Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Chwefror 2015.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae rheoliadau yn cael eu cynnig er mwyn mynd i'r afael â'r llwyth gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r drefn o wneud cais am Ganiatâd Amddiffyn rhag Llifogydd ar gyfer prif afonydd Cymru a Lloegr.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Os dymunir gwneud gwaith penodol ar brif afonydd neu amddiffynfeydd môr neu gerllaw iddynt a phe gallai hynny effeithio ar y risg o lifogydd mae’n ofynnol cael caniatâd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Chyfoeth Naturiol Cymru cyn gwneud hynny. Gelwir y math hwn o ganiatâd yn “ganiatâd amddiffyn rhag llifogydd”.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 10 Rhagfyr ac yn para 10 wythnos. Mae’n ceisio barn ar amrywiaeth o gynigion i integreiddio’r gwaith o amddiffyn rhag llifogydd i’r fframwaith Trwyddedu Amgylcheddol yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar DEFRA.GOV.UK