gyda 3 blynedd o brisiau sefydlog yn dilyn. Dechreuodd prisiau godi eto yn y DU a Chymru yn 2020-21 gyda’r cynnydd mwyaf erioed yn dilyn yn 2022-23 i 46cl yn y DU a 45cl yng Nghymru. Dros y cyfnod cyfan, roedd y pris cyfartalog yng Nghymru rhwng 1 a 3 cl yn is na phris cyfartalog y DU gyda bwlch o 1.7cl yn 2022-23.

[Nodyn 1] Daw prisiau Cymru wrth gât y fferm o sampl yr FBS ar gyfer 2022-23 a’u pwysoli yn ôl amcangyfrifon y boblogaeth.

Pris llaeth wrth gât y fferm: y pris cyfartalog a delir gan brosesyddion llaeth i ffermydd am eu llaeth. Dylid ystyried na fydd pob fferm yn derbyn y pris cyfartalog a gall fod yn fwy neu'n llai na'r cyfartaled yn dibynnu ar y contract neu'r cytundeb sydd ganddynt. Ar ôl i laeth adael y fferm, bydd yn mynd i gael ei brosesu cyn cael ei werthu i fanwerthwyr.

Fe welwch ragor o wybodaeth am brisiau llaeth y DU ar GOV.UK.

Ffigur 5: Incwm, allbwn a chostau cyfartalog ffermydd godro, 2017-18 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos allbwn, costau ac incwm cyfartalog ffermydd godro o 2017-18 i 2022-23. Gwelwyd costau’n codi yn 2017-18 ar gyfradd fwy serth na’r allbwn gan arwain at gwymp bychan mewn incwm. Rhwng 2018-19 a 2021-22, gwelwyd cyfradd yr allbwn yn codi ychydig yn fwy na chostau gan arwain at dwf graddol mewn incwm. Yn 2022-23, gwelwyd cynnydd yn yr allbwn ac yn y costau, ond yn uwch yn yr allbwn, gan arwain i naid yn incwm busnes ffermydd godro o ganlyniad. 

Gwelwyd cynnydd o 27% ar gyfartaledd (neu £113,700) yng nghostau cyffredinol busnesau ffermydd godro yn 2022-23. O’r costau hyn, cododd costau mathau newidiol ychydig llai na thraean, yn enwedig ar gyfer bwyd a phorthiant anifeiliaid a welodd cynnydd o 37%, sef £51,800 ar gyfartaledd. Roedd costau gwrtaith yn gynnydd pwysig arall, a fu bron â dyblu gyda chynnydd o 96% ar gyfartaledd, neu £18,200. 

Er bod y data’n dangos bod 2022-23 wedi bod yn flwyddyn broffidiol i ffermydd godro yng Nghymru, dylid ystyried ffrâm amser y pwyntiau data hyn yn ofalus ac er nad yw darlun llawn blwyddyn ariannol 2023-24 yn hysbys eto o ran cyllid ffermydd cyfan, mae data misol y DU gan Defra o brisiau llaeth wrth gât y fferm yn dangos bod prisiau llaeth yn sylweddol is o’u cymharu â’r hyn a ddisgrifiwyd yn y datganiad hwn. Mae’n debygol felly bydd allbwn llaeth a chynnyrch llaeth yn cwympo yn 2023-24.

Ffermydd gwartheg a defaid (ALFf)

Gwelwyd gostyngiad o 37% yn incwm cyfartalog busnesau ffermio (neu 40% mewn termau real) i £24,300 y fferm ers y flwyddyn cynt. 

Y rheswm yn rhannol am hyn yw cwymp yn allbwn cyfartalog busnesau ffermio (i lawr 8% yn 2022-23 o’i gymharu â 2021-22) tra oedd cynnydd bychan yng nghostau busnesau fferm (i fyny 3%).  O gyfuno’r ffactorau hyn, cafwyd gostyngiad yn yr incwm cyfartalog. 

Mae’n bwysig ystyried gwasgariad ffermydd yr ALFf yng Nghymru wrth edrych ar y gwahaniaethau yn incwm busnesau mathau o ffermydd. Ystyrir y gwasgariad hwn isod yn Ffigur 6. 

Ffigur 6: Cyfran ffermydd yr ALFf yn ôl math o fferm o ran costau, allbwn, tir a nifer y ffermydd, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far wedi’i bentyrru sy’n dangos cyfrannau ffermydd yr ALFf yn ôl math o fferm yng Nghymru o ran costau, allbwn, tir a nifer y ffermydd yn 2022-23. Ffermydd defaid yr SDA sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o ran costau (40%), allbwn (41%), tir (55%) a ffermydd (40%) o holl ffermydd yr ALFf yng Nghymru. Mae ffermydd pori da byw'r SDA yn cyfrif am ychydig llai na thraean o holl gostau (32%), allbwn (31%), tir (27%) a ffermydd (29%) yr ALFf. Ffermydd pori da byw yr AD sy’n cyfrif am gyfran leiaf yr holl ffermydd yn ALFf Cymru gyda 28% o’r costau, 27% o’r allbwn, 18% o’r tir ac ychydig llai na thraean (31%) o’r ffermydd.

Ffermydd Defaid yr SDA, Ffermydd Pori’r SDA a Ffermydd Pori’r DA

Mae incwm cyfartalog ffermydd defaid yr SDA wedi cwympo 45% (47% mewn termau real) yn 2022-23, hynny ar ôl cynyddu am dair blynedd. Yr incwm nawr yw £28,700, yr isaf ers 2018-19. Gwelwyd costau busnesau ffermio’n cwympo 5% yn ffermydd defaid yr SDA yn 2022-23, ond roedd allbwn cyfartalog y ffermydd hefyd wedi gostwng, 17% yn is na’r flwyddyn cynt, a dyma oedd un o brif achosion y cwymp yn incwm 2022-23. 

Mae incwm cyfartalog ffermydd defaid / eidion yr SDA hefyd wedi gostwng 33% i £24,100 yn ôl prisiau cyfredol, gostyngiad o 27% mewn termau real, yr incwm isaf ers 2019-20. Hynny er cynnydd bychan o 2% yn allbwn ffermydd o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Y rheswm pennaf am y cwymp yn incwm ffermydd yw’r cynnydd o 10% yng nghostau ffermydd yn 2022-23. 

Mae incwm cyfartalog ffermydd defaid / eidion y DA hefyd wedi gostwng 33% yn ôl prisiau heddiw (neu 37% mewn termau real) i £18,600, yr isaf ers 2019-20. Y rheswm pennaf am hyn yw’r cwymp bychan o 2% yn allbwn ffermydd ynghyd â’r cynnydd o 7% yng nghostau ffermydd yn 2022-23.

Ffermydd gwartheg a defaid (tir isel)

Gwelwyd cwymp o 30% yn incwm cyfartalog busnesau ffermio yn ôl prisiau cyfredol (neu 33% mewn termau real) i £18,700 y fferm. Eto, dyma’r isaf ers 2019-20, er bod cynnydd o 5% yn allbwn ffermydd o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Y rheswm pennaf am y cwymp yn incwm ffermydd yw’r cynnydd o 13% yng nghostau ffermydd yn 2022-23.

