Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Mick Antoniw AS
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth 
  • Jonathan Price, Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr Adfer ac Ailgychwyn
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr y Grŵp Adfer ar ôl COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • James Burgess, yr Is-adran Datblygu Gwledig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenoro

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7, 14 a 28 Tachwedd.

Eitem 2: Diweddariad llafar ar effaith y cymorth costau byw yn Natganiad Hydref Llywodraeth y DU a Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

2.1 Wrth gyflwyno’r diweddariad, canolbwyntiodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar yr elfennau costau byw penodol sy'n gysylltiedig â Datganiad Hydref y DU a'r Gyllideb Ddrafft oedd i ddod ill ddau.

2.2 Roedd y Datganiad a gyhoeddwyd ar 17 Tachwedd yn cynnwys £1.2bn yn ychwanegol i Gymru dros y ddwy flynedd nesaf, sef £666m yn ystod 2023-4 a £508m ar gyfer 2024-5. Roedd Gweinidogion yn gwybod sut y byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio yn y Gyllideb Ddrafft oedd i ddod.

2.3 Cymerodd y Canghellor rai camau yn ei Ddatganiad i ddarparu cymorth er mwyn lliniaru effeithiau'r argyfwng costau byw. Cymerwyd camau i dynhau mesurau cymorth cyffredinol megis y warant pris ynni ac i dargedu cymorth yn well i'r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed drwy gymorth ychwanegol i bobl sy'n cael budd-daliadau.

2.4 Fodd bynnag, fel y nodwyd mewn Datganiad Llafar diweddar i'r Senedd, nid oedd y mesurau yn ddigonol, a byddai'r argyfwng costau byw yn parhau'n anodd iawn i lawer o bobl yng Nghymru. Byddai galwadau am ragor o gymorth yn cynyddu'n anochel dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, ac roedd yr Is-bwyllgor wedi clywed cryn dipyn o dystiolaeth dorcalonnus o'r effeithiau mewn cyfarfodydd blaenorol.

2.5 Roedd y dystiolaeth bersonol a rannwyd â'r Is-bwyllgor hwn gan ddinasyddion a chymunedau o bob cwr o Gymru, yn arbennig tystiolaeth gan blant a phobl ifanc, yn parhau i daflu gloeuni ar y problemau a wynebir gan gymaint o bobl ledled Cymru. 

2.6 Felly, wrth baratoi ar gyfer y Gyllideb Ddrafft, roedd ffocws penodol ar ddarparu cymorth ar gyfer yr argyfwng costau byw yn rhan allweddol o'r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet.

2.7 Roedd Datganiad yr Hydref wedi arwain at nifer o symiau canlyniadol i Gymru, gan gynnwys £294m gan ardrethi busnes yn ystod 2023-4 a thua £90m o ganlyniad i'r Gronfa Gymorth i Aelwydydd. Roedd symiau canlyniadol eraill yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol ac addysg.

2.8 Mater i Weinidogion Cymru oedd penderfynu sut i ddefnyddio'r symiau canlyniadol hyn, yn unol ag egwyddorion arweiniol datganoli. Er y byddai cyfran sylweddol ohonynt yn cael ei defnyddio ar gyfer mesurau i gefnogi'r argyfwng presennol, o ystyried y bylchau a oedd i’w gweld o hyd yn y setliad cyllid a'r pwysau ym mhob rhan o’r portffolios, byddai rhywfaint o'r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer materion eraill.

2.9 Roedd nifer o ddyraniadau argyfwng costau byw wedi cael eu cynnig i'r Cabinet gytuno arnynt, gan gynnwys: £18.8m yn ystod 2023-4 ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, a'r un swm yn ystod y flwyddyn ddilynol; cyfanswm o £16m ym mhob un o'r ddwy flynedd nesaf ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion a Phrydau Ysgol am Ddim; a £10m ym mhob un o'r ddwy flynedd nesaf i gefnogi darpariaeth digartrefedd.

2.10Byddai cyllid a ddyrannwyd i'r Grant Cynnal Refeniw hefyd yn cefnogi ymyriadau costau byw, yn rhinwedd natur y cymorth yr oedd Awdurdodau Lleol yn ei ddarparu i'w cymunedau.

2.11Byddai'r Gyllideb Ddrafft hefyd yn cynnwys pecyn o gymorth ardrethi busnes gwerth £292m yn ystod 2023-24 a gwerth £145m ar gyfer 2024-25. Mesur pwysig oedd hwn, a oedd yn cydnabod y gwaith sy'n ymwneud ag effaith yr argyfwng ar fusnesau bach a chanolig a busnesau eraill. Byddai'r cymorth hwn yn hanfodol o ystyried y dirwasgiad presennol.

