Is-etholiad y Senedd 23 Hydref 2025 (Caerffili): canllawiau i weision sifil
Yn esbonio sut mae gweision sifil i barhau’n ddiduedd yn y cyfnod cyn is-etholiad Caerffili 23 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Cynhelir is-etholiad i etholaeth Caerffili y Senedd ar 23 Hydref 2025. Diben y canllawiau hyn yw hysbysu staff o’r trefniadau ar gyfer ymdrin â busnes y llywodraeth yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, er mwyn osgoi’r canfyddiad eu bod yn dylanwadu ar yr ymgyrch etholiadol mewn unrhyw ffordd neu beri iddi ymddangos fel pe bai hynny yn digwydd, i gynnal didueddrwydd y Gwasanaeth Sifil, ac i osgoi beirniadaeth o wneud defnydd amhriodol o adnoddau swyddogol.
1. Cyflwyniad
I gofrestru - mae cyfeiriadau at Weinidogion yn y ddogfen hon yn cynnwys: y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru (sy’n cael eu hadnabod fel Ysgrifenyddion y Cabinet ar hyn o bryd), y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni a’r Dirprwy Weinidogion (sy’n cael eu hadnabod fel Gweinidogion ar hyn o bryd).
Cynhelir is-etholiad i etholaeth Caerffili y Senedd ddydd Iau 23 Hydref 2025.
Yn rhinwedd ein swyddi fel swyddogion Llywodraeth Cymru, ein rôl ni yw parhau i gynorthwyo’r Gweinidogion wrth eu gwaith fel arfer, gan gofio’r un pryd fod angen osgoi gweithredu neu weithgarwch y dehonglir, neu y gellid dehongli, ei fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu sy’n debygol o gael effaith uniongyrchol ar yr is-etholiad yng Nghaerffili. Dylid bod yn arbennig o ofalus o ran cyhoeddiadau sy’n ymwneud â’r etholaeth hon.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol ar unwaith, hyd at y diwrnod pleidleisio ddydd Iau 23 Hydref 2025, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw. Yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, bydd craffu manwl ar ein gweithgarwch ni a gweithgarwch y Gweinidogion.
Yn unol â Chod y Gweinidogion, ni fydd Gweinidogion yn ymgymryd ag unrhyw ddigwyddiadau, nac yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau neu benderfyniadau, y gallai pobl eu dehongli fel rhai sy’n rhoi mantais i blaid wleidyddol neu’n rhoi mantais etholiadol mewn perthynas ag is-etholiad Caerffili. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu na fydd y Gweinidogion fel arfer yn ymgymryd ag unrhyw fusnes uchel ei broffil neu sensitif yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol yn etholaeth Caerffili.
Bydd gwaith y gweision sifil o ddydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, gall fod rhai meysydd lle cyfyngir ar ein gweithgarwch.
Yn ystod unrhyw gyfnod cyn-etholiadol, mae’n bwysig bod y cyhoedd yn hyderus nad yw adnoddau Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys amser a sylw’r gwasanaeth sifil, yn cael eu defnyddio i helpu unrhyw blaid wleidyddol benodol nac i gefnogi unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod ymgyrch is-etholiad.
Mae’n ofynnol i’r gwasanaeth sifil fod yn gwbl amhleidiol a diduedd yng nghyswllt etholiadau. Er mwyn helpu i sicrhau hyn, mae’r Prif Weinidog yn gwahodd Cabinet Llywodraeth Cymru i ymrwymo i ddilyn canllawiau i atal unrhyw achosion gwirioneddol, neu ymddangosiadol, o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion ymgyrchu neu weithgarwch a gynlluniwyd yn bennaf i ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Mae’r Ysgrifennydd Parhaol, gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, yn cytuno ar ganllawiau ategol i’r gwasanaeth sifil ar ymddygiad yn ystod cyfnod cyn-etholiadol.
Mae’r gweithgarwch hwn yn seiliedig ar y priod godau ymddygiad ar gyfer y Gweinidogion a’r gweision sifil, y cyfeirir atynt isod. Gweler y dolenni at Chod y Gweinidogion a Chod y Gwasanaeth Sifil.