Pob math o fferm

Cododd incwm cyfartalog incwm busnesau ‘pob math o fferm’ 3% yn ôl prisiau cyfredol ond cwympodd 2% mewn termau real i £46,600 y fferm o’i gymharu â’r flwyddyn cynt. Dylid ystyried hyn yng nghyd-destun y tueddiadau croes a ddisgrifir yn y datganiad hwn. Mae’r cynnydd sylweddol yn incwm ffermydd godro a’r gostyngiad aruthrol yn incwm bron pob math arall o fferm a ddisgrifir yn y datganiad hwn yn golygu nad yw’r cyfartaledd ar gyfer ffermydd yng Nghymru yn fesur cywir ar ei ben ei hun ar gyfer 2022-23. 

Gwelwyd cynnydd hefyd mewn costau ar draws pob math o fferm, gan godi 15% ar gyfartaledd yn 2022-23 o’u cymharu â 2021-22. Priodolir hyn yn bennaf i gostau porthiant a bwydydd anifeiliaid a brynir a chynyddodd 25% ar gyfartaledd, gwrtaith a chynyddodd 53% (neu £4,500) ar gyfartaledd a thanwydd peiriannau a chynyddodd 41% (neu £2,700) ar gyfartaledd. Fe welwch ragor o fanylion am y cynnydd o dan benawdau’r costau isod yn Nhabl 2.

Tabl 2: Costau cyfartalog busnesau fferm yng Nghymru (£ i fferm), 2018-19 i 2022-23
Costau2020-212021-222022-23% Newid (2021-22 to 2022-23)
Costau'r busnes fferm [Nodyn 1]142,500 154,800 177,500 15%
Hadau1,800 1,800 2,300 32%
Gwrteithiau8,000 8,400 12,900 53%
Diogelu cnydau1,300 1,300 1,600 24%
Costau cnydau eraill1,500 1,700 2,000 20%
Prynu bwyd a phorthiant30,900 35,300 44,200 25%
Ffioedd milfeddygol a meddyginiaethau5,500 5,900 5,500 -7%
Costau da byw eraill [Nodyn 2]12,500 13,200 13,500 2%
Costau contractau [Nodyn 3]7,900 8,200 8,600 5%
Llafur achlysurol [Nodyn 4]2,400 2,200 2,300 4%
Llafur rheolaidd [Nodyn 5]5,100 5,600 5,200 -6%
Tanwydd peiriannau gan gynnwys olew5,000 6,500 9,200 41%
Trwsio peiriannau6,600 7,000 7,400 6%
Dibrisiant peiriannau [Nodyn 6]13,500 14,300 15,700 10%
Taliadau banc a ffioedd proffesiynol2,400 2,600 2,600 2%
Dwr, trydan a chostau cyffredinol eraill9,400 10,400 11,400 10%
Cyfraniad at daliadau llog net3,700 3,800 5,100 34%
Rhent a dalwyd9,800 10,600 10,200 -5%
Cynnal a chadw, atgyweirio ac yswiriant200 200 200 -3%
Dibrisiant adeiladau a gweithiau [Nodyn 7]3,800 4,300 4,500 4%
Costau sefydlog amrywiol [Nodyn 8]2,000 1,900 2,300 20%
Costau'r taliad sylfaenol / sengl3,600 3,400 3,700 8%
Costau taliadau amaeth/amgylchedd700 700 800 5%
Costau arallgyfeirio2,900 3,000 3,200 7%

[Nodyn 1] Mae'r costau wedi'u rhannu'n ddau fath: costau amrywiadwy a chostau sefydlog.

[Nodyn 2] Yn cynnwys gwellt sydd wedi’i brynu’n unswydd fel sarn (deunydd gwely), costau bridio (gan gynnwys AI a ffioedd march), costau godro amrywiol, diheintydd, marchnata a chostau storio cynnyrch anifeiliaid, ardoll y Cyngor Datblygu Llaeth a chostau eraill da byw nad ydyn nhw wedi’u nodi ar wahân. 

[Nodyn 3] Mae’r costau hyn yn cynnwys gwariant ar waith a wnaed gan gontractwyr amaethyddol, gan gynnwys costau deunydd fel gwrtaith, oni bai bod modd eu nodi o dan bennawd penodol. Dylid cynnwys hefyd gost llogi peiriannau a ddefnyddir gan weithwyr y fferm ei hun. Ni ddylid cynnwys costau llafur ar gontract oni bai eu bod yn gysylltiedig â llogi peiriant. Fel arall, dylid eu nodi o dan lafur (achlysurol). 

[Nodyn 4] Mae hyn yn cynnwys cyflogau a chyfraniadau yswiriant y cyflogwr, taliadau mewn da a rheolwyr cyflogedig.

[Nodyn 5] Chost sefydlog.

[Nodyn 6] Dangosir dibrisiant ar sail costau cyfredol. Bwriedir i’r cyfraddau dibrisiant a ddefnyddir (balans lleiedig ar gyfer peiriannau) adlewyrchu maint y dirywiad yn yr ased. 

[Nodyn 7] Cyfrifir hyn ar sail costau cyfredol (ar sail llinell syth fel arfer, dros gyfnod o 10 mlynedd), a’i newid i ddangos effaith grantiau cyfalaf). 

[Note 8] Yn cynnwys gwaith a wneir ar ffermydd eraill.

Costau cyfartalog busnesau fferm yng Nghymru ar StatsCymru.

Amrywiad yn incwm busnesau ffermio

Mae'r gwerthoedd cyfartalog a ddangosir yn y datganiad hwn yn cuddio'r amrywiad sylweddol mewn incymau ar lefel ffermydd unigol, rhwng ac o fewn mathau o ffermydd. Un ffordd o edrych ar yr amrywiad mewn incymau yw ystyried gwahanol grwpiau incwm. Mae Ffigur 7 isod yn dangos ffermydd sydd wedi'u grwpio yn ôl lefel incwm eu busnes ffermio dros y saith mlynedd diwethaf, a hefyd yn ôl y math o fferm ar gyfer 2022-23.

Gall ystod o ffactorau ffisegol, cymdeithasol ac economaidd ddylanwadu ar lefel yr incwm ar fferm. Bydd sgiliau a chrebwyll busnes y ffermwr yn elfen bwysig. Bydd lefel yr incwm hefyd yn dibynnu ar gostau cynhyrchu ac amgylchiadau'r fferm (er enghraifft, lleoliad, ansawdd y tir, maint economaidd y fferm a'r mathau o weithgarwch a wneir). Effeithir hefyd ar incymau gan ble mae’r fferm yn ei chylch busnes. Er enghraifft, efallai y bydd gan fferm sydd newydd fuddsoddi i ehangu neu i wella incwm isel dros dro hyd nes i'r buddion ddechrau cronni. 

Mae gwerthoedd cyfartalog incwm ffermydd yn cuddio amrywiad sylweddol mewn incymau ar lefel fferm. Mae amrywiad yn bodoli rhwng ac o fewn mathau o ffermydd, gyda ffactorau ar lefel fferm yn dylanwadu ar amrywiadau yn y cynhyrchiant a’r costau.

Ffigur 7: Amrywiad yn incwm busnesau ffermio yng Nghymru, 2017-18 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart golofnau wedi’u pentyrru sy’n dangos yr amrywiad yn incwm busnesau ffermio rhwng 2017-18 a 2022-23. Mae’r categori ‘incwm negyddol’ wedi cynyddu yn 2022-23 ar ôl cwympo ers 2018-19. Mae’r categori dros £75k wedi aros yn sefydlog yn 2022-23. Y categori £10k i £25k oedd y mwyaf yn 2022-23, gyda’r categori incwm negyddol yn ail agos. 

