Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Aelodaeth

  • Y Prif Weinidog (Cadeirydd)
  • Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Gweinidog yr Economi
  • Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Diben

1. Bydd Is-bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw yn darparu arweiniad strategol ar gyfer ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i’r argyfwng Costau Byw.

2. Er bod mwyafrif y dulliau o fynd i’r afael â nodweddion sylfaenol pwysau Costau Byw, fel drwy’r system les, yn faterion a gedwir yn ôl ar gyfer Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud yr hyn a all i fynd i’r afael â’r pwysau hyn yn y tymor byr a’r tymor hir.

3. Yn benodol, bydd Is-bwyllgor y Cabinet yn:

  • rhoi arweiniad strategol ar gyfer dull cyffredinol Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw
  • ystyried y dystiolaeth a’r dadansoddiadau diweddaraf ar bwysau costau byw a’r effeithiau cysylltiedig ar ddinasyddion Cymru, ei heconomi, a’i gwasanaethau cyhoeddus
  • monitro a rhoi arweiniad i raglenni sy’n mynd i’r afael â phwysau costau byw yn y tymor byr a’r tymor hir fel ei gilydd
  • ystyried cynigion ar gyfer mesurau newydd neu well er mwyn ymateb i bwysau costau byw
  • cefnogi ymateb ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’ i’r argyfwng costau byw, gan gydweithio â phartneriaid ledled Cymru i ddarparu ac ailganolbwyntio cymorth
  • sicrhau synergedd ar draws portffolios er mwyn cyflawni dull cydgysylltiedig o fynd i’r afael â phwysau costau byw
  • cytuno ar safbwyntiau Llywodraeth Cymru ar fentrau costau byw sy’n deillio o Lywodraeth y DU

Trefniadau

4. Bydd y Cadeirydd yn cytuno ar eitemau’r agenda a’r papurau. Bydd y papurau’n cyfleu barn y Gweinidogion perthnasol cyn iddynt gael eu cyflwyno ar gyfer cytuno arnynt, a byddant yn cael eu dosbarthu i holl aelodau’r Cabinet. Gall Gweinidogion fynychu cyfarfodydd pan fo buddiannau portffolio yn cael eu trafod. Bydd y Pwyllgor yn gwneud argymhellion ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cabinet llawn, yn enwedig ar unrhyw faterion trawsbynciol neu faterion sydd â goblygiadau ariannol neu ddeddfwriaethol.

5. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn wythnosol yn gyntaf yn ystod mis Medi a mis Hydref, a bydd y trefniadau’n cael eu hadolygu wedi hynny. Yn ystod y cyfnod hwn bydd detholiad o bartneriaid cymdeithasol yn cael eu gwahodd i fynychu Is-bwyllgor y Cabinet bob pythefnos. Bydd y Cadeirydd hefyd yn gwahodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac arbenigwyr annibynnol i gyfarfodydd perthnasol.

6. Bydd papurau a chofnodion Pwyllgorau’r Cabinet yn cael eu llunio a’u cyhoeddi yn unol â’r trefniadau a nodir ar gyfer y Cabinet.

Mark Drakeford AS
Y Prif Weinidog
Medi 2022