Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
  • Amelia John, Cyfarwyddwr dros dro, Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr, y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Neil Buffin, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Ailgychwyn ac Adfer
  • Emma Spear, Dirprwy Gyfarwyddwr IGC
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr dros dro, Costau Byw
  • David Willis, Pennaeth Trechu Tlodi

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS
  • Julie James
  • Eluned Morgan AS
  • Lynne Neagle AS

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y Gweinidogion i’r cyfarfod.

1.2 Cymeradwyodd yr Is-bwyllgor gofnodion 15 Mai.

Eitem 2: Diweddariad ar Ynni

2.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip y papur ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd gan nad oedd y Gweinidog hwnnw’n gallu bod yn bresennol. Rhoddwyd diweddariad ar ynni a sut yr oedd gwaith yn y maes hwn yn cefnogi pobl drwy’r argyfwng costau byw, gan ddisgrifio’r camau gweithredu nesaf.

2.2 Nododd yr Is-bwyllgor y byddai costau ynni yn parhau i fod yn heriol drwy’r gaeaf hyd at y gwanwyn nesaf, ac roedd rhagolygon credadwy yn awgrymu mai £1,900 i £2,000 fyddai’r cap pris ynni. Fodd bynnag, nid oedd y pris hwn yn ffafriol, gan ei fod yn cymharu â chost gyfartalog am flwyddyn o oddeutu £1,200 i aelwydydd yn y gwanwyn 2021.

2.3 Nid oedd yn bosibl darparu rhagolygon y tu hwnt i’r gwanwyn nesaf gydag unrhyw lefel o gywirdeb credadwy, ac felly awgrymwyd y dylai Llywodraeth y DU ganolbwyntio ar adolygu a diwygio prisiau manwerthu ynni drwy fesurau megis dileu costau amgylcheddol a pholisi oddi ar filiau, datgysylltu prisiau trydan o bris byd-eang nwy, a chymell ymgyrch i gyflwyno ystod o ffynonellau trydan adnewyddadwy.

2.4 Byddai’n cymryd amser i ddatblygu a gweithredu’r ymyriadau polisi hyn, ond roeddent yn cynnig atebion tymor hir a fyddai’n gwneud argyfyngau ynni yn llai tebygol o ddigwydd yn y dyfodol.

2.5 Yn y cyfamser, roedd gan Lywodraeth Cymru nifer o fentrau ar waith i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed. Y gyntaf o’r rhain oedd y Gronfa Cymorth Dewisol, a oedd wedi cael £18.8 miliwn ychwanegol yn y Gyllideb, gan ddod â’r Gronfa i £38.5 miliwn ar gyfer 2023-24, codiad o 95% ers y llynedd.

2.6 Hefyd, roedd partneriaeth Llywodraeth Cymru â’r Sefydliad Banc Tanwydd yn helpu cwsmeriaid ynni a oedd yn ei chael yn anodd talu am eu tanwydd ymlaen llaw, drwy ddarparu talebau tanwydd a chymorth i’r rheini nad ydynt ar y grid.

2.7 Hefyd roedd cymorth yn cael ei gynnig drwy’r Cynllun Nyth presennol; ac o ganlyniad i gytundeb diweddar gan y Cabinet, gwelwyd cynnydd o ran hynt Rhaglen Cartrefi Cynnes newydd i sicrhau dilyniant yn y cymorth a ddarperir.

2.8 Yn olaf, roedd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn darparu effeithlonrwydd ynni ar gyfer tai cymdeithasol.

2.9 Yn ogystal â’r holl gynlluniau cymorth hyn, roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod y cymorth ehangach yr oedd cydweithwyr y Cabinet wedi ei ddarparu i aelwydydd, gan gynnwys drwy Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ymrwymiadau ar brydau ysgol am ddim, a oedd yn rhoi cymorth hynod werthfawr i deuluoedd ledled Cymru a oedd yn ei chael yn anodd ymdopi.

2.10 Er gwaethaf yr uchod, roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod mai’r realiti i lawer o bobl ar draws Cymru oedd y byddai cyllidebau aelwydydd yn parhau o dan bwysau sylweddol, ac na fyddai teuluoedd yn teimlo bod eu sefyllfa ariannol wedi gwella er gwaethaf y cap is o fis Gorffennaf.

2.11 Roedd hyn yn cael ei liniaru i raddau yn ystod yr haf, ond gallai gaeaf oer arall olygu y byddai’r sefyllfa’n dirywio unwaith yn rhagor.