Mae Ffigur 7 yn dangos lefel yr amrywiad yn incwm cyfartalog busnesau ffermio.

Dros y chwe mlynedd a ddangosir, mae cyfran arwyddocaol o ffermydd ym mhob band maint incwm. 2018-19 sydd â'r gyfran uchaf o ffermydd yn gwneud colled (22.1%). Roedd cyfran y ffermydd ag o leiaf incwm o £50,000 ar ei uchaf yn 2020-21 (29.4%), yr uchaf ers 2017-18 (12.4%). Mae hyn yn cwympo i 25.5% yn 2022-23 ac yn dangos anweddolrwydd y sector ffermio ac effaith prisiau ar lefel genedlaethol.

Mewn datganiadau blaenorol, dangoswyd yr amrywiad mewn incwm busnesau ffermio fesul band incwm yn ôl y math o fferm. Fodd bynnag, ar gyfer y blynyddoedd diwethaf, nid oes digon o ffermydd godro wedi bod yn y categorïau isaf (incwm negyddol a £0 i <£10,000).

Mae ffermydd godro yn parhau i fod ag incwm yn y band mwyaf. Gellir priodoli hynny i'r ffaith bod cyfran fawr o ffermydd godro mewn grŵp allbwn busnesau ffermio uwch o’u cymharu â mathau eraill o ffermydd. Gweler Ffigur 8 isod.

Mae amrywiad yn parhau hefyd ar draws ffermydd yr ALFf sy'n gwneud colled. Yn 2022-23, ffermydd defaid yr SDA oedd â'r nifer lleiaf yn gwneud colled a ffermydd defaid / eidion y DA oedd â'r nifer mwyaf yn gwneud colled ar draws pob math o fferm. Fodd bynnag, mae rhai ffermydd godro yn gwneud colled a rhai ffermydd gwartheg a defaid yn gwneud elw mawr. Mae'n bwysig nodi bod bob math o fferm hefo ffermydd ym mhob un o'r bandiau.

Gellir gweld incwm cymharol busnesau ffermio a dadansoddiadau manylach, gan gynnwys allbwn, costau ac incwm cyfartalog busnesau ffermio, yn y tablau data ychwanegol sydd wedi’u cyhoeddi gyda’r datganiad hwn.

Ffigur 8: Amrywiad mewn Incwm Busnesau Ffermio yn ôl Math o Fferm yng Nghymru, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart ‘blwch a blewyn’ yn dangos yr amrywiad o fewn pob math o fferm ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Pen uchaf a phen isaf pob blwch yw chwarteli uchaf ac isaf (25% a 75%) pob math o fferm. Ffermydd godro sy’n dangos yr amrywiad mwyaf, pori ar dir isel sy’n dangos y lleiaf. 

Mae’r blwch ei hun yn gorchuddio ble mae 50% o’r data (y bwlch rhwng chwarteli fel y’i gelwir). Mae’r ‘blewyn’ yn dangos 10% isaf a 10% uchaf ystod y data (neu’r 10fed canradd a’r 90fed canradd fel y’u gelwir). Sylwch fod yr uchod yn cyfeirio at amcangyfrifon wedi’u pwysoli o sampl yr Arolwg o’r Busnesau Ffermio ac nid y gwir boblogaeth ffermio yng Nghymru. 

Ffermydd godro sydd â’r ystod incwm mwyaf ac er mai £164,000 oedd yr incwm ar gyfartaledd yn 2022-23, mae llawer o ffermydd godro o fewn y boblogaeth yn ennill llawer mwy neu lawer llai na hyn. 

Nodwedd bwysig o Ffigur 8 yw bod rhywfaint o orgyffwrdd ar draws pob math o fferm. Mae hynny’n golygu er mai ffermydd godro sy’n ennill yr incwm uchaf ar gyfartaledd a phori ar dir isel yr incwm isaf ar gyfartaledd, mae yna ffermydd pori ar dir isel sy’n ennill mwy na ffermydd godro ac i’r gwrthwynebMae hyn yn wir wrth gymharu pob math o fferm yn 2022-23.

Ffigur 9: Amrywiad yn Incwm Busnesau Ffermio yn ôl Maint Allbwn Safonol Ffermydd yng Nghymru, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart ‘blwch a blewyn’ sy’n dangos yr amrywiad o fewn allbwn safonol pob fferm ym mlwyddyn ariannol 2022-23. Sylwch fod yr uchod yn cyfeirio at amcangyfrifon wedi’u pwysoli o sampl yr Arolwg o’r Busnesau Ffermio ac nid y gwir boblogaeth ffermio yng Nghymru. 

Fel yr amrywiad o fewn y mathau o ffermydd yn Ffigur 8, ceir llawer o amrywiad hefyd o fewn maint allbwn safonol pob grŵp. Yn wahanol i’r mathau o ffermydd, nid oes gorgyffwrdd amlwg ar draws pob grŵp allbwn safonol, ac nid oes gorgyffwrdd rhwng y grŵp £0-£75,000 a’r grŵp £500,000+. Mae hynny’n golygu nad oes yna ffermydd ag allbwn safonol o £500,000+ enillodd llai na fferm ag allbwn safonol o £0 i £75,000.

Fe welir gorgyffwrdd rhwng grwpiau eraill, sy’n golygu bod yna ffermydd yn y grŵp allbwn safonol £125,000-£250,000 enillodd fwy na’r rheini yn y grŵp £500,000+ ac i’r gwrthwyneb.

Amrywiad yn allbwn busnesau ffermio

Mae hefyd yn ddefnyddiol ystyried amrywiad yn allbwn busnesau ffermio. Mae Ffigur 10 isod yn dangos bod amrywiad eang rhwng ffermydd o ran lefel allbwn eu busnesau ffermio a bod cyfran y ffermydd yn dal i fod yn weddol gyson ar draws y saith mlynedd. Yn 2022-23, roedd gan 40% o ffermydd allbwn o lai na £100k, tra bod gan 27% o ffermydd allbwn o £200k neu fwy.

Ffigur 10: Amrywiad yn allbwn busnesau ffermio yng Nghymru ar gyfer pob math o fferm, 2017-18 i 2022-23 (prisiau cyfredol)

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: siart golofnau wedi’u pentyrru sy’n dangos yr amrywiad yn allbwn busnesau ffermio o 2017-18 i 2022-23. Bu sefydlogrwydd rhwng 2017-18 a 2019-20 ond roedd y categorïau £100,000 i £200,000 a £200,000+ yn fwy yn 2021-22 a 2022-23.

Mae Ffigur 11 yn dangos mai dim ond 16% o fusnesau ffermydd godro yn y sampl oedd ag allbwn o lai na £200k yn 20221-23, tra mai’r gwerthoedd cyfatebol oedd 49% ar gyfer ffermydd gwartheg a defaid yr ALFf a 47% ar gyfer ffermydd gwartheg a defaid tir isel. Gellir gweld amrywiad pellach o fewn ffermydd yr ALFf, gyda 31% ar gyfer ffermydd defaid yr SDA a 51%  ar gyfer ffermydd defaid ac eidion y DA. 

O ran ffermydd ag allbwn busnes o £200k neu fwy, roedd 84% o ffermydd godro yn y categori allbwn hwn, ond dim ond 12% o ffermydd gwartheg a defaid tir isel oedd yn y categori hwn. Roedd gan 16% o ffermydd yr ALFf y lefel hon o allbwn, gyda 28% o ffermydd defaid yr SDA a 10% o ffermydd defaid ac eidion y DA.

