Neidio i'r prif gynnwy

Ar 15 Tachwedd 2018, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod Llywodraeth Cymru, fel rhan o drefniadau’r cynllun a gefnogir gan y wladwriaeth, yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ystyried atebolrwyddau meddygon teulu am hawliadau hanesyddol ynghylch esgeuluster clinigol yr adroddwyd arnynt – neu yr aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt – cyn 1 Ebrill 2019 (y Cynllun Atebolrwyddau Presennol). Roedd yr ymrwymiad hwn yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy o ran materion cyfreithiol ac ariannol, ynghyd â thrafodaethau boddhaol gyda sefydliadau amddiffyn meddygol.  

Rwy’n falch o ddweud fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dod i gytundeb â’r Gymdeithas Amddiffyn Meddygol (MPS)  ar delerau masnachol yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer yr atebolrwyddau presennol. Mae’r trefniadau y cytunwyd arnynt yn ymwneud ag atebolrwyddau hanesyddol am esgelusustod clinigol gan feddygon teulu sy’n aelodau o MPS Cymru, yn deillio o ddigwyddiadau clinigol a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019. Bydd y Bartneriaeth Cydwasanaethau (Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg) yn goruchwylio’r trefniadau, sy’n cynnwys y ffaith y bydd MPS yn parhau i drin hawliadau am gyfnod interim. Bydd nifer sylweddol o feddygon teulu yng Nghymru yn elwa ar drefniadau’r Cynllun Atebolrwyddau Presennol y cytunwyd arnynt rhwng Llywodraeth Cymru ac MPS.  

Bydd y trefniant hwn, ar y cyd â Chynllun Atebolrwyddau’r Dyfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2019, yn helpu i wneud gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru yn fwy cynaliadwy.  

Mae’r trefniant hwn yn adeiladu ar ein perthynas gydweithio gref gydag MPS, sydd wedi bod yn allweddol er mwyn gallu cwblhau’r cytundeb hwn yn llwyddiannus.