Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Mick Antoniw AS
  • Eluned Morgan AS
  • Jeremy Miles AS
  • Julie James AS
  • Julie Morgan AS
  • Hannah Blythyn AS

Mynychwyr allanol

  • Sumina Azam, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Will Whiteley, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmonds, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gymraeg, Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa'r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Adferiad & Ail-ddechrau
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr Adferiad COVID a’r Grŵp Llywodraeth Leol
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)

Eitem 1: Cyflwyniad gan Bartner Cymdeithasol - Sumina Azam, Iechyd Cyhoeddus Cymru

1.1 Croesawodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Dr Sumina Azam o Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gwahodd i wneud cyflwyniad i'r grŵp.

1.2 Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal ymchwil i'r ffyrdd y gallai'r argyfwng costau byw effeithio ar iechyd a lles. Maen nhw wedi edrych drwy lens iechyd cyhoeddus i nodi camau byr dymor a mwy hirdymor i lunwyr polisi ar gyfer diogelu a hybu iechyd a lles pobl yng Nghymru yn yr ymateb i'r argyfwng.

1.3 Y mater allweddol a nodwyd yn y gwaith, a fyddai'n arwain at anghydraddoldebau iechyd, oedd nad oedd cyflogau a thaliadau lles pobl yn codi cyfuwch â chostau byw cynyddol o ran pethau fel ynni, tanwydd, tai, a chostau bwyd. Roedd busnesau a gwasanaethau cyhoeddus hefyd yn gweld eu cyllidebau'n cael trafferth ateb y galw arnynt yn wyneb costau cynyddol.

1.4 Roedd yr argyfwng yn golygu bod mwy o bobl yn methu â fforddio'r hanfodion, ac roedd hyn yn cael effeithiau negyddol sylweddol ac eang ar iechyd meddwl a chorfforol. Gallai'r rhain arwain at ganlyniadau hirdymor i'r bobl sy'n cael eu heffeithio a'r systemau a'r gwasanaethau yr oedd eu hangen i'w cefnogi.

1.5 Roedd yr argyfwng yn cyflymu gwahaniaethau a oedd eisoes yn cynyddu mewn iechyd rhwng y rhai ar y graddfeydd incwm uwch ac is.

1.6 Nodwyd nad gwasgfa economaidd dros dro yn unig oedd hyn, ond mater iechyd cyhoeddus hirdymor sy'n effeithio ar y boblogaeth gyfan. Roedd potensial i'r effaith ar iechyd a lles yng Nghymru ei roi ar yr un raddfa â phandemig COVID-19, a oedd eisoes wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru.

1.7 Ar ben hynny, y rhai sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd fydd y rhai sy'n cael eu taro’n waethaf, gan gynnwys teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, plant, pobl sy'n byw ag anableddau a phobl hŷn.

1.8 Diolchodd y Pwyllgor i Dr Sumina Azam am ei chyflwyniad.

Eitem 2: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol – 10, 17, 24 Hydref

2.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion cyfarfodydd 10, 17 a 24 Hydref.

Eitem 3: Blaenoriaethu Mesurau Costau Byw – CSC-CoL(22-23)11

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y papur, a ofynnodd i'r Pwyllgor gytuno ar wneud gwaith ar frys i asesu blaenoriaeth gymharol y gwahanol gynigion ynghylch costau byw sy'n dod i'r amlwg a nodi materion yn ystod y flwyddyn hon o ran atal digartrefedd a chymorth llety brys.

3.2 Nododd y Pwyllgor y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Tachwedd 2022