Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, IGC
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adfer ac Ailddechrau
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro, Costau Byw
  • Heather O’Sullivan, Tîm Costau Byw

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol a chroeso

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bawb i’r cyfarfod Gweinidogol.

1.2 Cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gofnodion 6 Chwefror.

Eitem 2: Diweddariad ynghylch cyfarfod rhwng y Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw a Gweinidogion

2.1 Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod Gweinidogion wedi cyfarfod â’r Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw, sydd o dan gadeiryddiaeth yr Athro Rachel Ashworth, yr wythnos flaenorol.

2.2 Roedd y grŵp wedi bod yn gweithio ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer ymgysylltu â Llywodraeth y DU, yn benodol mewn perthynas â’r broses Gofyn gan y Trysorlys. Mae llawer o’r meysydd a nodwyd yn asio gyda’r rhai sy’n cael eu hystyried gan y Llywodraeth, er enghraifft ynglŷn â cheisio cynnydd yn y Lwfans Tai Lleol, lleihau didyniadau o fudd-daliadau, a dileu taliadau premiwm ar gyfer Meteri Talu Ymlaen Llaw.

2.3 Mae meysydd eraill yn cynnwys gofyn i Lywodraeth y DU roi cychwyn ar Ymchwiliad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i ymchwilio i’r hyn sy’n ymddangos yn gynnydd mewn prisiau sy’n achosi chwyddiant lle nad yw’n ymddangos bod unrhyw gynnydd mewn costau cyfatebol i’r cwmnïau, megis ar gyfer contractau rhyngrwyd a ffonau symudol.

2.4 Hefyd roedd y Grŵp Arbenigol wedi bod yn ystyried pa gamau fyddai orau i Lywodraeth Cymru ac eraill eu cymryd i gefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw. Roedd clywed am rai o effeithiau’r argyfwng ar bobl sydd eisoes yn agored i niwed yn arbennig o anodd.

2.5 Roedd y cyfarfod gyda’r Grŵp yn canolbwyntio ar chwyddiant, ynni a chyllidebau negyddol, sef meysydd a oedd yn cael eu harwain gan yr Athro Huw Dixon, National Energy Action, a  Chyngor ar Bopeth Cymru yn y drefn honno. Hefyd, cafodd syniadau cychwynnol y Grŵp Arbenigol eu trafod, gan gynnwys camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, o dan arweinyddiaeth Sefydliad Bevan.

2.6 Y brif neges gyffredinol gan y Grŵp Arbenigol oedd na fyddai’r argyfwng costau byw yn mynd i ffwrdd ac y byddai ei effeithiau yn parhau am amser hir. Fodd bynnag, roedd wedi ei nodi bod y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru wedi bod o gymorth sylweddol, ac y dylai pob partner yng Nghymru wneud popeth posibl i barhau i liniaru effeithiau’r argyfwng.

2.7 Er ei bod yn glir na fyddai gan y Llywodraeth y cyllid i ymyrryd mor aml ac ar y raddfa yr oedd y Grŵp Arbenigol yn ei dymuno, roedd ei argymhellion serch hynny o gymorth o ran darparu ffocws, a dylid rhoi blaenoriaeth i’r meysydd hynny a fyddai’n gallu sicrhau’r canlyniadau gorau i’r rheini sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf.

2.8 Diolchodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i’r Aelodau am eu cyfranogiad yng ngwaith y Grŵp Arbenigol, gan nodi y byddai diweddariadau pellach yn cael eu rhoi i’r Is-bwyllgor wrth i’r gwaith ddatblygu.

Eitem 3: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yr eitem, a oedd yn rhoi diweddariad i’r Is-bwyllgor ynghylch y gwaith a oedd yn mynd rhagddo mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

3.2 Roedd Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £244m bob blwyddyn ar gyfer awdurdodau lleol i ariannu’r cynllun, a oedd yn cael ei ddarparu drwy’r setliad llywodraeth leol. Roedd y rheini a oedd yn gymwys o dan y Cynllun yn talu llai o dreth gyngor neu ddim treth gyngor o gwbl.