Ffigur 11: Amrywiad yn allbwn busnesau ffermio yng Nghymru yn ôl math o fferm, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: siart golofnau wedi’u pentyrru sy’n dangos yr amrywiad yn allbwn busnesau ffermio yn ôl math o fferm yn 2022-23. Ceir amrywiadau amlwg ar draws y mathau o ffermydd, gyda’r un fferm odro ag allbwn o lai na £100,000. Nid yw’r FBS yn cynnwys micro-ffermydd a ffermydd sy’n arbenigo mewn garddwriaeth, dofednod a moch.

Fodd bynnag, wrth edrych ar y gyfran o allbwn ym mhob band allbwn fel y dangosir yn Ffigur 12, mae 68% o'r allbwn yn dod o ffermydd yn y band allbwn £200,000 neu fwy ar gyfer pob math o fferm. Mae ffermydd godro yn y band hwn yn cyfrannu'n sylweddol gyda 97% o gyfanswm eu hallbwn. Fel yn achos ffigurau Incwm Busnesau Ffermio, mae bob math o fferm hefo ffermydd ym mhob un o'r bandiau.

Ffigur 12: Amrywiad yn allbwn busnesau ffermio yng Nghymru yn ôl math o fferm, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart golofnau wedi’u pentyrru sy’n dangos yr amrywiad yn allbwn busnesau ffermio yn ôl math o fferm yn 2022-23. Ceir amrywiadau amlwg ar draws y mathau o ffermydd, e.e. nid oes gan ffermydd odro unrhyw ffermydd gydag allbwn o lai na £100,000.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Geirfa a nodiadau

O ran busnesau anghorfforedig, mae incwm busnesau ffermio yn cynrychioli'r elw ariannol i'r holl weithwyr di-dâl (ffermwyr, eu priod, partneriaid nad ydynt yn brif bartneriaid a'u priod, a gweithwyr teulu) ac ar eu holl gyfalaf a fuddsoddwyd yn y busnes ffermio (gan gynnwys tir ac adeiladau). Ar gyfer busnesau corfforedig, mae'n cynrychioli'r elw ariannol ar gyfalaf cyfranddalwyr a fuddsoddwyd yn y busnes ffermio. Mae incwm busnesau ffermio yn cynnwys rhai eitemau 'tybiannol', megis dibrisiant asedau fferm (e.e. peiriannau) a newidiadau yng ngwerth da byw bridio.

Yn y bôn, mae incwm busnesau ffermio yr un fath ag elw net, sy’n fesur cyfrifyddu ariannol safonol i gyfrif incwm, ac yn cael ei ddefnyddio'n helaeth o fewn amaethyddiaeth a thu hwnt. Fodd bynnag, mae defnyddio'r term incwm busnesau ffermio yn hytrach nag elw net:

  • yn rhoi syniad o wreiddiau cyfrifyddu rheoli fferm y mesur yn hytrach na chyfrifyddu ariannol, ac yn disgrifio ei gyfansoddiad yn gywir
  • yn hawdd ei adnabod i ddefnyddwyr fel mesur o incwm ffermydd

Mae’n bwysig cofio nad yw incwm busnesau ffermio yn cynnwys ffynonellau incwm eraill o'r tu allan i'r busnes ffermio (megis swyddi eraill y ffermwr neu briod y ffermwr y tu allan i'r fferm).

Pris wrth gât y fferm

Y pris a gaiff cynhyrchwyr (ffermydd) am eu cynhyrchion amaethyddol. Unwaith y bydd y cynhyrchion amaethyddol hyn yn gadael y fferm, gallant fynd drwy brosesu eilaidd. Er enghraifft, ar ôl i laeth adael y fferm, bydd yn mynd i gael ei brosesu cyn cael ei werthu i fanwerthwyr.

LFA

Sefydlwyd y dosbarthiad hwn ym 1975 fel modd o ddarparu cymorth i ardaloedd ffermio mynyddig. O fewn yr LFA mae Ardaloedd dan Anfantais Fawr (SDA) a'r Ardaloedd Dan Anfantais (DA). Mae'r SDA yn ardaloedd mwy heriol yn amgylcheddol ac yn ardaloedd ucheldir o ran cymeriad i raddau helaeth. Mae'r map isod yn dangos yr LFA, SDA a'r DA yn y Deyrnas Unedig, ac mae Tabl 2 yn dangos gwerthoedd a chanrannau ar gyfer yr ardaloedd hyn yn ôl gwlad yn y DU.

Ardaloedd Dan Anfantais Fawr (SDA) / Ardaloedd Dan Anfantais (DA)

O ffermydd sydd wedi'u dosbarthu fel LFA, mae'r rhai y mae eu tir LFA yn gyfan gwbl neu'n bennaf (50% neu fwy) yn yr Ardal Dan Anfantais Fawr (SDA) yn cael eu dosbarthu fel SDA; mae'r rhai y mae eu tir LFA yn gyfan gwbl neu'n bennaf (mwy na 50%) yn yr Ardal Dan Anfantais (DA) yn cael eu dosbarthu fel DA.

Blynyddoedd cyfrifyddu

Mae'r ffigurau ar gyfer 2021-22 a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r blynyddoedd cyfrifyddu sy'n dod i ben rhwng 31 Rhagfyr 2021 a 31 Mawrth 2022, felly maent yn adlewyrchu amodau ffermio rhwng mis Ionawr 2021 a mis Mawrth 2022.

Incwm cyfartalog ffermydd

Pan ddefnyddir y term 'cyfartalog' i ddisgrifio mesurau incwm ffermydd (a mesurau eraill) yn y datganiad hwn, mae hyn yn golygu bod y cymedr (nid y canolrif na'r modd) wedi'i gymryd o'r data fferm wedi’i bwysoli.

Tabl 3: Ardaloedd Llai Ffafriol yn y Deyrnas Unedig
FfermCymruLloegrYr AlbanGogledd IwerddonDU
Ardal (miliwn hectar) 
Ardal Dan Anfantais Ddifrifol (SDA)1.21.66.80.610.1
Ardal Dan Anfantais (DA)0.50.60.10.41.6
Ardal lai ffafriol (LFA) = SDA + DA1.62.26.90.911.7
Gwartheg 0.410.81.00.512.7
Pob Tir 2.113.07.91.424.4
% Pob Tir
Ardal Dan Anfantais Ddifrifol (SDA)56%12%86%41%42%
Ardal Dan Anfantais (DA)23%5%2%26%6%
Ardal lai ffafriol (LFA) = SDA + DA79%17%88%67%48%
Gwartheg 21%83%12%33%52%
Pob Tir 100%100%100%100%100%

Prisiau cyfredol ac mewn termau real (prisiau 2022-23)

Er mwyn dangos effaith chwyddiant, mae rhai canlyniadau yn y datganiad hwn ar sail prisiau cyfredol (megis cyfartaleddau ar gyfer incwm busnesau ffermio yn Nhabl 1) wedi'u huwchraddio gan ddefnyddio datchwyddyddion GDP i ddangos prisiau mewn termau real hefyd. Mae'r data datchwyddydd GDP a ddefnyddir yma ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rheoli datgelu

Er mwyn diogelu cyfrinachedd ffermydd sy'n cymryd rhan yn yr Arolwg o Fusnesau Ffermio, ni ddangosir canlyniadau categori os ydynt yn dibynnu ar ddata ar gyfer llai na 5 fferm (neu ddim ffermydd) o'r sampl. 