Diben y nodyn hwn yw rhoi canllawiau cyffredinol ar yr effaith a gaiff yr ymgyrch etholiadol arnom ni fel gweision sifil. Bydd staff sy’n gweithio yng Nghomisiwn y Senedd yn cael canllawiau ar wahân, a fydd wedi’u llunio yng ngoleuni eu hamgylchiadau penodol hwy. Mae canllawiau ychwanegol wedi’u cynnwys ar gyfer staff yn y proffesiwn cyfathrebu a’r rheini sy’n rhan o weithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil ehangach. Bydd egwyddorion y canllawiau hyn yn cael eu cyfleu i gyrff y GIG yng Nghymru. Mae crynodeb o’r canllawiau ar gyfer Cyrff Hyd Braich Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus datganoledig eraill yng Nghymru wedi’i gynnwys ar ddiwedd y cyngor hwn. Dylai timau partneriaeth sicrhau eu bod yn trafod y canllawiau hynny â’u holl gyrff cyhoeddus.
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod yr ymgyrch. O dan y Cod hwnnw, rhaid inni lynu wrth ddwy egwyddor sylfaenol bob amser:
- bod yn wleidyddol ddiduedd, a chael ein gweld yn gweithredu felly gan eraill
- sicrhau na ddefnyddir adnoddau cyhoeddus at ddibenion gwleidyddiaeth plaid.
Cefnogi gweinidogion: Papurau briffio, cyflwyniadau ysgrifenedig a busnes arferol
Yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ni ddylid gofyn i Weinidogion wneud penderfyniadau uchel eu proffil neu sensitif mewn perthynas ag etholaeth Caerffili. Dylid gohirio penderfyniadau o’r fath tan ar ôl y diwrnod pleidleisio. Dylid parhau i ymdrin â materion arferol, nad ydynt yn rhai sensitif, neu faterion hynod frys.
Yn fwy cyffredinol, dylem barhau i roi cyngor a phapurau briffio i’r Gweinidogion, a bwrw ymlaen â’u gwaith fel arfer fel arall, gan gofio’r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn ein gwaith (gan gynnwys papurau briffio ac atebion i ohebiaeth) yn awgrymu ein bod yn cefnogi, neu’n gwrthwynebu, un neu ragor o’r pleidiau gwleidyddol, neu a allai beri i rywun feddwl hynny. Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am gyngor y Cyfarwyddwr Cyffredinol/ Cyfarwyddwr perthnasol.
Ni ddylem ymgymryd ag unrhyw waith (gan gynnwys cyhoeddiadau, cyfarfodydd neu ymgyrchoedd) sy’n debygol o ddenu sylw’r cyfryngau, a/neu sy’n wleidyddol sensitif neu’n uchel ei broffil mewn perthynas ag etholaeth Caerffili. Wrth gynllunio gweithgarwch o’r fath, dylid osgoi’r cyfnod cyn-etholiadol yn gyfan gwbl. Mae canllawiau ar wahân ar ymarferion ymgynghori i’w cael isod.
Ni ddylem gytuno ychwaith i wneud cyhoeddiadau ar y cyd ag Adrannau Llywodraeth y DU mewn perthynas ag etholaeth Caerffili. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i swyddogion Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, efallai na fydd swyddogion yn Whitehall wedi’u cyfyngu i’r un graddau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Beth bynnag, byddai gwneud cyhoeddiad ar y cyd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol bron yn sicr yn torri’r canllawiau hyn i Lywodraeth Cymru. Felly, os oes angen gwneud unrhyw fath o gyhoeddiad ar y cyd, dylid ei ohirio tan ar ôl yr etholiad. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylid ymgynghori â’r tîm cyfathrebu, yn unol â’r manylion cyswllt ym mharagraff 15.
3. Ymgynghori
Pan fydd Llywodraeth Cymru yn llunio polisïau, rhaglenni neu gynigion deddfwriaethol newydd a fydd yn effeithio ar etholaeth Caerffili yn unig, a’i bod yn ofynnol iddi ymgynghori arnynt, fel rheol ni ddylai’r ymgyngoriadau ddechrau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Gall ymgyngoriadau a fydd wedi dechrau cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau barhau, gyda chyfyngiadau priodol o ran cyhoeddusrwydd, ar yr amod nad yw’r ymgynghoriad yn uchel ei broffil nac yn sensitif ac nad yw’n cael effaith sylweddol ar etholaeth Caerffili.
