Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS 
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Vaughan Gething AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS

Cyfranwyr allanol

  • Yr Athro Rachel Ashworth, Cadeirydd y Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, IGC
  • Jo Salway, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi
  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
  • Jonathan Price, Y Prif Economegydd
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Liz Lalley, Cyfarwyddwr, Ailgychwyn ac Adfer
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (Cofnodion)
  • Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
  • James Burgess, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Costau Byw
  • Carla Llewellyn, Y Tîm Costau Byw
  • Christopher Morgan, Y Tîm Costau Byw

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar 12 Rhagfyr.

Eitem 2: Diweddariad gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar ein cymorth costau byw – pob Gweinidog

2.1 Dechreuodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol drwy roi diweddariad ar y Gronfa Cymorth Dewisol, gan nodi bod dros 195,000 o bobl wedi cael cymorth arian parod gan y Gronfa, sef cyfanswm o dros £14.2m mewn grantiau, rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2022. Bu cynnydd yn y nifer ers yr 112,000 o bobl yn yr un cyfnod yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Roedd y galw wedi parhau yn ystod mis Rhagfyr, gyda thros 33,000 o unigolion yn defnyddio’r gronfa.

2.2 O ran Undebau Credyd, roedd bron i 2,000 o oedolion ychwanegol wedi ymuno ag undeb o gymharu â’r nifer yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol. Roedd y nifer uchaf erioed o geisiadau am fenthyciadau wedi cael eu cofnodi cyn y Nadolig, gyda thros 1,000 o fenthyciadau ychwanegol yn cael eu rhoi.

2.3 Hefyd, roedd nifer o Weinidogion wedi ymweld ag Undebau Credyd yn gynnar yn y flwyddyn newydd i roi hwb i’r aelodaeth.

2.4 O ran y Gronfa Gynghori Sengl, nodwyd bod yr holl wasanaethau wedi rhagori 20%, neu o leiaf 20%, ar eu targedau perfformiad cytûn ar gyfer niferoedd erbyn diwedd mis Medi 2022.

2.5 Dywedwyd bod Cyngor ar Bopeth Cymru wedi adrodd bod gostyngiad o 15% yn nifer y bobl sy’n ceisio cyngor ar ddyledion ynni a bod gostyngiad o 12 % yn y nifer a oedd wedi ceisio talebau banc bwyd ym mis Tachwedd 2022, a’r farn oedd bod hyn wedi digwydd am nad oedd pobl yn cysylltu yn ystod y cyfnod oherwydd pryderon eraill a oedd yn gysylltiedig â’r Nadolig.

2.6 O ran y Cynllun Cymorth Tanwydd, erbyn 16 Rhagfyr, roedd bron i 290,000 o aelwydydd wedi cael taliad o £200 i’w helpu gyda’u costau ynni. Roedd hynny o gymharu â 166,780 o aelwydydd a oedd wedi elwa ar Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 2021-22.

2.7 Dywedwyd bod 11 allan o’r 22 o Awdurdodau Lleol wedi talu dros 90,000 o aelwydydd yn awtomatig hyd yma heb fod angen iddynt wneud cais. Awgrymwyd y dylid gwneud mwy i annog awdurdodau eraill i wneud taliadau uniongyrchol, a fyddai’n symleiddio prosesau a chaniatáu i’r ymgeiswyr gael taliadau prydlon. Byddai hyn hefyd yn hwyluso mynediad at fudd-daliadau eraill. Cytunwyd y dylid codi hyn gydag Arweinwyr Awdurdodau Lleol, ac y gellid tynnu sylw at y broses a ddatblygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel enghraifft dda.

2.8 Wedyn, darparodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddiweddariad ar fwyd mewn ysgolion, gan nodi bod mwy o deuluoedd yn dod yn gymwys ac yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim. Bu cynnydd o 4288 o ddysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim o ran amddiffyn wrth bontio yn y data diweddaraf, o 64,294 yn 2021 i 68,582 yn 2022. Roedd disgwyl i’r nifer hwn godi ymhellach ar ôl y casgliad data nesaf.