2.12 Hyd yn hyn, roedd Llywodraeth Cymru wedi gallu lliniaru rhai o bwysau’r gaeaf drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf, ond gan fod y cyllid gan Lywodraeth y DU yn annigonol, na fyddai hynny’n opsiwn eleni.

2.13 Nododd yr Is-bwyllgor y posibilrwydd y byddai pwysau’n cael eu rhoi gan bartneriaid a’r cyhoedd i ddarparu cymorth pellach a dargedir ar sail ariannol, pe bai’r sefyllfa’n dirywio.

2.14 Croesawodd yr Is-bwyllgor y gwaith a oedd yn dal i fynd rhagddo i roi pwysau ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i wrthdro’r achosion lle’r oedd meteri talu ymlaen llaw wedi cael eu gosod yn orfodol, ac i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto drwy fod cyflenwyr ynni yn cael eu rheoleiddio’n briodol.

2.15 Yn ogystal â hyn, roedd parhad canolfannau clyd fel canolfannau cymunedol, er gwaethaf y ffaith nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael, yn cael ei groesawu gan y Pwyllgor fel enghraifft o achos lle’r roedd ymyrraeth gynnar gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at fanteision tymor hir i gymunedau.

2.16 Codwyd y broblem y byddai llawer o bobl yn wynebu anawsterau gyda’u morgeisi yn ystod y misoedd a blynyddoedd nesaf oherwydd codiadau yn y cyfraddau llog, a chytunwyd y byddai angen monitro’r sefyllfa yn ofalus yn ystod yr haf a’r hydref.

2.17 Nododd yr Is-bwyllgor y diweddariad.

Eitem 3: Diweddariad ar Faterion Economaidd gan Jonathan Price, y Prif Economegydd

3.1 Cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at rai data economaidd allweddol sy’n cael eu rhyddhau yr wythnos hon, a gofynnodd i’r Prif Economegydd roi’r dadansoddiad diweddaraf i’r Is-bwyllgor.

3.2 Dywedwyd fod prif chwyddiant yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr wedi cyrraedd brig o dros 10%, a’i fod bellach yn disgyn, ond ei fod yn parhau’n uwch yn y DU nag yn ardal yr euro neu’r Unol Daleithiau. Byddai data newydd am chwyddiant yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen yr wythnos honno, ac er bod chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr wedi dod i lawr i 8.7% ym mis Ebrill, roedd chwyddiant craidd wedi codi.

3.3 Nodwyd bod tâl gwirioneddol yn parhau i ostwng, er bod twf mewn tâl nominal yn uchel. Roedd chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar fin arafu’n sydyn yn ystod y misoedd nesaf, wrth i godiadau sydyn mewn prisiau ynni y llynedd beidio â bod yn rhan o’r cyfrifiadau ac wrth i brisiau nwy a thrydan ostwng, ac roedd y dadlau’n parhau ynglŷn â pha mor gyflym a pha mor bell y byddai’n gostwng.

3.4 Roedd llawer o ansicrwydd oherwydd bod chwyddiant ym mis Ebrill yn uwch na rhagolygon y Banc, a nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gwahaniaeth mewn chwyddiant rhwng y DU a’r Unol Daleithiau/Ewrop yn seiliedig ar brisiau ynni. Byddai data mis Gorffennaf, a fyddai’n cael eu cyhoeddi ym mis Awst, yn hanfodol er mwyn asesu’r rhagolygon ar gyfer chwyddiant.

3.5 Roedd yn wir bod llawer o effeithiau’r codiadau mewn cyfraddau llog yn parhau i gael eu teimlo, ac roedd rhai’n rhagweld bod perygl y gallai codiadau pellach mewn cyfraddau llog achosi dirwasgiad.

3.6 O ran y farchnad lafur, roedd yr arwyddion yng Nghymru yn anghyson, gan fod data’r Arolwg o’r Llafurlu yn dangos bod y bwlch yn y cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU yn lledu. Yn ôl y data diweddaraf, roedd diweithdra ac anweithgarwch yn effeithio ar y bwlch, yn lle anweithgarwch yn unig fel o’r blaen.

3.7 Roedd rhai symudiadau rhwng dynion a menywod yn peri syndod, ac roedd anghysonderau rhwng arolygon chwarterol a blynyddol a gynhyrchwyd gan yr Arolwg o’r Llafurlu a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

3.8 Fodd bynnag, nodwyd bod data’r arolwg yn gyfnewidiol a bod gwybodaeth o systemau’r cynllun Talu wrth Ennill yn awgrymu bod Cymru yn gwneud yn well, heb gynnwys y sector hunangyflogedig. Hefyd roedd nifer yr hawlwyr budd-daliadau a data hysbysebion swyddi yn gyson â’r data Talu wrth Ennill, yn hytrach na data’r Arolwg o’r Llafurlu.