Pan gynigir cynnal ymgynghoriad ar y cyd rhwng un o Adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, dylid gwneud pob ymdrech i osgoi bod unrhyw ymgynghoriad yn dechrau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol (neu’n parhau i mewn i’r cyfnod hwnnw, os bydd yn gynhennus ei natur neu’n uchel ei broffil). Pan fydd hyn yn anorfod oherwydd yr amserlen ddeddfwriaethol yn San Steffan, neu os oes perygl gwirioneddol y gallai Cymru gael ei heithrio o ddeddfwriaeth ac y gallai hynny fod yn andwyol i fudd y cyhoedd, dylai’r ymgynghoriad fynd rhagddo ond gan fod yn sensitif i’r ymgyrch etholiadol.
Pan fydd Adran Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar sail y DU, Prydain Fawr, neu “Lloegr a Chymru”, dylid tynnu eu sylw at y cyfnod cyn-etholiadol a gofyn iddynt fod yn sensitif i’r ymgyrch etholiadol.
4. Ceisiadau mynediad at wybodaeth, ac ymholiadau
Dylem barhau i ddarparu gwybodaeth gofnodedig mewn ymateb i ymholiadau gan bleidiau, ymgeiswyr ac eraill, yn unol â’r broses arferol.
Mae pob cais am wybodaeth gofnodedig yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer dylid ymateb iddynt o fewn 20 diwrnod gwaith. Dylid parhau i ymdrin â cheisiadau sy’n ceisio am ddatgelu gwybodaeth gofnodedig nad yw’n gyhoeddus yn unol â’r canllawiau Rhyddid Gwybodaeth. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, mae’n arbennig o bwysig bod staff yn cadw mewn cof y goblygiadau gwleidyddol wrth ymateb i geisiadau. Dylid trafod sut i ymdrin â cheisiadau sy’n debygol o fod ag iddynt oblygiadau gwleidyddol â’r Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr priodol.
Ni waeth a yw ymlyniad gwleidyddol y person sy’n gwneud y cais yn hysbys, dylid trin pob cais am wybodaeth gofnodedig yn gyfartal.
5. Gohebiaeth
Dylid ymdrin ag ymgeiswyr yn yr etholiad yn gyfartal. Mae hyn yn golygu y dylai Gweinidogion ymateb i lythyrau oddi wrth ymgeiswyr yn yr etholiad a ddaw i law yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Dim ond os bydd yr ymateb arfaethedig yn debygol o ddenu sylw’r cyfryngau lleol, heblaw am drwy gyfeiriadau dibwys neu arwynebol, neu os yw’n ymdrin â materion sy’n wleidyddol gynhennus y bydd angen darparu ymatebion dros dro. Yr ysgrifenyddion preifat fydd yn anfon ymatebion dros dro, a hynny ar gyngor swyddogion.
Heblaw am yr hyn a ddisgrifir uchod, mae’r canllawiau ynghylch pwy ddylai dderbyn gohebiaeth Weinidogol/TO yn parhau’n ddigyfnewid. Bydd yr Uned Ohebiaeth yn penderfynu ynghylch hynny yn y ffordd arferol.
6. Penodiadau cyhoeddus
Pan fo’n bosibl, dylid cwblhau’r broses penodiadau cyhoeddus (h.y. bydd y Gweinidog perthnasol o blith Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch penodi yn unol â’r broses cyflwyniadau ysgrifenedig arferol a’r penodiad yn cael ei gyhoeddi) cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau. Caiff prosesau penodi sydd eisoes yn mynd rhagddynt barhau, ond dylid cymryd gofal arbennig os yw’r broses yn arbennig o berthnasol i etholaeth Caerffili. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch proses benodi benodol, trafodwch â’r Uned Cyrff Cyhoeddus yn y lle cyntaf. Mae’r cyngor hwn yn berthnasol yn yr un modd i unrhyw geisiadau am estyniadau neu geisiadau am ailbenodi.
7. Gweithgarwch gwleidyddol gan staff
Dylai swyddogion ymgynefino â’r rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, gan ei bod yn ofynnol i’r mwyafrif o weision sifil ofyn am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol.
Os oes unrhyw un sy’n cael ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru am ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol neu weithgarwch ymgyrchu mewn cysylltiad â’r etholiad, gan gynnwys sefyll fel ymgeisydd, dylai geisio caniatâd yn ysgrifenedig yn gyntaf oddi wrth ei Bartner Busnes Adnoddau Dynol, gan wneud hynny drwy ei reolwr llinell.
Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd, cymhwysir y prawf sy’n ystyried a yw’r ymgeisydd yn gweithio mewn “maes sensitif”. Mae eglurhad llawn am hyn i’w gael yn y polisi ar weithgarwch gwleidyddol. Gall Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, gellid caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfodydd. Mae’r Uwch Wasanaeth Sifil, Bandiau Gweithredol (Graddau 6 a 7) a Swyddogion ar y Llwybr Carlam wedi’u heithrio rhag ymgymryd â gweithgarwch gwleidyddol cenedlaethol, sy’n cynnwys etholiadau’r Senedd.
Mae gan staff ar raddau diwydiannol a di-swyddfa ganiatâd cyffredinol i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol.
8. Defnyddio safleoedd ac adnoddau Llywodraeth Cymru
Ni ddylid byth ddefnyddio safleoedd nac adnoddau Llywodraeth Cymru at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylem ganiatáu i safleoedd Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion o’r fath mewn unrhyw amgylchiadau, na’u defnyddio ar gyfer arddangos posteri etholiadol. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu cyhoeddi i gyrff y GIG, Cyrff Hyd Braich Llywodraeth Cymru ac ati ar y defnydd a wneir o’u hystadau hwythau.
9. Grantiau a threfniadau caffael Llywodraeth Cymru
Grantiau
Dylech osgoi agor neu hysbysebu cynlluniau grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Dylai swyddogion osgoi agor neu hysbysebu unrhyw gynlluniau grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, a allai fod yn rhai sy’n wirioneddol ymwneud ag ardal etholaeth Caerffili neu y gellid barnu eu bod yn ymwneud â’r ardal, neu a fyddai’n cael eu dehongli, ac allai gael eu dehongli fel rhai sy’n gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid a/neu’n rhai sy’n cael effaith ar is-etholiad ardal yr etholaeth mewn unrhyw ffordd. Ar gyfer unrhyw gynlluniau grant o’r fath fel y disgrifir uchod, sy’n agored i geisiadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a’r sefydliadau yn cael eu hysbysu am y canlyniadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid ystyried gohirio agor y cynllun grant tan ar ôl is-etholiad Caerffili.
Dylid gwneud pob ymdrech i gyhoeddi llythyrau dyfarnu grant cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gwneud asesiad ynghylch a yw’r grant yn cael ei ystyried yn un uchel ei broffil a/neu sensitif mewn perthynas ag ardal etholaeth ac is-etholiad Caerffili. Os ystyrir bod grant yn uchel ei broffil a/neu sensitif, rhaid ceisio cyngor priodol (Cyfarwyddwr Cyffredinol/Cyfarwyddwr Adrannol/y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau) cyn cyhoeddi unrhyw lythyrau dyfarnu grant. Mewn achosion brys neu dyngedfennol, efallai y bydd yn bosibl cyhoeddi ar sail eithriad. Fodd bynnag, unwaith eto, rhaid gofyn am gyngor cyn cyhoeddi unrhyw lythyrau dyfarnu grant sy’n rhwymo mewn cyfraith.
Os na fernir bod y llythyrau dyfarnu grant yn rhai uchel eu proffil a/neu sensitif ac ystyrir eu bod yn fwy o grantiau “busnes fel arfer”, dylid ymdrechu o hyd i gyhoeddi’r llythyrau dyfarnu grant cyn, yn hytrach nag yn ystod, y cyfnod cyn-etholiadol.
Dylai swyddogion fod yn ymwybodol bod hefyd angen ystyried unrhyw lythyrau dyfarnu grant y mae angen eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ar sail eithriadol yn ofalus, er mwyn sicrhau bod y cyllid grant a roddir yn cyd-fynd â gweddill y canllawiau hyn.
Mae’r llythyr dyfarnu grant yn gytundeb sy’n rhwymo mewn cyfraith, a gall roi cyllid cyhoeddus mewn perygl os na fydd canllawiau a chyngor yn cael eu dilyn.
Wrth reswm, gall unrhyw waith cynllunio a datblygu cynlluniau grant newydd yn fewnol, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd y Panel Sicrwydd Grantiau, ddigwydd fel arfer.
Cysylltwch â Grantscentreofexcellence@llyw.cymru i gael rhagor o gyngor a chymorth ynglŷn â grantiau, neu os oes gan staff unrhyw amheuon ynghylch pa gamau i’w cymryd.