2.9 O ran y ddarpariaeth gynhwysfawr o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, gwelwyd cynnydd sylweddol mewn amser byr o ran cyflawni’r ymrwymiad hwn. Byddai bron i 66,000 o ddisgyblion ychwanegol yn cael prydau yn ystod blwyddyn gyntaf y gwaith cyflwyno, ac roedd 45,000 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unwaith.

2.10 Nodwyd bod £11m wedi cael ei neilltuo ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth bwyd mewn gwyliau ysgol i ddisgyblion sydd fel arfer yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sef trefn a fyddai’n parhau tan ddiwedd hanner tymor mis Chwefror.

2.11 Dywedwyd bod y dystiolaeth anecdotaidd gan Gynghorwyr y Grant Datblygu Disgyblion yn dangos bod cynnydd wedi digwydd yn nifer y ceisiadau am gymorth gan ysgolion a lleoliadau yn ystod y flwyddyn bresennol. Roedd ffigurau mynediad y Grant Datblygu Disgyblion yn dangos bod 88% o ddyraniad dangosol y gyllideb wedi cael ei wario.

2.12 Rhoddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ddiweddariad ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 265,000 o aelwydydd yn cael cymorth gyda’u biliau treth gyngor drwy’r cynllun, bron un allan o bob pum aelwyd yng Nghymru.

2.13 Mae llwyth achosion Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor wedi lleihau’n raddol ers i’r cynllun gael ei gyflwyno yn 2013, ond gallai fod bwlch rhwng bod pobl yn dechrau teimlo effeithiau economaidd yr argyfwng costau byw ac yn gwneud cais am gymorth. Hefyd gallai’r galw ar y Cynllun fod wedi ei leddfu gan gymorth ariannol arall a ddarperir neu gallai rhai aelwydydd fod wedi cytuno ar drefniadau eraill gyda’u hawdurdod lleol, megis ymestyn y taliadau.

2.14 Roedd yn bosibl hefyd nad oedd rhai aelwydydd wedi sylweddoli y gallent fod yn gymwys i gael cymorth, yn enwedig os nad oedd eu hincwm na’u statws cyflogaeth wedi newid. Roedd hyn yn pwysleisio’r angen parhaus i godi ymwybyddiaeth o Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac i annog pobl i fanteisio arno. Roedd adroddiadau am godiadau mewn treth gyngor ar gyfer 2023-24 wedi dechrau ymddangos, a gallai hynny hefyd gynyddu’r galw.

2.15 Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd fod nifer cynyddol o bobl yn cyflwyno eu hunain fel pobl ddigartref, a bod llawer ohonynt yn deuluoedd â phlant ifanc. 

2.16 Hefyd bu cynnydd sydyn yn nifer y bobl a oedd yn cysgu allan, ac roedd wedi bron dyblu ers dechrau’r flwyddyn. 

2.17 Roedd adroddiadau gan awdurdodau lleol a chynrychiolwyr landlordiaid bod lefelau uchel o hysbysiadau adran 21 yn cael eu cyflwyno, gan arwain at nifer cynyddol o aelwydydd yn ceisio cymorth atal digartrefedd. 

2.18 Hefyd roedd nifer cynyddol o landlordiaid yn awyddus i ymadael â’r Cynllun Iawndal Eiddo, ac roedd o leiaf un awdurdod lleol wedi adrodd bod landlordiaid yn awyddus i ymadael â’r Cynllun Lesio Cenedlaethol, gan nad oedd bellach yn ddigonol ar gyfer eu costau.

2.19 Roedd y Pwyllgor yn cytuno mai ymyrryd ac atal yn gynnar oedd y ffordd fwyaf effeithiol o atal colli cartref yn dal i fod.

2.20 Roedd y ddarpariaeth o gyngor effeithlonrwydd ynni a chyflwyno’r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio wedi cael eu croesawu.