2.12 Rhan fach yn unig o'r Gyllideb oedd y dyraniadau a oedd yn cael eu gwneud yn y Gyllideb Ddrafft. Roedd cynlluniau gwario ar gyfer y ddwy flynedd nesaf wedi eu gosod fel rhan o'r Adolygiad diwethaf o Wariant dros nifer o flynyddoedd, felly roedd cyllid ar waith o hyd ymhlith amrywiaeth o brif grwpiau gwariant (MEG) i gefnogi'r argyfwng costau byw. Roedd y Rhaglen Llywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau a fyddai'n helpu pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru, ac roedd darparu yn parhau i fod yn un o’r prif ffocysau.

2.13 Roedd naratif a negeseuon cyfathrebu'r Gyllideb Ddrafft wrthi'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Un o'r prif themâu ynddynt oedd y cymorth parhaus a oedd yn cael ei roi i'r bobl yr oedd yr argyfwng yn effeithio fwyaf arnynt; yr argyfwng costau byw oedd y prif argyfwng ar hyn o bryd.

2.14 Croesawodd yr Is-bwyllgor y diweddariad a nododd uchelgais parhaus Llywodraeth Cymru, sef cefnogi pobl ledled Cymru yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Eitem 3: Trafodaeth ar Gynhwysiant Ariannol

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau'r agenda cynhwysiant ariannol. Aeth ymlaen i amlinellu'r camau ymarferol y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd er mwyn hyrwyddo'r defnydd o dariffau cymdeithasol ar gyfer gwasanaethau band eang.

3.2 Nodwyd bod gwaith gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a rhanddeiliaid allweddol yn parhau i fynd rhagddo, gyda'r nod o gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol: Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru, a fyddai'n ysgogi newidiadau cadarnhaol i gyllid personol pobl.

3.3 Nododd y cynllun fesurau sy'n cael eu datblygu er mwyn gwella canlyniadau ariannol i bawb, gan gynnwys y bobl hynny a oedd yn cael eu cau allan yn rheolaidd o fanteisio ar y cymorth a oedd ei angen arnynt am wahanol resymau.

3.4 Nododd yr Is-bwyllgor y cynnydd da a wnaed gydag Undebau credyd, a oedd yn rhan ganolog o waith cynhwysiant ariannol. Roedd £620,000 yn ychwanegol bellach ar gael ar gyfer undebau credyd yn ystod 2022-23, gyda £20,000 er mwyn parhau ymgyrch farchnata ddigidol ddwys a £600,000 i ehangu benthyciadau. Roedd hyn ar ben y £500,000 a oedd eisoes ar waith i gefnogi eu gwaith.

3.5 At hynny, roedd cynllun ehangu benthyciadau Llywodraeth Cymru yn helpu pobl sy'n fwy agored i niwed yn ariannol i fanteisio ar gredyd teg drwy danysgrifennu benthycwyr sy'n peri mwy o risg. Rhwng mis Mai a mis Medi, roedd 580 o fenthycwyr y nodwyd eu bod yn peri risg o ganlyniad i'w teilyngdod i gael credyd wedi gallu manteisio ar fenthyciad fforddiadwy. Roedd y nifer hwn yn cynyddu bob mis, ac er gwaethaf y ffaith bod y prosiect hwn yn gymharol fach, roedd yn dangos bod modd sicrhau canlyniadau cadarnhaol drwy weithio gyda chwsmeriaid mewn ffordd gefnogol fel hyn, a helpu i gadw unigolion rhag defnyddio credyd cost uchel neu gredyd anghyfreithlon.

3.6 Anogwyd pob Gweinidog i ymweld â'i undeb credyd lleol i hyrwyddo benthyciadau fforddiadwy ac i godi proffiliau, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau'r cyhoeddusrwydd mwyaf posibl ar gyfer ymweliadau o'r fath.

3.7 Roedd £1m wedi cael ei ddarparu ar gyfer ‘Cynllun Benthyciad Dim Llog’, y bwriadwyd iddo roi ei fenthyciadau cyntaf yng Nghymru yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 5 Rhagfyr. Roedd hyn yn cael ei ddarparu gan gonsortiwm newydd o'r enw Credyd Cymdeithasol, sef partneriaeth brofiadol rhwng Banc Cymunedol Robert Owen, Purple Shoots a Plend. Byddai'r cynllun peilot yn rhoi cyfle i ragor o bobl fanteisio ar gredyd fforddiadwy. Prosiect bach oedd hwn, gyda’r nod o brofi'r cysyniad yn ystod y misoedd cyntaf o ddarparu.

3.8 Nodwyd bod Tai Cymunedol Cymru wedi hwyluso trafodaethau â rhoddwyr benthyciadau cyfrifol a chymdeithasau tai er mwyn eu hannog i roi cyfrifianellau budd-daliadau ar eu gwefannau. Roedd Undeb Credyd Cymru yn enghraifft dda o hyn, a oedd wedi rhoi cyfrifiannell budd-daliadau ar ei dudalen benthyciadau bach yn ddiweddar, gan roi i bobl y cyfle gorau posibl i wirio a oeddent yn gymwys am unrhyw fudd-daliadau.