3.9 Roedd salwch tymor hir yn fater sylweddol yn y data ar gyfer y farchnad lafur yn y DU, er bod anweithgarwch wedi lleihau ers cyrraedd ei frig. Roedd yn ymddangos mai problemau iechyd meddwl a chyhyrysgerbydol oedd y rhesymau pennaf, gyda niferoedd llai yn dioddef o COVID hir.

3.10 O ran cynnyrch domestig gros, gwelwyd twf o 0.2% ym mis Ebrill, ond yn ei hanfod roedd y twf diweddar yn gwastatáu. Yn fwy pryderus na hynny, nid oedd buddsoddiad busnesau wedi dychwelyd eto at y lefelau cyn y refferendwm ar Brexit, ac roedd hynny’n destun pryder ar gyfer y rhagolygon twf.

3.11 Roedd rhagolygon twf tymor hirach wedi cael eu diwygio tuag i fyny, er bod hynny wedi digwydd o bwynt cychwyn isel.

3.12 Nododd yr Is-bwyllgor mai un o’r tueddiadau mwyaf pryderus oedd y byddai biliau bwyd yn cymryd lle biliau ynni fel y broblem ariannol fwyaf i deuluoedd, a byddai hynny’n cael effaith fawr ar yr aelwydydd tlotaf.

3.13 Hefyd roedd codiadau cyfraddau llog yn cynyddu’r pwysau wrth ad-dalu morgeisi, ac roedd y rhan fwyaf o effeithiau’r codiadau hynny heb gael eu teimlo’n llawn eto gan y rheini ar forgeisi cyfraddau penodedig.

3.14 Y disgwyl gan y farchnad oedd mai 6% fyddai brig cyfradd y Banc, gyda rhai economegwyr yn rhagweld ffigur is o 5%. Nodwyd bod y rhan fwyaf o aelwydydd sydd â morgeisi tuag at y pen cyfoethocach, ac y byddent yn elwa ar y ffaith y byddai chwyddiant yn lleihau gwerth eu morgeisi dros gyfnod o amser. Hefyd roedd llai na 30% o aelwydydd â morgais ar hyn o bryd.

3.15 Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd llawer o dystiolaeth bod chwyddiant diweddar yn cael ei yrru gan elw uwch yn fwy cyffredinol, heb gynnwys y diwydiant cynhyrchu ynni a oedd yn ddarostyngedig i dreth ffawdelw.

3.16 Yn gryno, byddai’r twf yn y tymor byr yn wan, ond ni fyddai hynny cynddrwg ag y disgwylid yn wreiddiol am y rheswm pennaf bod prisiau ynni’n gostwng.

3.17 Byddai datblygiadau yn y dyfodol yn dibynnu’n fawr ar sut yr oedd marchnadoedd ynni a nwyddau byd-eang yn perfformio, ac er y gallai problemau uniongyrchol sy’n gysylltiedig ag Wcráin fod yn rhai dros dro, roedd y cyd-destun gwleidyddol byd-eang yn parhau’n hynod o ansicr.

3.18 Byddai pwysau parhaus ar safonau byw oherwydd lefelau prisiau uchel, hyd yn oed wrth i lefelau chwyddiant ostwng, ac mai’r bobl ar incwm isel fyddai’n dioddef yr effeithiau gwaethaf.

3.19 Yn ystod y tymor hirach, roedd hefyd ansicrwydd o ran goblygiadau’r datblygiadau yn y maes deallusrwydd artiffisial ac effeithiau gweithgarwch economaidd o bell, gan gynnwys gweithio o gartref. Roedd rhywfaint o dystiolaeth bod yr olaf wedi bod o fantais i’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu, a’i fod wedi helpu rhai menywod i ail ymgysylltu â’r gweithle.

3.20 Nododd yr Is-bwyllgor y byddai’n debygol y byddai twf mewn cyflogau gwirioneddol yn parhau’n araf, ochr yn ochr â bod safonau byw yn gwastatáu, ac felly byddai’r sail dreth hefyd yn parhau’n wastad.

3.21 Diolchodd yr Is-bwyllgor i’r Prif Economegydd am y cyflwyniad a’r dadansoddiad manwl.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2023