Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
  • Amelia John, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr, y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru 
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth 
  • Jonathan Price, Prif Economegydd 
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Neil Buffin, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer ac Ailgychwyn
  • Emma Spear, Dirprwy Gyfarwyddwr, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)

Mynychwyr allanol

  • Helenà Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru
  • Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Paul Butterworth, Siambrau Cymru
  • Josh Traynor, Myfyriwr yn arsylwi, Prifysgol St Andrews

Ymddiheuriadau

  • Mick Antoniw AS
  • Vaughan Gething AS
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lee Waters AS

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Weinidogion a phartneriaid i’r cyfarfod.

1.2 Cytunodd yr Is-bwyllgor ar gofnodion 19 Mehefin.

Eitem 2: Yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw

2.1 Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ddiweddariad ar waith y Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw.

2.2 Cyfarfu Gweinidogion â’r Grŵp Arbenigol ar 24 Mai ac eto ar 6 Gorffennaf, pan gyflwynodd y grŵp nifer o argymhellion ar gyfer y tymor byr, canolig a hir.

2.3 Croesawyd barn y grŵp a byddai’n helpu’r Llywodraeth i gynllunio ar gyfer y gaeaf nesaf a thu hwnt, er bod nifer o’r argymhellion yn debygol o fod yn heriol o ystyried y cyd-destun ariannol tynn.

2.4 Gofynnwyd i’r grŵp flaenoriaethu’n glir eu hargymhellion a, lle bo hynny’n bosibl, i’r argymhellion ganolbwyntio ar sut y gallai’r Llywodraeth dargedu gweithgarwch presennol yn effeithiol, os nad oedd y gweithgarwch hwnnw’n cael yr effaith a ddymunir ar hyn o bryd yn eu barn hwy.

2.5 Mae’n debygol y byddai’r Grŵp Arbenigol yn dymuno parhau i dynnu sylw at yr holl gamau blaenoriaeth posibl y credent y gellid eu cymryd, waeth beth fo’r gost bosibl. Fodd bynnag, cydnabu’r grŵp y byddai rhai o’r eitemau cost uwch yn amodol ar y cyllid a fyddai ar gael.

2.6 Byddai’r Grŵp Arbenigol yn anelu at gyflwyno eu hadroddiad ffurfiol ar y fframwaith erbyn diwedd mis Gorffennaf.

2.7 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Eitem 3: Effaith Costau Byw ar Bobl Hŷn yng Nghymru

3.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Helenà Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru a’u gwahodd i gyflwyno eu canfyddiadau ar effaith yr argyfwng costau byw ar bobl hŷn yng Nghymru.

3.2 Adroddwyd bod pryder sylweddol ymhlith y boblogaeth hŷn ynghylch y gaeaf sydd i ddod, gyda 22% o 1200 o’r ymatebwyr i’r arolwg dros 50 oed yn nodi eu bod yn poeni.

3.3 Nodwyd mai dim ond 5% o’r ymatebwyr oedd yn cael Credyd Pensiwn, ac roedd llawer yn poeni am oroesi a gallu fforddio biliau a bwyd sylfaenol. Roedd rheoli cyflyrau iechyd gyda chostau gwresogi mor uchel yn bryder mawr arall, ynghyd â chynnal perthnasoedd ac unigrwydd.

3.4 Roedd tlodi pensiynwyr wedi bod yn cynyddu ers cyn y pandemig, ac er i rai lwyddo i gynnal clustog ariannol yn ystod yr argyfwng, roedd hyn bellach yn cael ei lyncu gan effeithiau costau byw ac erydiad chwyddiant ar gynilion.

3.5 Roedd ymholiadau am drafnidiaeth gymunedol wedi cynyddu yn Age Cymru, gyda chostau petrol a chostau trafnidiaeth eraill yn cael eu nodi fel rhesymau dros beidio ag ymweld â pherthnasau a mynychu apwyntiadau.

3.6 Byddai methu apwyntiadau yn creu mwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd yn y tymor hir. Roedd pryderon hefyd am gostau byw gyda salwch, gyda rhai amcangyfrifon o ddiagnosis canser yn costio tua £1,000 y mis i bobl mewn costau ychwanegol amrywiol.

3.7 Roedd tai yn faes pryder arall, gyda llawer o landlordiaid preifat yn gadael y farchnad a oedd yn chwyddo rhenti ac yn golygu bod mwy o bobl yn cael eu troi allan, ochr yn ochr â pherchnogion tai yn poeni am fforddio costau gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar gartrefi.