Talgrynnu

Mae gwerthoedd incwm ffermydd a ddangosir yn y datganiad hwn wedi'u talgrynnu i'r can punt agosaf, felly efallai na fydd gwerthoedd wedi'u talgrynnu yn adio i fyny i'r cyfanswm. Mae cyfrifiadau (megis canran neu newid gwirioneddol) wedi'u gwneud ar werthoedd heb eu talgrynnu.

Methodoleg ar gyfer dosrannu elfennau incwm ac allbwn

Mae pedair elfen o fusnesau ffermio sydd o ddiddordeb arbennig (a elwir hefyd yn 'ganolfannau cost’): amaethyddiaeth, y taliad sylfaenol / sengl, taliadau amaeth-amgylcheddol ac arallgyfeirio. Yn ymarferol, mae'n anodd gwahanu costau (ac felly nodi incwm, neu elw) ar gyfer yr elfennau hyn. Felly, datblygwyd methodoleg i ddyrannu costau amrywiadwy a sefydlog i'r pedair elfen hyn o'r busnes. Mae'r fethodoleg i ddyrannu costau yn cynnwys rhywfaint o amcangyfrif, felly dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r canlyniadau.

Dosbarthu'r math o fferm ac Allbynnau Safonol (SO)

Mae'r Allbwn Safonol (SO) yn fesur ariannol a ddefnyddir i ddosbarthu'r math o fferm. Mae allbynnau safonol yn mesur cyfanswm gwerth allbwn unrhyw fenter - y pen ar gyfer da byw a fesul hectar ar gyfer cnydau. Ar gyfer da byw, mae'n golygu gwerth y prif gynnyrch (llaeth, wyau, cig oen, porc) ynghyd â gwerth unrhyw gynnyrch eilaidd (llo, gwlân) llai y gost amnewid. Ar gyfer cnydau, mae'n golygu gwerth y prif gynnyrch (e.e. gwenith, haidd, pys) ynghyd ag unrhyw sgil-gynnyrch sy'n cael ei werthu, er enghraifft, gwellt. Mewn geiriau eraill, SO cynnyrch amaethyddol yw gwerth ariannol cyfartalog yr allbwn amaethyddol fesul uned ar brisiau gât y fferm.

Mae'r dosbarthiad o 'fathau' o ffermydd yn y DU a'r UE yn seiliedig ar gyfrifo a defnyddio cyfernodau SO ar gyfer mentrau fferm unigol.

Gellir crynhoi nodweddion mathau o ffermydd sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn fel a ganlyn

Ffermydd godro

Ffermydd lle mae gwartheg godro yn cyfrif am fwy na dwy ran o dair o gyfanswm yr SO.

Gwartheg a defaid

Ffermydd nad ydynt yn gymwys fel ffermydd godro ond y mae mwy na dwy ran o dair o gyfanswm eu SO yn dod o dda byw sy'n pori (gwartheg a defaid). Fe'u rhennir fel a ganlyn:

Gwartheg a defaid (LFA)

Mae mwy na 50% o'r tir a ffermir yn yr LFA.

Gwartheg a defaid (tir isel)

Mae llai na 50% o'r tir a ffermir yn yr LFA.

Mae cyfernodau SO wedi'u diweddaru ym mhob Aelod-wladwriaeth ac fe'u defnyddir i ddosbarthu ffermydd o 2013 ymlaen. Gan mai'r trothwy ar gyfer cynnwys ffermydd yn yr Arolwg o Fusnesau Ffermio yng Nghymru yw o leiaf €25,000 o allbwn safonol, bydd newidiadau i gyfernodau allbwn safonol yn effeithio ar boblogaeth yr arolwg yn ogystal â dosbarthiad ffermydd. 

O fewn aelod-wladwriaethau'r UE, mae cyfernodau SO yn cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd. Yn y DU, cyfrifir y rhain ar gyfer pob rhanbarth NUTS1, felly cyfrifir Cymru fel un rhanbarth. Cymerir cyfartaleddau dros gyfnod o nifer o flynyddoedd i leihau effaith amrywiadau blynyddol mewn prisiau; cafodd y cyfartaleddau a ddefnyddiwyd yn flaenorol eu mesur dros y cyfnod 2005-2009 (y cyfeirir atynt fel SO 2007). Ailgyfrifwyd Allbynnau Safonol ar gyfer y cyfnod 2008-2012 (y cyfeirir atynt fel SO 2010) ac maent bellach wedi'u hailgyfrifo ar gyfer 2018-19 ymlaen (y cyfeirir atynt fel SO 2013).

Yn Ffigur 1 a Ffigur 2 ar frig y datganiad hwn, mae data ar gyfer 2012-13 tan 2017-18 yn seiliedig ar SO 2010, tra bod data ar gyfer 2018-19 ymlaen yn seiliedig ar SO 2013. Oherwydd y newid hwn mewn methodoleg, dylid bod yn ofalus wrth wneud unrhyw gymariaethau rhwng data ar gyfer 2018-19 ymlaen a data cynharach.

Defnyddwyr a defnyddiau data ar incymau fferm

Defnyddir data ar incymau fferm i fonitro a gwerthuso polisïau'r llywodraeth a'r UE ac i lywio ymchwil ehangach i berfformiad economaidd, cynhyrchiant a chystadleurwydd y diwydiant amaethyddol. Darperir y data i'r UE fel rhan o'r Rhwydwaith Data Cyfrifyddu Fferm (FADN) ac fe'i defnyddir yn helaeth gan y diwydiant amaeth ar gyfer meincnodi (cymharu perfformiad mathau tebyg o ffermydd).

Os nad yw'r paragraff uchod yn disgrifio'n gywir sut rydych chi'n defnyddio'r data, cysylltwch â ni ar ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Mae'r data incwm ffermydd a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yn deillio o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio (FBS) blynyddol. Cynhelir yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r Arolwg o Fusnesau Ffermio yn casglu gwybodaeth ffisegol ac ariannol fanwl gan oddeutu 550 o fusnesau ffermio ledled Cymru ac mae'n cynnwys pob math o fferm da byw yng Nghymru. Fodd bynnag, dylid nodi bod y tarfu ar y broses casglu data fel y nodwyd uchod wedi arwain at sampl gynrychiadol ychydig yn llai ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf (2021-22) o 517 o fusnesau ffermio a 539 o fusnesau ffermio yn 2020-21 a 501 o fusnesau ffermio yn 2019-20 (o gymharu â 550 yn y blynyddoedd cyn y pandemig). Mae ymchwilwyr sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel yn casglu'r data drwy ymweld â ffermydd a gofyn am wybodaeth gan ffermwyr. Dim ond y mathau hynny o ffermydd lle mae mwy nag 20 o ddaliadau cynrychiadol yn y sampl arolwg sy'n cael eu hadrodd yn y datganiad ystadegol hwn. 