2.21 Nododd y Pwyllgor mai biliau dŵr oedd y cyntaf i beidio â chael eu talu yn aml gan fod pobl yn gwybod nad oedd modd eu torri i ffwrdd o’u cyflenwad dŵr o dan y gyfraith, ac awgrymwyd y gallai’r data hyn weithredu fel system rhybudd cynnar ddefnyddiol ar gyfer y rheini sy’n cael anawsterau ariannol.

2.22 Cododd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y mater tlodi trafnidiaeth, gan nodi nad oedd dros 50% o bobl yn gweld dewis arall heblaw am ddefnyddio eu car. Ar gyfartaledd, mae 13% o incwm aelwydydd yn cael ei wario ar gostau sy’n gysylltiedig â theithio mewn ceir. O ran y rheini sy’n rhentu ceir am gyfnod penodol, ar gyfartaledd roeddent yn gwario 19% o’u hincwm gros ar gostau sy’n gysylltiedig â’r car.

2.23 Roedd diweddariadau eraill yn cynnwys y gwaith da a oedd yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Wrecsam i fod yn gydnaws ag Undebau Credyd yn yr ardal ar lefel strategol. Fodd bynnag, roedd rhai awdurdodau a darparwyr gwasanaeth yn dweud eu bod yn wynebu anawsterau mawr wrth geisio cynnal cyfleusterau a gwasanaethau, megis canolfannau hamdden a phyllau nofio. 

2.24 Hefyd, roedd y cynnig gofal plant ar waith, ond roedd y gwasanaeth yn fregus ac yn agored i niwed gan broblemau recriwtio ac effeithiau’r argyfwng costau byw sydd y tu allan i reolaeth y Llywodraeth.

2.25 Diolchodd y Prif Weinidog i’r Gweinidogion am eu diweddariadau, a chytunwyd y dylid rhannu eu nodiadau briffio ar gyfer y cyfarfod â’r Pwyllgor.

Eitem 3: Diweddariad gan Jonathan Price, y Prif Economegydd

3.1 Gwahoddodd y Prif Weinidog y Prif Economegydd i roi trosolwg o’r sefyllfa economaidd.

3.2 Y brif thema oedd cyffredinolrwydd ansicrwydd yn y cyd-destun byd-eang, gyda’r rhyfel yn Wcráin yn parhau’n ddi-baid a’r effeithiau parhaus sy’n deillio o ymadael â’r UE, yn ogystal â’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r tywydd a’r problemau posibl gyda chadwyni cyflenwi o Tsieina oherwydd cyfyngiadau COVID, er bod rhai arwyddion cynnar y gallai’r rheini fod yn lleihau.

3.3 Roedd yn ymddangos bod y DU mewn dirwasgiad, er ei bod yn bosibl y byddai’n osgoi’r diffiniad technegol o drwch blewyn ar gyfer y chwarter diweddaraf, ac roedd y  Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn rhagweld y byddai’r DU yn wynebu’r dirwasgiad gwaethaf o unrhyw genedl yn y G7, er y gallai fod yn un bas.

3.4 Roedd yn amlwg fod effaith digynsail ar safonau byw pobl, gyda chyflogau’n parhau’n wastad am y rhan fwyaf o’r degawd blaenorol ers y chwalfa ariannol, a’r sector cyhoeddus yn gweld gostyngiad o 8% yn ystod y cyfnod hwnnw.

3.5 Roedd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y byddai gwasgfa ariannol o 7% ar incwm pobl, a fyddai’n waeth nag yn y cyfnod ar ôl yr argyfwng ariannol.

3.6 Roedd yr effeithiau ar gostau byw wedi datgelu’r gwahaniaeth sy’n bodoli rhwng aelodau penodol o gymdeithas, ac roedd y rheini a oedd â nodweddion gwarchodedig wedi dioddef yn waeth nag eraill.