3.8 Adroddwyd bod 64% o bobl hŷn wedi lleihau eu gwariant yn ystod y 12 mis diwethaf, yn enwedig ar ynni, siopa bwyd, gweithgareddau cymdeithasol, dillad, trafnidiaeth, gwyliau, dŵr a chysylltedd drwy wasanaethau ffôn a rhyngrwyd.

3.9 Roedd y dystiolaeth yn glir mai menywod sengl, hŷn dros 75 oed oedd yn dioddef fwyaf ac yn fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tlodi.

3.10 Croesawyd y camau a gymerwyd i liniaru’r amgylchiadau hyn, gan gynnwys ymgyrchoedd wedi’u targedu i gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar Gredyd Pensiwn, y Gronfa Cymorth Dewisol, y Cynllun Cymorth Tanwydd a Chanolfannau Clyd, ochr yn ochr â chefnogaeth gan y sector gwirfoddol ac awdurdodau lleol.

3.11 Fodd bynnag, roedd rhai o’r boblogaeth hŷn yn dal i fod yn anodd eu cyrraedd, ac awgrymwyd bod angen camau gweithredu wedi’u targedu’n fwy penodol i gynyddu’r nifer sy’n hawlio’r arian y mae ganddynt hawl iddo drwy Gredyd Pensiwn.

3.12 Nodwyd bod bron i 80,000 o unigolion yng Nghymru nad ydynt yn elwa ar Gredyd Pensiwn, a olygai fod bron i £200m o Gredyd Pensiwn nad yw’n cael ei hawlio gan Drysorlys y DU.

3.13 Roedd hawlio Credyd Pensiwn hefyd yn rhoi mynediad i lu o fuddion eraill fel gostyngiad yn y dreth gyngor, cymorth gyda chostau tai, triniaeth am ddim ar gyfer gofal deintyddol a llygaid a thrwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.

3.14 Roedd Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflenwi eraill yn gofyn i gymaint o bobl hŷn â phosibl sicrhau eu bod yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo.

3.15 Un awgrym a wnaed er mwyn cyflawni hyn oedd gwella’r broses o baru data rhwng awdurdodau lleol i dargedu tua 4000 o aelwydydd, y gellid helpu traean ohonynt o fewn y chwe mis nesaf.

3.16 Awgrym arall oedd bod angen gwella cyfathrebu am hawlio Credyd Pensiwn, er mwyn cael gwared ar unrhyw stigma neu embaras ynghylch hawlio rhywbeth yr oedd gan bobl hawl iddo. Byddai defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn cael effaith gyfyngedig pe bai’r ymgyrch wedi’i thargedu at bobl hŷn nad oeddent yn defnyddio dulliau cyfathrebu o’r fath, ond gellid targedu ymgyrchoedd at genedlaethau iau i gynorthwyo eu perthnasau hŷn.

3.17 Hefyd, roedd angen defnyddio pwyntiau mynediad rheolaidd ar gyfer pobl hŷn i gyfathrebu ag unigolion, gan gynnwys drwy ofal sylfaenol ac awdurdodau lleol. Awgrymwyd hefyd y gallai undebau llafur ar gyfer y rhai a oedd wedi ymddeol fod yn bwynt cyswllt a chyngor defnyddiol i bobl hŷn.

3.18 Awgrymwyd bod gan sefydliadau hefyd y gallu i ddelio ag ymholiadau yn y fan a’r llall, er enghraifft pan fo pobl hŷn yn ceisio cymorth gan awdurdod lleol, gellid eu cyfeirio at wybodaeth berthnasol am fudd-daliadau.

3.19 Roedd amheuaeth a oedd y rhai a oedd ychydig dros y trothwy ar gyfer hawlio Credyd Pensiwn yn ymwybodol y gallai dychwelyd i’r gwaith, hyd yn oed pe bai hynny ar sail ran-amser ac ar lefel cyfrifoldeb is, gryfhau eu hincwm.

3.20 Gellid tynnu sylw at brentisiaethau pob oed hefyd fel rhan o’r dychweliad hwn i ddysgu a gwaith, ac mae angen mwy o dystiolaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran y gweithlu.

3.21 Yn ogystal, roedd angen mwy o dystiolaeth am y pethau roedd pobl yn llwyddo i fyw hebddynt, neu’n eu hamnewid, i ymdopi â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys canslo cyfleustodau fel contractau ffôn a band eang neu bolisïau yswiriant.