Gweithgarwch caffael yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol
Dylid trefnu’r amserlen ar gyfer gweithgarwch caffael sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â’r etholaeth berthnasol a / neu lle byddai mewnbwn yr Aelod perthnasol fel arfer yn cael ei geisio fel rhan o’r broses gaffael (‘gweithgarwch caffael perthnasol’) gan sicrhau nad yw contractau yn cael eu hysbysebu na’u dyfarnu yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Os bydd gweithgarwch caffael perthnasol wedi dechrau cyn y cyfnod cyn-etholiadol, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a bod y sefydliadau yn cael eu hysbysu am y canlyniadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Dylai swyddogion weithio gyda’r arweinydd caffael a fydd wedi’i neilltuo iddynt i bennu amserlenni realistig a chyraeddadwy.
Gweithgarwch Caffael dros £25,000 (ac eithrio TAW)
Dylai swyddogion osgoi hysbysebu unrhyw gyfleoedd contract neu ddyfarnu unrhyw gontractau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ar gyfer gweithgarwch caffael perthnasol sydd:
- yn uchel ei broffil ac yn debygol o ddenu sylw’r cyfryngau, a / neu
- yn creu ymrwymiadau sylweddol ar gyfer y tymor hir, a / neu
- yn wleidyddol sensitif.
Dylid gwneud asesiad i benderfynu a ddylid ystyried bod y gweithgarwch caffael perthnasol yn uchel ei broffil neu’n sensitif yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Dylid ceisio cyngor gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol a / neu’r Cyfarwyddwr perthnasol cyn dechrau ar unrhyw weithgarwch.
Gall unrhyw gynllunio mewnol ar gyfer gweithgarwch caffael nad yw’n gynhennus ei natur ddigwydd fel arfer.
Gweithgarwch Caffael o dan £24,999.99 (ac eithrio TAW)
Siaradwch â’ch Dirprwy Gyfarwyddwr cyn bwrw ymlaen ag unrhyw weithgarwch caffael perthnasol £24,999.99 ac islaw’r ffigur hwn.
Mae cyngor ar gaffael Ymchwil i’w gael yn y cyngor ehangach i Lywodraeth Cymru yn Atodiad B.
Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch beth i’w wneud, siaradwch â CPS/CPICT neu cysylltwch â CPSprocurementadvice@llyw.cymru.
10. Staff yn swyddfeydd preifat y gweinidogion
Dylai swyddogion yn Swyddfeydd Preifat y Gweinidogion barhau i gynorthwyo’r Gweinidogion gyda’u dyletswyddau swyddogol bob amser yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Efallai y bydd y Gweinidogion yn ymgymryd â gweithgarwch ymgyrchu ac, o ganlyniad, mae’n bosibl y bydd staff y Swyddfeydd Preifat yn dymuno trafod egwyddorion y canllawiau hyn â’u Gweinidogion cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol ffurfiol ddechrau, neu pan fydd yn briodol gwneud hynny.
Bydd y Gweinidogion, yn ôl yr arfer, yn destun telerau Cod y Gweinidogion, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw eu rolau Gweinidogol a’u rolau gwleidyddol ar wahân. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo’r Gweinidogion gyda’u dyletswyddau swyddogol bob amser. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mai swyddogion y Swyddfa Breifat, ac nid aelod o staff personol neu etholaeth y Gweinidog, sy’n mynd i bob digwyddiad swyddogol. Hefyd, os oes un ymgeisydd yn cael ei wahodd i ddigwyddiad Gweinidogol swyddogol, dylech sicrhau bod pob un o’r ymgeiswyr eraill yn cael yr un cyfle hefyd. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat ymgyfarwyddo â’r canllawiau ar ymdrin â gohebiaeth a Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon.
Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fyth mynd i ddigwyddiadau sy’n amlwg at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylent ychwaith ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu. Yn benodol, ni ddylent archebu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn safleoedd Llywodraeth Cymru nac yn unrhyw le arall, comisiynu areithiau neu bapurau briffio, na threfnu unrhyw fath arall o gymorth, ar gyfer digwyddiadau sy’n ymwneud â phlaid neu ddigwyddiadau ymgyrchu.
Dylid parhau i gofnodi digwyddiadau’r Gweinidogion sy’n ymwneud â phlaid neu ymgyrchu mewn perthynas â’r is-etholiad yn eu dyddiaduron swyddogol.
11. Cynghorwyr Arbennig
Bydd y Cynghorwyr Arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth i Weinidogion, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, yn unol â’r Cod.