3.7 O ran y Warant Pris Ynni, nodwyd bod prisiau’r dyfodol yn fwy sefydlog er bod prisiau hapwiriadau cyfanwerthu ar y farchnad nwy wedi gostwng, a oedd yn golygu nad oed yn debygol y byddai cost ynni yn gostwng yn sylweddol i aelwydydd yn y dyfodol agos. Roedd hyn ochr yn ochr â’r lleihad mewn cymorth o fis Ebrill i fusnesau ac aelwydydd, er bod rhywfaint o amddiffyniad i’r rhai tlotaf. Byddai aelwydydd yn teimlo’r effeithiau gwaethaf yn ystod y gaeaf canlynol.

3.8 O ran tlodi cymharol, roedd y cynyddu budd-daliadau a phensiynau yn unol â chwyddiant yn golygu ei bod yn debygol y byddai’r bwlch yn cau ychydig, gyda theuluoedd incwm canolig yn dioddef gwasgfa, a’r 5% uchaf o bobl a oedd yn meddu ar asedau cyfalaf yn gweld cynnydd pellach yn eu cyfoeth.

3.9 Bu cynnydd sylweddol mewn anweithgarwch ar draws y DU, a byddai hynny’n cael effaith ar yr economi. Roedd yn ymddangos bod nifer o bobl yn eu pum degau wedi ymddeol yn gynnar yn ystod y pandemig, neu fod pobl ar draws y sbectrwm oedran yn dioddef iechyd gwael tymor hir. Roedd adroddiadau bod cynnydd sylweddol mewn problemau sy’n ymwneud â’r galon, problemau cyhyrysgerbydol, a phroblemau iechyd meddwl, a fyddai’n bendant yn destun pryder ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir.

3.10 Diolchodd y Pwyllgor i’r Prif Economegydd am y diweddariad, gan gytuno i roi adborth am unrhyw feysydd o ddiddordeb penodol ar gyfer cyflwyniadau yn y dyfodol.

Eitem 4: Diweddariad ar waith y Grŵp Arbenigol – Yr Athro Rachel Ashworth

4.1 Croesawodd y Prif Weinidog yr Athro Rachel Ashworth i'r cyfarfod, gan ddiolch iddi am gytuno i Gadeirio'r Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw, a'i gwahodd i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor.

4.2 Dywedodd yr Athro Ashworth y byddai’r grŵp, a oedd yn cynnwys arbenigwyr academaidd a chynrychiolwyr o’r sector a fyddai’n gallu darparu safbwynt gan y rheini sydd â phrofiad bywyd, yn cydlynu ac yn casglu amrywiaeth o gyngor a thystiolaeth gan randdeiliaid uchel eu parch. Byddai manylion yr aelodaeth yn cael eu rhannu â’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

4.3 Byddai’r dull gweithredu cychwynnol yn golygu cynnal cyfarfod cwmpasu cychwynnol, a byddai hynny’n cael ei ddilyn gan gyfarfod llawn o’r grŵp yn nes ymlaen yn y mis, a fyddai’n gyfle i ddarparu fframwaith ar gyfer y gwaith ac i bwysleisio’r dull gweithredu sy’n benodol i Gymru, gan gynnwys canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

4.4 Nodwyd y byddai cynrychiolydd o’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn ymuno â’r aelodaeth, ac y byddai’r grŵp yn ceisio cyngor gan y cynghorydd cydraddoldebau o Lywodraeth Cymru pan fo angen.

4.5 Awgrymwyd y dylai’r grŵp anelu at ganolbwyntio ar ymchwil a syniadau newydd ar gyfer ymyriadau a mentrau polisi, gan gynnwys yr ymateb presennol i’r argyfwng, gan adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud eisoes gan Is-bwyllgor y Cabinet hyd yma. Byddai’r grŵp yn ystyried gwneud argymhellion sy’n berthnasol i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac eraill. Nodwyd y byddai Gweinidogion yn cyfarfod â’r Grŵp Arbenigol ar Gostau Byw ar 16 Chwefror.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2023