Gall ystadegau a gynhyrchir o'r un data gan IBERS fod yn wahanol mewn rhai agweddau i'r rhai yn y datganiad ystadegol hwn. Mae'r gwahaniaethau yn codi'n bennaf o'r canlynol:

  • Pwysoli: mae'r ystadegau yn y datganiad hwn wedi'u pwysoli i gynrychioli'r boblogaeth (busnesau fferm sydd ag Allbwn Safonol o €25,000 o leiaf). Fodd bynnag, mae'r ystadegau a gynhyrchir gan IBERS heb eu pwysoli, felly maent yn cynrychioli'r ffermydd sydd wedi'u cynnwys yn y sampl yn unig.
  • Sampl union yr un fath rhwng blynyddoedd: Mae rhai o'r ystadegau a gyhoeddir gan IBERS ar gyfer sampl union yr un fath rhwng blynyddoedd (ffermydd sydd wedi'u cynnwys yn y sampl am ddwy flynedd yn olynol). Nid yw pob fferm wedi'i chynnwys yn y sampl am ddwy flynedd yn olynol. Felly, mae'r sampl union yr un fath rhwng blynyddoedd yn cynnwys llai o ffermydd ar gyfer pob blwyddyn, felly gall canlyniadau'r grŵp hwn o ffermydd amrywio.

Daw'r sampl ar gyfer yr Arolwg o Fusnesau Ffermio yn bennaf o'r busnesau ffermio hynny yng Nghymru sydd ag Allbwn Safonol (SO) o €25,000 o leiaf, yn seiliedig ar weithgarwch a gofnodwyd yn Arolwg o’r Cyfrifiad Amaethyddol a Garddwrol y mis Mehefin blaenorol. Felly, ni fydd y canlyniadau a adroddir yma yn gynrychiadol o ddaliadau bach iawn a rhan-amser. Dangosir gwybodaeth am sampl yr arolwg, poblogaeth yr arolwg a chanran poblogaeth yr arolwg a samplwyd (yn ôl math a maint y fferm) yn nhabl 4.

Tabl 4: Sampl yr arolwg, poblogaeth yr arolwg a chanran poblogaeth yr arolwg a samplwyd, yn ôl y math o fferm a maint y fferm [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]
FfermRhan-amser ac amser sbârBachCanoligMawrMawr iawnPob fferm
Sampl arolwg [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Godro 16193258116
Gwartheg a defaid (LFA)4493858038340
Gwartheg a defaid (tir isel)9261313263
Eraill 11368634
Pob math o fferm 65128123133104553
Arolwg poblogaeth 
(> €25,000 SO) [Nodyn 1] [Nodyn 3]
Godro 352212453065941,401
Gwartheg a defaid (LFA)1,2441,8261,1071,3046576,138
Gwartheg a defaid (tir isel)173561146161251,065
Eraill 33785828462650
Pob math o fferm 1,7892,6921,5801,8551,3389,254
% Sampl arolwg
Godro 2.82.77.810.59.88.3
Gwartheg a defaid (LFA)3.55.17.76.15.85.5
Gwartheg a defaid (tir isel)5.24.68.98.10.05.9
Eraill 3.33.57.39.69.65.2
Pob math o fferm 3.64.87.87.27.86.0

[Nodyn 1] Nid yw sampl yr arolwg a phoblogaeth yr arolwg yn cynnwys nifer fach o ffermydd sydd ag allbwn safonol o €25,000 o leiaf ond dim gweithgarwch amaethyddol. Byddai'r nifer fach hon o ffermydd wedi cael eu categoreiddio o dan y math o fferm cnydau cyffredinol.

[Nodyn 2] Mae sampl yr arolwg a ddangosir ar gyfer Arolwg o Fusnesau Ffermio 2020-21.

[Nodyn 3] Roedd poblogaeth yr arolwg (ar gyfer Arolwg o Fusnesau Ffermio 2020-21) yn dod o Arolwg o’r Cyfrifiad Amaethyddol a Garddwrol mis Mehefin 2019.

[Nodyn 4] Mae mathau eraill o ffermydd yn cynnwys ffermydd ŷd, ffermydd cnydau cyffredinol a ffermydd cymysg.

Effaith y rhyfel yn Wcráin

Mae’r datganiad hwn yn ymdrin â’r flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023. Mae’n cwmpasu felly’r rhyfel yn Wcráin a ddechreuodd yn wythnos olaf fis Chwefror 2022.  Yn y DU, mae gwrtaith anorganig yn aml yn cael ei fewnforio ac roedd Rwsia ac Wcráin yn gyfrifol gynt am gyfran aruthrol o’r gwrtaith oedd yn cael fewnforio i’r DU. Gwelwyd gostyngiad yn y mewnforion hyn dros gyfnod y datganiad hwn oherwydd y rhyfel yn Wcráin a’r sancsiynau â’i dilynodd. Arweiniodd hyn at gynnydd mawr ym mhris gwrtaith. 

At hynny, am fod gwledydd eraill wedi’i chael hi’n anodd cael cynnyrch o Wcráin gan greu ansefydlogrwydd ym mhrisiau’r byd, effeithiwyd ar newidynnau treuliant canolraddol pwysig fel cost ydau yn y DU dros y cyfnod hwn.  Mae hyn wedi effeithio ar gostau bwydydd anifeiliaid, gan olygu bod cost bwydo da byw wedi codi’n sylweddol gan fod llawer o ffermwyr yn dibynnu ar fwydydd anifeiliaid y mae eu prisiau’n cael eu pennu ym marchnadoedd y byd.  Trafodir effeithiau’r cynnydd yn y prisiau ar bob math o fferm yn fanylach isod.

Effaith costau byw 

Yn ogystal â’r uchod, mae ffermwyr wedi profi effaith yr Argyfwng Costau Byw sydd wedi effeithio ar newidynnau treuliant canolraddol pwysig eraill fel ymhlith eraill rhedeg a chynnal a chadw peiriannau, rhent a chostau dŵr a thrydan. Mae’n bwysig cofio hefyd bod y ffigurau hyn yn edrych ar y cyfartaledd a bydd cryn amrywiaeth rhwng profiadau un busnes ffermio a’r llall.

Rhoddir pwysoliad i bob fferm yn yr arolwg i wneud y sampl yn gynrychiadol o'r boblogaeth. Cyfrifir y pwysoliad gan ddefnyddio'r dull 'ffracsiwn samplu gwrthdro' ac mae'n defnyddio data ar nifer y ffermydd yn ôl math a maint o Arolwg o’r Cyfrifiad Amaethyddol a Garddwrol y mis Mehefin blaenorol.

Mae mesurau incwm ffermydd yn arddangos rhywfaint o anwadalrwydd ar draws y blynyddoedd, wedi'i ddylanwadu gan amodau'r farchnad ar y pryd. Gan fod yr holl fesurau incwm ffermydd yn cynnwys elfen sy'n ymwneud ag elw, mae'r mesurau hyn yn y sector amaethyddol yn fwy anwadal na mesurau mewn sectorau eraill (a ddiffinir yn nhermau incwm o gyflogau yn unig).

Effaith COVID-19

Mae'r data'n cwmpasu'r cyfnod o fis Mawrth 2021 hyd at fis Mawrth 2022, ail flwyddyn y pandemig COVID-19 (dechreuodd y cloi cyntaf ar 23 Mawrth 2020) pan effeithiwyd ar fusnesau ffermio yng Nghymru. 