Mae’r Cod yn nodi’r goblygiadau pan fydd Cynghorydd Arbennig yn ystyried ymgymryd ag unrhyw weithgarwch ymgyrchu cyhoeddus neu’n dymuno bod yn ymgeisydd mewn is-etholiad.
12. Staff cyfathrebu a staff sy’n ymgymryd â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil ehangach
Darllenwch y canllawiau penodol sydd ynghlwm wrth y canllawiau hyn. Mae’r canllawiau i staff yn y gyfarwyddiaeth gyfathrebu ynghlwm yn Atodiad A, ac mae’r canllawiau i staff sy’n ymgymryd â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil ehangach yn Atodiad B.
13. Staff ac Aelodau o Fyrddau Cyrff Hyd Braich Llywodraeth Cymru
Ceir egwyddor hirsefydlog bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus fod yn wleidyddol ddiduedd. Er bod Cyrff Hyd Braich – cyrff statudol, cwmnïau sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, deiliaid swyddi statudol a Chomisiynwyr – yn gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, maen nhw’n dal i fod yn sefydliadau’r Llywodraeth ac ni ddylent ymddangos fel pe baent yn dylanwadu neu’n ceisio dylanwadu ar ganlyniad unrhyw etholiad. Ni allant gael eu gweld yn ceisio cymeradwyaeth unrhyw bleidiau gwleidyddol ar unrhyw adeg. Dylai pob corff gyfeirio at ei God Ymddygiad ei hun ar gyfer sut y dylai staff ac aelodau o’r bwrdd ymddwyn yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Ni ddylid defnyddio adnoddau Corff Hyd Braich, gan gynnwys ei safleoedd a’i adeiladau, at ddibenion gwleidyddiaeth plaid ar unrhyw adeg. Ni ddylai aelodau o fyrddau neu staff cyrff cyhoeddus fynd i ddigwyddiadau pleidiau gwleidyddol mewn rhinwedd swyddogol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ffurfiol. Ni ddylai cyrff cyhoeddus ddechrau unrhyw ymgyrchoedd hysbysebu neu ymgynghori, na pharhau ag unrhyw ymgyrchoedd o’r fath, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Os, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd angen hysbysebu neu gyhoeddusrwydd yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i gyrff ofyn am gyngor gan eu tîm partneriaeth. Dylai cyrff bwyso a mesur hefyd a ellid ystyried bod cyhoeddusrwydd sy’n bodoli eisoes ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd neu unrhyw weithgarwch parhaus arall yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid. Dylai sicrhau ei fod yn cael gwared ar unrhyw ddeunyddiau cyhoeddusrwydd o’r fath neu yn eu newid tan ar ôl yr etholiad. Ni ddylid cyhoeddi unrhyw ymateb i unrhyw ymgynghoriad tan ar ôl yr etholiad.
Dylai staff sy’n dymuno sefyll mewn etholiad neu ymgyrchu dros blaid neu ymgeisydd gyfeirio at eu telerau ac amodau cyflogaeth.
Ni ddylai aelodau o fyrddau a benodir gan Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus yn ystod yr etholiad y gellid ystyried eu bod yn ffafrio un neu ragor o bleidiau, ac ni ddylent ychwaith geisio na derbyn cymeradwyaeth o gynlluniau neu weithgareddau’r corff gan unrhyw blaid neu ymgeisydd. Rhaid i aelodau o fyrddau ymwrthod ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol dadleuol, a rhaid iddynt fod yn wleidyddol ddiduedd a rhaid i eraill weld eu bod felly. Yr unig eithriad i hyn yw pan fydd aelod o fwrdd wedi’i benodi i’r corff oherwydd ei fod yn dal swydd etholedig, fel yn achos aelodau o awdurdodau lleol. Dim ond yn yr achos hwnnw y caniateir i’r aelodau hynny o’r bwrdd gymryd rôl gyhoeddus yn yr etholiad.
14. Penodiadau Gweinidogol i Fyrddau’r Cyrff Hyd Braich
Ar benodiadau gweinidogol i gyrff sy’n gysylltiedig ag etholaeth Caerffili, neu sy’n cael effaith uniongyrchol arni, yn unig y dylai hyn effeithio. Os ydych yn gwneud penodiad i gorff o’r fath cyn 23 Hydref, dylech siarad â’r Tîm Penodiadau Cyhoeddus am yr opsiynau sydd ar gael.
