Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun newydd i roi hwb i fusnes yng Nghymru wedi’i ddatblygu gan Innovate UK, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi'i lansio, gan baratoi'r ffordd ar gyfer economi arloesedd gryfach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae asiantaeth arloesedd y DU, Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun ar y cyd er mwyn helpu i ddatblygu economi Cymru.
  • Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidog Economi Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Innovate UK, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf i’w gytuno gyda llywodraeth ddatganoledig.
  • Bydd y cynllun yn golygu bod Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i greu cyfleoedd i arloeswyr ac entrepreneuriaid ledled Cymru.

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn digwyddiad a gynhaliwyd heddiw gydag arweinwyr busnes o'r rhanbarth, yn AMRC Cymru, ym Mrychdyn yn y gogledd, sy'n rhan o glwstwr arloesi Canolfan Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu (AMRC) Prifysgol Sheffield o fewn y diwydiant.

Mae tair thema i'r alwad i weithredu:

  1. Cysylltu Cymorth; sicrhau bod gan randdeiliaid yng Nghymru lwybrau clir ac effeithiol i gynlluniau cefnogi arloesedd, sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn bartner yng ngwasanaeth cymorth busnes Innovate UK, 'EDGE', a'r ddau sefydliad sy'n cydweithio ar ddylunio rhaglenni arloesi'r dyfodol.
  2. Ysgogi Arloesedd; rhannu a datblygu sianeli cyfathrebu, cynyddu mynediad at asedau arloesi yng Nghymru, a nodi blaenoriaethau cyffredin y sector.
  3. Data; Rhannu mwy o ddata i gyflawni nodau cyffredin, defnyddio data i ddeall anghenion y gynulleidfa yn well, er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a hybu mynediad at gyfleoedd i bobl leol.

Meddai Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:

"Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn gydag Innovate UK yn dilyn ein hymrwymiad o dan ein Strategaeth Arloesi a lansiwyd yn ddiweddar, 'Cymru’n Arloesi'.  Mae'n arwydd o sut rydym yn bwriadu cydweithio mwy drwy ymdrech gydgysylltiedig i hyrwyddo, ymgysylltu a datblygu cynigion arloesedd o ansawdd uchel o bob rhan o ystod amrywiol o randdeiliaid arloesi, sectorau a rhanbarthau i sicrhau bod Cymru yn cynyddu ei chyfran o gyllid a ddyfernir yn gystadleuol.

"Bydd y berthynas agosach hon yn galluogi cynnydd yn erbyn y targedau yn ein Strategaeth Arloesi ac amcanion ehangach. Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o osod y sylfaen ar gyfer dyfodol deinamig a ffyniannus i Gymru lle y gallwn, drwy gydweithio, greu cyfleoedd ar gyfer entrepreneuriaeth, arloesi cydweithredol a thechnolegau newydd a all gael effaith gadarnhaol ar bob rhan o gymdeithas."

Dywedodd Indro Mukerjee, Prif Weithredwr Innovate UK:

"Mae Innovate UK yn datblygu ei dull o gydweithio yn genedlaethol ac yn lleol. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r bartneriaeth newydd hon gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi arloesedd ac i sbarduno twf economaidd, gan greu ecosystem arloesedd amrywiol sy'n ffynnu. Mae Cymru wedi bod yn gyfrannwr pwysig at lwyddiant arloesedd y Deyrnas Unedig, yn enwedig yn y meysydd fel uwch-weithgynhyrchu, gwyddorau bywyd, a lled-ddargludyddion cyfansawdd ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agosach ac adeiladu ar y llwyddiant hwn."