3.9 Roedd cyfrifiannell Gymraeg hefyd yn cael ei datblygu, a fyddai ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar ddechrau'r flwyddyn nesaf.

3.10 Nodwyd y gallai partneriaid cymdeithasol helpu i wella cydnerthedd ariannol drwy hyrwyddo cynlluniau cynilo'r gyflogres, a oedd yn cael eu darparu gan Moneyworks Cymru.

3.11 Roedd gwaith i chwilio am gyfleoedd i brofi ‘Rentflex’ yng Nghymru eisoes yn mynd rhagddo, a fyddai'n rhoi cyfle i bobl dalu ymrwymiadau rheolaidd yn fwy hyblyg. Gellid hefyd ystyried y dreth gyngor ar gyfer hyn o beth.

3.12 Croesawodd y Pwyllgor y cyllid parhaus o £38.5m ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol dros y ddwy flynedd ariannol nesaf. Roedd adborth gan Bartneriaid Cymdeithasol wedi nodi bod y gronfa hon yn hanfodol, gan ddarparu cymorth gwerth bron £20m i'r bobl fwyaf agored i niwed yn ariannol ers mis Ebrill eleni, gan gynnwys cymorth i dalu am danwydd oddi ar y grid. Dyfarnwyd arian i 333 o bobl i dalu am danwydd oddi ar y grid hyd at ddiwedd mis Hydref, sef cyfanswm o fwy na £67,000 mewn taliadau grant o'r Gronfa.

3.13 Roedd yr arian hwn ar ben y gwaith i helpu'r bobl hynny y roedd y cynnydd aruthrol ym mhrisiau ynni wedi effeithio fwyaf arnynt. Lansiwyd Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru 2023-23 Llywodraeth Cymru ar 26 Medi, ac erbyn 18 Tachwedd, roedd 260,638 o aelwydydd wedi cael taliad o £200. At hynny, roedd y gweithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad Banc Tanwydd yn parhau, er mwyn darparu cynllun talebau tanwydd gwerth £4m gyda'r nod o roi cymorth argyfwng i'r aelwydydd hynny yr oedd angen iddynt dalu ymlaen llaw am eu hynni ac nad oedd modd iddynt wneud hynny. Roedd 40 o sefydliadau ar wahanol gamau yn y broses o ddod yn bartneriaid Sefydliad Banc Tanwydd, a hyd yma roedd 4,000 o dalebau am fesuryddion rhagdalu wedi cael eu hawlio.

3.14 Nodwyd bod ymgyrch genedlaethol y DU ar dariffau cymdeithasol wedi cael ei chreu a bod lansiad tawel wedi cael ei gynnal ar 21 Tachwedd. Roedd 14 o ddarparwyr gwasanaethau telathrebu yn cynnig tariff cymdeithasol ar hyn o bryd, ond yn ôl y data diweddaraf gan Ofcom a ryddhawyd ym mis Medi, dim ond 3.1% o'r DU oedd wedi manteisio ar dariff cymdeithasol, o 4m o aelwydydd a allai fod yn gymwys.

3.15 Roedd rhagor o waith wrthi'n cael ei wneud ar gysylltu adnoddau'r ymgyrch ar dariffau cymdeithasol â'r ymgyrchoedd presennol Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i chi ac Yma i Helpu yng Nghymru, a byddai rhagor o waith gyda Cyngor ar Bopeth yn cael ei wneud.

3.16 Roedd gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar ddarparu cardiau sim gyda data am ddim mewn canolfannau clyd drwy'r Banc Data Cenedlaethol, sef menter o dan oruchwyliaeth y Good Things Foundation a gefnogir gan Cymunedau Digidol Cymru.

3.17 Nododd y Pwyllgor fod Dŵr Cymru yn awyddus i hyrwyddo ei dariff cymdeithasol ar gyfer dŵr yng Nghymru, a bod arbedion o hyd at £230 yr aelwyd ar gael i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed. Byddai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gweithio i dynnu sylw at hyn.

Eitem 4: Trafodaeth ar yr Wybodaeth ddiweddaraf a'r Camau nesaf

4.1 Cyflwynodd y Prif Weinidog y papur, a oedd yn amlinellu amrywiaeth eang o gamau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ers i'r Is-bwyllgor gael ei sefydlu, a'r gwaith pellach y byddai'n ofynnol wrth symud ymlaen i'r flwyddyn newydd.

4.2 Cydnabuwyd bod cyfarfodydd rheolaidd ag Arweinwyr Awdurdodau Lleol wedi bod yn ddefnyddiol o ran meithrin cydberthnasau gwaith cadarn yn ystod yr argyfwng hwn ac argyfyngau eraill, ac y byddai gwaith hwnnw yn parhau.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2022