15. Enwau cyswllt
Dylech drafod unrhyw amheuon sydd gennych â’ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf. Gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, oddi wrth yr unigolion canlynol. Dylech anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy e-bost.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch:
- briffio Gweinidogion a materion tebyg – yr ysgrifennydd preifat perthnasol
- gohebiaeth weinidogol – yr Uned Ohebiaeth (drwy’r blwch post gohebiaeth)
- caniatáu i’r cyhoedd weld gwybodaeth – blwch post y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
- materion sy’n ymwneud â phenderfyniadau cyllido, costio polisïau pleidiau ac ati – Yr Adran Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
- ymddygiad personol staff (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sy’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac ati – eich Tîm Partner Busnes Adnoddau Dynol
- cyhoeddiadau, digwyddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd – Pennaeth Cyfathrebu Strategol neu Pennaeth Newyddion
- ymholiadau penodol gan staff sy’n ymgymryd â gwaith ystadegol neu arolygon – Pennaeth Ystadegau neu’r Prif Swyddog Ymchwil
- ymholiadau penodol gan staff ar gynnal ymchwil – Prif Swyddog Ymchwil
- ymholiadau penodol sy’n ymwneud â Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, Cynigion Cydsyniad Offerynnau Statudol neu ymholiadau am weithgarwch Llywodraeth y DU neu weithgarwch arfaethedig ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru – Is-adran y Cyfansoddiad a Chyfiawnder
- polisi a deddfwriaeth mewn perthynas â chynnal yr etholiad ei hun - Llywodraeth Leol a Chynllunio
- cyrff hyd braich a phenodiadau cyhoeddus – Yr Uned Cyrff Cyhoeddus
- swyddogion yn y swyddfeydd preifat – Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Os oes gennych unrhyw ymholiad arall sy’n ymwneud â’r canllawiau hyn, cysylltwch â Ysgrifenyddiaeth y Cabinet.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2025
Atodiad A: Canllawiau ar gyfathrebu i’r holl staff
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer yr holl staff sy’n ymwneud â chyfathrebu a marchnata, ac maen nhw’n ategu’r canllawiau cyffredinol i staff Llywodraeth Cymru. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol ar unwaith, hyd at y diwrnod pleidleisio, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.
Yn sgil cynnal yr is-etholiad yng Nghaerffili, rhaid cymryd gofal mawr wrth ymgymryd ag unrhyw weithgarwch cyfathrebu ar ran Llywodraeth Cymru a allai gael effaith uniongyrchol ar yr etholaeth hon cyn y diwrnod pleidleisio. Rhaid osgoi unrhyw ganfyddiad bod penderfyniadau neu gyhoeddiadau’r Llywodraeth yn cael eu gwneud gyda’r bwriad o ddylanwadu ar y ffordd y gallai pleidleisiau gael eu bwrw yn yr is-etholiad.
Gallai’r rhain gynnwys prosiect buddsoddi a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, neu fuddsoddiadau newydd mewn cynlluniau cyfalaf iechyd neu addysg o fewn ffiniau’r etholaeth, er enghraifft. Ni ddylid ychwaith ddefnyddio adnoddau cyfathrebu’r Llywodraeth i dynnu sylw at unrhyw brosiectau presennol o’r math hwn yn yr etholaeth cyn yr is-etholiad. Dylid ymateb i unrhyw ymchwiliad gan y cyfryngau sy’n ymwneud â’r etholaeth gan ddefnyddio llinellau briffio presennol er mwyn osgoi unrhyw berygl y gwelir bod gwybodaeth newydd yn cael ei datgelu yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Fodd bynnag, gan mai is-etholiad yw hwn yn hytrach nag etholiad llawn, dylai busnes y llywodraeth barhau yn ôl yr arfer. Mae hyn yn golygu bod modd gwneud cyhoeddiadau ym mhob un o feysydd polisi’r llywodraeth ar lefel Cymru gyfan neu ranbarthol heb unrhyw gyfyngiadau. Er hyn, ac fel y nodir uchod, os bydd astudiaethau achos neu ddeunyddiau eraill mwy penodol yn cael eu defnyddio, ni ddylent ymwneud yn uniongyrchol ag etholaeth Caerffili.
Fel yn achos pob cyfnod o sensitifrwydd gwleidyddol dwysach, os oes gan staff unrhyw amheuon ynghylch sut i ymdrin â chyhoeddiadau arfaethedig, rhaid eu cyfeirio at naill ai’r Pennaeth Newyddion neu’r Pennaeth Cyfathrebu Strategol am gyngor.