3.3 Pan gafodd ei sefydlu gyntaf yn 2013, roedd Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor y Llywodraeth yn helpu dros 300,000 o aelwydydd i reoli eu hatebolrwydd treth gyngor ac osgoi caledi ariannol.

3.4 Roedd y llwyth achosion wedi cael ei fonitro’n rheolaidd, a nodwyd ei fod wedi lleihau’n raddol ers 2013, gyda chynnydd dros dro yn ystod y pandemig. Roedd y ffigurau diweddaraf yn dangos bod oddeutu 265,000 o aelwydydd yn cael cymorth gyda’u biliau, gydag oddeutu 210,000 o aelwydydd yn talu dim treth gyngor o gwbl.

3.5 Roedd hynny’n cyfateb i bron un o bob pump o aelwydydd yng Nghymru yn cael rhywfaint o gymorth. Amcangyfrifwyd mai £287m oedd gwerth y dyfarniadau ar gyfer 2022-23, sy’n golygu mai bron £1,100 y flwyddyn oedd y dyfarniad cyfartalog ar gyfer aelwydydd cymwys.  Felly Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yw un o’r ymyriadau uniongyrchol mwyaf a wneir gan y Llywodraeth i leddfu effeithiau pwysau ariannol ar aelwydydd incwm isel.

3.6 Trafododd yr Is-bwyllgor y rhesymau posibl pam fod y llwyth achosion yn lleihau, gan gynnwys y ffaith bod Credyd Cynhwysol wedi cymryd lle budd-daliadau a oedd yn golygu bod pobl yn gymwys, gyda’r canlyniad bod aelwydydd a fyddai wedi bod yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth treth gyngor yn gorfod gwneud cais ar wahân, a newidiadau i’r oedran pensiwn.

3.7 Nodwyd bod ymgyrchoedd i gael pobl i fanteisio ar y cymorth wedi cael derbyniad cadarnhaol, ac o ganlyniad i ailsefydlu’r ddolen cymhwystra awtomatig, mae’n bosibl y gwelir cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n manteisio ar y cymorth.

3.8 Croesawodd yr Is-bwyllgor yr adolygiad o’r holl agweddau ar system y cynllun, a’r cymorth a roddir i bobl sy’n gadael gofal hyd at 25 oed, a fyddai’n helpu i leihau’r perygl y gallai’r rheini sydd wedi cael dechrau anodd mewn bywyd fod yn ddigartref neu mewn dyled.  

3.9 Nodwyd bod awdurdodau lleol yn cyfranogi yng ngwaith y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, er mwyn sicrhau bod casgliadau ac ôl-ddyledion yn cael eu rheoli mewn modd priodol, a oedd yn cynnwys ystyriaeth o faterion yn ymwneud â gosod Meteri Talu Ymlaen Llaw.

3.10 Croesawodd y Pwyllgor y diweddariad gan nodi y byddai’n hanfodol dynnu ynghyd yr holl ffrydiau gwaith ar draws y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod system fudd-daliadau gydlynol yn parhau i gael ei weithredu ar gyfer dinasyddion Cymru.

Eitem 4: Rôl Llywodraeth Cymru o ran herio a thynnu partneriaid ynghyd

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yr eitem, a oedd yn gofyn i’r Is-bwyllgor ystyried beth yn rhagor y gellid ei wneud i dynnu ynghyd bartneriaid a’u herio ynghylch y cymorth yr oeddent yn ei ddarparu i helpu i liniaru’r argyfwng costau byw. Roedd yr eitem hon wedi codi yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Arbenigol yr wythnos flaenorol.

4.2 Roedd yn ymddangos bod nifer mawr o enghreifftiau o Weinidogion yn gwneud llawer iawn i roi pwysau ar bartneriaid i gymryd camau, gan gynnwys cynnal cyfarfodydd rheolaidd â darparwyr cyfleustodau, sefydliadau ariannol, awdurdodau lleol, a chwmnïau digidol megis darparwyr ffonau symudol.