COVID-19, fel gyda llawer o arolygon eraill yn ystod y cyfnod hwn, amharu’n ddifrifol ar gasglu data. Er gwybodaeth, roedd rhai o'r materion:

  • Cesglir data drwy gyfweliadau wyneb yn wyneb â ffermwyr, a gynhelir gan gyfrifyddion hynod hyfforddedig, nad oeddent bob amser yn ymarferol yn ystod cyfyngiadau'r pandemig
  • Mae'n anodd penderfynu, gan ddefnyddio data ar lefel y datganiad hwn, effeithiau gwirioneddol y pandemig ar fusnesau ffermio Cymru, yn enwedig yr effaith ar grwpiau llai o faint o ffermydd penodol. 
  • Efallai na fydd yr ardal ar gael ar yr un diwrnod, a arweiniodd at fwy o deithio.
  • Roedd yna fân broblemau gyda mynediad i systemau meddalwedd cyfrifo.

Ymestyn y casgliad y tu hwnt i fis diwedd arferol mis Medi a oedd yn effeithio ar dasgau eraill megis cyhoeddi a recriwtio.

Cryfderau a chyfyngiadau'r Arolwg o Fusnesau Ffermio

Rydym yn argymell yn gryf y dylai defnyddwyr yr ystadegau hyn ddeall cryfderau a chyfyngiadau'r Arolwg o Fusnesau Ffermio, er mwyn gwneud defnydd priodol o unrhyw ganlyniadau o'r arolwg.

Cryfderau

Mae'r Arolwg o Fusnesau Ffermio yn casglu ystod eang o wybodaeth ffisegol ac ariannol fanwl am ffermydd yng Nghymru. Mae hyn yn caniatáu cynnal ystod eang o ddadansoddiadau.

Mae'r arolwg yn gynrychiadol o'r prif fathau o ffermydd da byw a welir yng Nghymru (godro, gwartheg a defaid).

Cyfyngiadau

Ystyried yr angen i reoli costau'r arolwg a'r anhawster o ran recriwtio ffermydd, mae'r sampl ar gyfer yr Arolwg o Fusnesau Ffermio wedi'i gyfyngu i 550 o ffermydd y flwyddyn yng Nghymru. Mae hyn yn cynrychioli tua 5% i 6% o boblogaeth yr arolwg bob blwyddyn. Mae hwn yn sampl gymharol fach at ddibenion dadansoddi. Gellir cynhyrchu canlyniadau cyfartalog fesul fferm ond, ar gyfer unrhyw ddadansoddiad a gynhyrchir, mae amrywiadau eang bob amser amgylch cyfartaledd, sy'n codi nifer o faterion:

Gyda'r amrywiad eang o ran maint ffermydd, ar rai achlysuron, efallai nad ystyried y gyfran o ffermydd yw'r dull gorau. Yn gyffredinol, mae nifer gymharol fach o ffermydd mawr yn cyfrannu'r rhan fwyaf o'r cynnyrch amaethyddol yng Nghymru. Yn aml, gall wneud synnwyr edrych ar gyfran o gynnyrch neu allbwn, yn hytrach na chyfran ffermydd, a all ddarparu cymhlethdod ychwanegol wrth ddadansoddi canlyniadau.

Yn aml, mae mwy nag un ffactor sy'n gallu esbonio'r amrywiad rhwng ffermydd, ac mae hyn fel arfer yn cynnwys maint y fferm. Yn aml, nid yw'n bosibl (oherwydd maint sampl isel mewn rhai categorïau) dadansoddi data ar gyfer mwy nag un newidyn ar y tro, a all gyfyngu ar ddefnyddioldeb unrhyw ddadansoddiad.

Gyda'r amrywiad eang ym maint ffermydd, gall ffermydd mawr iawn yn y sampl gael effaith fawr ar gyfartaleddau; yn enwedig pan fydd amcangyfrifon ar gyfer categori yn seiliedig ar nifer fach o ymatebion.

Mae incwm busnesau ffermio yn ystyried y fferm fel 'uned fusnes’. Nid yw incwm busnesau ffermio yn cynnwys ffynonellau eraill o incwm aelwydydd o'r tu allan i fusnes fferm (megis cyflogaeth arall y ffermwr neu briod y ffermwr y tu allan i'r fferm). Felly, byddai angen ystyried ystod ehangach o ddata er mwyn creu darlun o les economaidd aelwydydd fferm. Yr astudiaeth fanwl ddiwethaf i gael ei chynnal yng Nghymru ar incwm aelwydydd fferm oedd arolwg 2010 o aelwydydd ffermio yng Nghymru gan Arsyllfa Wledig Cymru.

Mae nifer o agweddau pwysig ar fusnesau fferm na all yr Arolwg o Fusnesau Ffermio roi gwybodaeth amdanynt. Yr agweddau hyn yn bennaf fydd ansawdd y tir ar y fferm, nodau ac amcanion y ffermwr ar gyfer busnes y fferm, a sgil y ffermwr. 

Mae'r Arolwg o Fusnesau Ffermio yn cynnwys ffermydd sydd ag allbwn safonol o €25,000 o leiaf, ac ni fwriedir iddo fod yn gynrychiadol o ffermydd bach, rhan-amser ac amser sbâr (sydd islaw'r trothwy allbwn safonol hwn). Dylai unrhyw ddefnyddwyr sydd â diddordeb mewn data ar gyfer ffermydd bach, rhan-amser ac amser sbâr fod yn ymwybodol hyn. Mae'n werth nodi, wrth ystyried y mathau o ffermydd sydd wedi'u cynnwys yn yr Arolwg o Fusnesau Ffermio, fod poblogaeth yr arolwg (tua 10,000 o ffermydd bob blwyddyn) yn cynrychioli 93% o gyfanswm yr allbwn safonol.  Yn y cyfamser, mae tua 13,000 o ffermydd bob blwyddyn yn y mathau hyn o ffermydd, ond gyda llai na €25,000 o allbwn safonol (nad ydynt yn cael eu harolygu) yn cyfrif am y 7% arall o allbwn safonol. 

Er bod yr Arolwg o Fusnesau Ffermio yn gynrychiadol o’r prif fathau o ffermydd da byw yng Nghymru, nid yw mor gynrychiadol o rai o'r sectorau amaethyddol llai yng Nghymru. Mae'r arolwg yn cynnwys niferoedd bach o ffermydd ŷd a chnydau cyffredinol, ond nid yw'n ddigon i allu cyhoeddi canlyniadau ar gyfer y math penodol hwn o fferm. Nid yw ffermydd dofednod arbenigol a ffermydd moch arbenigol yn cael eu cynnwys yn yr arolwg gan mai ychydig iawn o ffermydd sydd ar gael i'w holi a chael canlyniadau dibynadwy. Er bod ffermydd ŷd, cnydau cyffredinol, dofednod a moch yn sectorau cymharol fach yn unigol, pan gânt eu grwpio gyda'i gilydd, mae'r mathau hyn o ffermydd yn ffurfio 18% o gyfanswm yr allbwn safonol ar gyfer ffermydd yng Nghymru (wrth ystyried ffermydd sydd ag allbwn safonol o €25,000 o leiaf). Mae hon yn gyfran nodedig o'r boblogaeth nad yw'n cael ei chynrychioli'n dda iawn (os o gwbl) yn yr Arolwg o Fusnesau Ffermio. 

Fel gydag unrhyw arolwg sampl, bydd gan ganlyniadau o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio rywfaint o wall samplu gan mai dim ond rhan o'r boblogaeth sy'n cael ei defnyddio i amcangyfrif gwerth newidyn. Y gwall samplu yw'r gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrif sy'n deillio o sampl arolwg a'r gwerth 'gwirioneddol' a fyddai'n deillio pe bai cyfrifiad o'r boblogaeth gyfan yn cael ei gymryd o dan yr un amodau. Bydd samplau gwahanol yn cynhyrchu amcangyfrifon gwahanol ar gyfer yr un newidyn arsylwi.