3.22 Diolchodd yr Is-bwyllgor i’r cyflwynwyr a chytunodd y byddai Gweinidogion yn tynnu sylw at y materion hyn ar bob cyfle.

Eitem 4: Diweddariad gan bartneriaid ar Effaith Costau Byw ar Bobl Hŷn yng Nghymru

4.1 Gwahoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip bartneriaid cymdeithasol i roi diweddariad o’u safbwynt hwy ar yr argyfwng a’i effaith ar bobl hŷn. 

4.2 Nododd yr Is-bwyllgor y cyhoeddiad diweddar gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch cynnal cynllun peilot i dargedu’n uniongyrchol y bobl hŷn sy’n byw mewn aelwydydd sy’n cael budd-dal tai, a fyddai’n eu hannog i hawlio Credyd Pensiwn hefyd. Byddai’r cynllun yn cael ei dreialu mewn 10 awdurdod lleol ledled y DU, gan gynnwys sampl o awdurdodau trefol a gwledig a Phowys oedd yr ardal a ddewiswyd yng Nghymru. Roedd swyddogion yn ymgysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch sut y byddai’r cynllun peilot yn cael ei gynnal.

4.3 Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i roi arian ym mhocedi pobl ledled Cymru a sicrhau canlyniadau rhagorol drwy wneud i bob cyswllt gyfrif.

4.4 Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynyddu Incwm, ac is-grŵp Credyd Pensiwn penodol yr oedd ei aelodaeth yn cynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn a’r Adran Gwaith a Phensiynau. Drwy ddulliau trawslywodraethol a chydweithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill, byddai’r grŵp hwn yn cynyddu nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau a thaliadau lles.

4.5 Drwy Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru, roedd partneriaid hefyd yn gweithio gyda’i gilydd i gyrraedd pobl hŷn i godi eu hymwybyddiaeth o’u hawl i fudd-dal lles a nodwyd bod 33% o’r holl bobl sy’n defnyddio’r Gronfa yn bobl hŷn.

4.6 Fel yr awgrymwyd yn gynharach yn y cyfarfod, roedd gwaith eisoes yn mynd rhagddo rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, a oedd wedi trafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr refeniw a budd-daliadau awdurdodau lleol sut y gellid defnyddio data a gedwir yn well i dargedu’n uniongyrchol yr aelwydydd a allai fod yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn.

4.7 Clywodd yr Is-bwyllgor farn busnesau ledled Cymru, a oedd ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gynyddu refeniw lle bynnag y bo modd, ac yn ei dro elw, fel y gellid talu’r cynnydd mewn cyflogau.

4.8 Nodwyd bod llawer o fusnesau yn y Gorllewin a’r Canolbarth yn ei chael hi’n anodd adfywio eu heconomïau lleol drwy ddenu’r gweithlu hŷn coll yn ôl i’r gweithle, ond roedd rhanbarthau mawr fel Caerdydd yn ymdopi’n well â’r her.

4.9 Mewn perthynas â’r Gronfa Cymorth Dewisol, cydnabu’r Pwyllgor ei bod yn gronfa argyfwng sy’n cael ei harwain gan y galw ac sy’n cael ei hystyried fel dewis olaf a’i bod yno ar gyfer pobl a oedd mewn argyfwng ac angen cymorth ariannol, a oedd yn cynnwys pobl hŷn.

4.10 Roedd gwaith yn mynd rhagddo i nodi’r rhwystrau posibl sy’n atal pobl rhag ceisio cymorth gan y Gronfa ac i fynd i’r afael â’r rhain gyda’r sefydliadau hynny sy’n gysylltiedig â phobl hŷn. Roedd allgáu digidol yn cael ei gydnabod fel problem benodol.

4.11 Felly, yn ogystal â’r adnoddau ar y we a’r rhwydwaith ar gyfer partneriaid y Gronfa, roedd gwybodaeth am y Gronfa wedi’i dosbarthu i sefydliadau lleol gan gynnwys banciau bwyd a chanolfannau clyd i annog pobl i fanteisio arni, ac roedd mwy i’w wneud i godi lefelau ymwybyddiaeth.

4.12 Cydnabu’r Is-bwyllgor fod gan rai pobl hŷn ffrydiau ariannu gwahanol ar gael iddynt, a’u bod yn manteisio ar y rhain yn lle’r Gronfa.

4.13 Diolchodd yr Is-bwyllgor i’r holl bartneriaid am eu cyfraniadau.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Gorffennaf 2023