4.3 Cydnabuwyd bod nifer mawr o sefydliadau’n gwneud llawer, ond y byddai’n bosibl i rai ohonynt wneud rhagor.

4.4 Cydnabuwyd nad oedd gan Lywodraeth Cymru y pŵer i orfodi bod camau’n cael eu cymryd yn y rhan fwyaf o achosion, ond byddai’n hanfodol parhau i ymgysylltu â sefydliadau a rhoi pwysau arnynt, er mwyn sicrhau bod mwy yn cael ei gyflawni.

4.5 Roedd tystiolaeth bod rhoddwyr benthyciadau cyfrifol a gwasanaethau cyngor yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu’r cymorth yr oedd ei angen ar bobl, megis Undeb Credyd Cambrian a Chyngor ar Bopeth.

4.6 Nodwyd bod cyngor a chamau gweithredu yn cael eu darparu drwy Gyngor Partneriaeth Cymru a’r fframwaith partneriaeth ehangach, a oedd yn llwyddo i dynnu’r gwahanol sectorau ynghyd. Roedd ffocws ar y gwaith a oedd yn digwydd mewn cymunedau, megis y pencampwyr cyrhaeddiad a mentrau megis ‘Big Bocs Bwyd’ yn yr ysgolion.

4.7 Roedd Prifysgolion ac ysgolion hefyd yn cefnogi myfyrwyr gydag amrywiaeth o ymyriadau megis oriau agor hirach, cymorth gyda bwyd, ac ailgylchu ac uwchraddio cyfrifiaduron.

4.8 Nodwyd bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar fin cyhoeddi eu cynlluniau llesiant newydd, ac roedd yn glir y dylai effeithiau tlodi fod yn flaenoriaeth i’r holl bartneriaid.

4.9 Hefyd, roedd cyfle i weithio gyda Chynghorau Cymuned a Thref ar lefel fwyaf lleol democratiaeth, er mwyn ategu’r cymorth a ddarperir ar draws awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Roedd gwybodaeth ac adnoddau ar lefel bro wedi helpu yn ystod y pandemig, a byddent yn gwneud hynny eto ar gyfer y bobl fwyaf agored i niwed.

4.10 I’r perwyl hwn, byddai £150,000 yn cael ei roi i Un Llais Cymru ar gyfer ategu, yn hytrach na dyblygu, gweithgareddau sy’n digwydd eisoes.

4.11 Nodwyd y byddai gwaith yn parhau gyda thimau refeniw a budd-daliadau ar draws awdurdodau lleol i wella trefniadau cydgysylltu, a allai arwain at gynlluniau’n cael eu gweithredu mewn modd mwy effeithlon a’u targedu mewn modd mwy effeithiol tuag at y rheini sydd â’r angen mwyaf.

4.12 Roedd ymweliadau Gweinidogion â chanolfannau clyd ledled y wlad wedi amlygu’r manteision gwych sy’n cael eu darparu i gymunedau yn lleol, ac roedd potensial i ehangu gwasanaethau cymorth, lle’r oedd cyllid yn caniatáu hynny.

4.13 Awgrymwyd y gellid gwneud rhagor o waith gyda chwmnïau i ehangu eu tariff cymdeithasol, gan nodi nad oedd cwsmeriaid sydd mewn gwaith yn gallu elwa ar fanteision y tariffau hyn, er eu bod yn ei chael yn anodd talu eu biliau. Gallai’r Llywodraeth chwarae rôl gydgysylltu o ran dod â’r cwmnïau hyn a’u hawgrymiadau ynghyd i rannu dysgu a sefydlu safonau diwydiant cyffredin lle bo hynny’n briodol.

4.14 Gwnaed y pwynt y dylai elw cwmnïau gael eu hailfuddsoddi lle bo hynny’n bosibl er mwyn galluogi system atgyfeirio awtomatig at dariffau cymdeithasol.

4.15 Hefyd dylai rhagor o waith gael ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU ar gynyddu’r Lwfans Tai Lleol, sef cynnydd a fyddai’n arwain at arbedion ar gyfer awdurdodau lleol.

4.16 Nododd yr Is-bwyllgor y byddai adborth yn cael ei roi i’r Grŵp Arbenigol, ac y byddai’n cael ei herio i ganolbwyntio ar gamau gweithredu penodol y gellid eu cymryd.

4.17 Nododd y Pwyllgor y diweddariad.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2023