Mae gwall nad yw'n wall samplu yn cynnwys gwall cwmpas, gwall dim ymateb, gwall ymateb, gwall prosesu, gwall amcangyfrif a gwall dadansoddi. 

Bydd unrhyw wallau cwmpas yn yr Arolwg o Fusnesau Ffermio yn bennaf oherwydd amherffeithrwydd yn y ffrâm samplu – arolwg o’r cyfrifiad amaethyddol a garddwrol mis Mehefin. Defnyddir arolwg mis Mehefin ar gyfer samplu yn yr Arolwg o Fusnesau Ffermio ac i bwysoli ymatebion i'r arolwg hyd at boblogaeth yr arolwg. Gellir darllen prif gyfyngiadau arolwg o’r cyfrifiad amaethyddol mis Mehefin ar dudalen arolwg o'r cyfrifiad amaethyddol mis Mehefin Llywodraeth Cymru. I grynhoi, mae cynnal cofrestr gyfredol o ffermydd yn broblem, ynghŷd â'r ffaith bod cyfraddau ymateb yn gostwng (i arolygon y llywodraeth yn gyffredinol). Mae data gwartheg godro a chig eidion yn deillio o'r System Olrhain Gwartheg (ffynhonnell weinyddol) sydd o ansawdd da yn gyffredinol ar gyfer yr wybodaeth sydd ganddi, er nad yw'n cadw gwybodaeth gyflawn am y dibenion bwriedig ar gyfer anifeiliaid penodol.

Gall sicrhau bod sectorau penodol yn cael eu cynnwys yn y ffrâm samplu fod yn anodd. Er enghraifft, mae anawsterau ar hyn o bryd o ran recriwtio ffermydd godro bach, yng ngoleuni amodau presennol y farchnad yn y sector godro.

Lleihau gwallau (mesur) ymateb yw'r maes rheoli ansawdd cryfaf ar gyfer yr Arolwg o Fusnesau Ffermio. Ystyrir bod gwallau prosesu yn wallau risg isel oherwydd natur hunan-wirio llawer o gyfrifon rheoli ffermydd a'r gyfran uchel o ffermydd y gellir cymhwyso gwiriadau rhwng blynyddoedd iddynt.

Er bod yr Arolwg o Fusnesau Ffermio wedi'i ddylunio i roi cyn lleied o faich â phosibl ar ffermwyr sy'n cymryd rhan, mae'n gofyn am ddata masnachol a sensitif y gallai rhai ffermwyr fod yn gyndyn o’i rannu. Er mwyn darbwyllo ffermwyr i gymryd rhan, mae ffermwyr sy'n cymryd rhan yn derbyn set o gyfrifon ar gyfer eu fferm a chanlyniadau meincnodi yn erbyn ffermydd eraill (lle bo hynny'n bosibl). Fodd bynnag, mae'r gyfradd wrthod yn gymharol uchel; O'r ffermwyr hynny sydd mewn cwmpas, mae tua 80 - 85% o'r rhai y cysylltir â nhw yn dewis peidio â chymryd rhan yn yr arolwg.

Efallai y bydd gan y boblogaeth bosibl o ffermwyr nad ydynt yn ymateb nodweddion eithaf gwahanol i'r boblogaeth bosibl o ymatebwyr. Gallai hyn arwain at ragfarn yn yr amcangyfrifon o'r boblogaeth lawn. Gwneir ymdrechion i ddelio â hyn drwy recriwtio ffermydd newydd o restr ar hap o ffermydd o wahanol fathau.

Mae'r Arolwg o Fusnesau Ffermio wedi'i gynnal yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Felly, mae yna flynyddoedd lawer o ddata i fonitro unrhyw newidiadau strwythurol yn y diwydiant ffermio, ac amrywiadau mewn incymau fferm rhwng blynyddoedd.

Fel arfer, mae rhwng 90% a 95% o ffermydd yn aros yn sampl yr arolwg o un flwyddyn i'r llall. Mae hyn yn caniatáu dadansoddi ar draws blynyddoedd yr arolwg ar gyfer samplau union yr un fath.

Statws Ystadegau Cenedlaethol 

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain er mwyn sicrhau Cymru sy’n fwy cyfartal, yn llewyrchus, yn gydnerth, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) rhoi copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, a’r naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Dolenni defnyddiol

Canlyniadau heb eu pwysoli ar gyfer Cymru

Cyhoeddir canlyniadau ystadegol blynyddol a'r llyfryn incymau fferm blynyddol gan Brifysgol Aberystwyth, gan gwmpasu blynyddoedd lawer. Dylid nodi bod y canlyniadau hyn yn seiliedig ar ddata heb ei bwysoli, felly maent yn cynrychioli'r sampl yn unig, yn hytrach na'r boblogaeth gyfan o ffermydd. Yn benodol, mae'r llyfryn incymau fferm yn cynnwys:

  • Y cyfrif elw a cholled, a mantolen gryno ar gyfer gwahanol fathau o ffermydd.
  • Data ar faint elw gros ar gyfer wyth math gwahanol o fenter fferm.
  • Costau cynhyrchu ar gyfer pedwar math gwahanol o allbwn fferm.

Amaethyddiaeth Cymru

Mae ystadegau manylach neu ystadegau eraill am amaethyddiaeth yng Nghymru i'w gweld isod ar dudalennau ystadegau ffermio Llywodraeth Cymru.

Lloegr

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn cyhoeddi amrywiaeth o ddadansoddiadau o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio ar gyfer Lloegr. Cyhoeddodd DEFRA ganlyniadau cymharol ar incwm busnesau ffermio yn ôl math o fferm yn Lloegr ar gyfer 2021-22, ar 8 Tachwedd 2022, a chyhoeddodd y cyfrifon fferm (manylach) yn Lloegr yn 2021-22 ar 15 Rhagfyr 2022.

Nodiadau technegol

Mae DEFRA yn cyhoeddi gwybodaeth, nodiadau a chanllawiau technegol ar gyfer yr Arolwg o Fusnesau Ffermio ar gyfer Cymru a Lloegr.

FarmBusinessSurvey.co.uk

Mae Rural Business Research (RBR) - consortiwm o chwe Chanolfan Ymchwil Prifysgol - yn cynnal yr Arolwg o Fusnesau Ffermio yn Lloegr ar ran DEFRA. Mae RBR yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata o'r Arolwg o Fusnesau Ffermio ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yr Alban

Mae Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi amcangyfrifon blynyddol o Incwm Busnesau Ffermio.

Gogledd Iwerddon

Mae'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon yn cyhoeddi amcangyfrifon blynyddol o Incwm Busnesau Ffermio.

Y DU

Mae DEFRA yn cyhoeddi ystadegau incwm ffermydd ar gyfer y DU a gwledydd y DU yn y cyhoeddiad "Agriculture in the UK" (Pennod 3).

Yr UE

Darperir data incwm ffermydd o wledydd y DU i'r UE fel rhan o'r Rhwydwaith Data Cyfrifyddu Fferm (FADN) ac mae'n bwydo i mewn i ystadegau incwm ffermydd ar gyfer aelod-wladwriaethau'r UE.

Manylion cysyllt

Ystadegydd: Katherine Green
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 3/2024

Image
Ystadegau Gwladol