Y neges gyffredinol yw bod angen bod yn hynod ofalus, ac y dylech holi bob tro os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch yr hyn a ganiateir yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol drwy gysylltu â’r unigolion canlynol:
Pennaeth Newyddion 03000 258786
Pennaeth Cyfathrebu Strategol 03000 256839
Atodiad B: Canllawiau ar gyfer gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil yn y cyfnod cyn-etholiadol
Dyma ganllawiau i’r holl staff sy’n ymwneud â gweithgarwch ystadegol, arolygon ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys dadansoddwyr proffesiynol y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi (KAS) ac unrhyw staff eraill yn adrannau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â’r gweithgarwch hwn. Dylai’r cyrff sy’n bartneriaid inni ac eraill sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru hefyd gadw’r canllawiau hyn mewn cof. Maen nhw’n ategu’r Canllawiau i Staff Llywodraeth Cymru. Mae’r canllawiau yn cwmpasu’r cyfnod cyn-etholiadol, sy’n weithredol ar unwaith, tan y diwrnod pleidleisio ar 23 Hydref 2025, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.
Nid yw’r canllawiau yn ymdrin â phob posibilrwydd, ac os bydd unrhyw faterion eraill yn codi yn ystod yr ymgyrch, yn y lle cyntaf, dylech eu codi â’r Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a fydd yn rhoi arweiniad.
Egwyddorion
1. Ar gyfer ystadegau swyddogol, yn ôl yr arfer, sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009. Ar gyfer ymchwil, mae Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a’r protocol cyhoeddi yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
2. Peidiwch â chystadlu â phleidiau ac ymgeiswyr am sylw’r cyhoedd.
3. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid na chael eich defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid, na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle y bo’n ymddangos eich bod yn gwneud hynny.
Cyhoeddi ystadegau
4. Dylid cyhoeddi allbynnau ystadegol y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau’r cyfnod cyn-etholiadol. Peidiwch â chyhoeddi unrhyw allbynnau ystadegol ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt. Dylid osgoi gohirio cyhoeddi unrhyw allbynnau rheolaidd neu y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt, gan y gallai’r cymhelliad dros wneud hynny gael ei gwestiynu.
5. Os na ellir osgoi gohirio allbwn ystadegol, byddwch yn dryloyw am y rhesymau dros ohirio mewn unrhyw ohebiaeth gyhoeddus ac, os oes modd, dylech ddatgan pryd y mae’n debygol y bydd yr ystadegau gohiriedig yn cael eu cyhoeddi. Pan fo modd, dylid osgoi gohirio pan fydd hynny’n golygu bod ystadegau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y diwrnod pleidleisio yn lle cyn hynny.
6. Efallai y bydd rhai amgylchiadau eithriadol sy’n gofyn am gyhoeddi ystadegau ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt (er enghraifft, pan fydd ystadegyn heb ei gyhoeddi wedi’i ddefnyddio’n gyhoeddus). Dylid trafod hyn bob amser â’r Prif Ystadegydd.
7. Dylid parhau i gyhoeddi negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ymwneud â chyhoeddi allbynnau ystadegol drwy gyfrifon @ystadegaucymru a @statisticswales. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, dylid osgoi cynhyrchu ffeithluniau neu siartiau newydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi’u llunio na’u cyhoeddi yn flaenorol.
8. Cymerwch ofal mawr bob amser i fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol yn y modd y byddwch yn cyflwyno ac yn disgrifio ystadegau ac mewn cyfarfodydd briffio wyneb yn wyneb. Rhowch sylw arbennig i gyflwyno ystadegau sy’n gysylltiedig ag ardal Caerffili. Dylid osgoi cyflwyno dadansoddiad newydd sy’n canolbwyntio ar ardal Caerffili yn unig, neu ddadansoddiad newydd ar lefel awdurdod lleol a allai gael effaith ar yr is-etholiad.
9. Dylid osgoi blogiau ystadegol newydd yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol.
Cyhoeddi adroddiadau ymchwil
11. Yn gyffredinol, gellir parhau i gyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ar gyfer is-etholiad oni bai bod y cyhoeddiad yn ymwneud yn benodol ag ardal yr is-etholiad neu’n cynnwys gwybodaeth a ryddhawyd ar lefel awdurdod lleol a allai gael effaith ar yr is-etholiad. Yn yr achos hwn, dylid ei drafod â’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol i sicrhau nad oes unrhyw oblygiadau etholiadol neu wleidyddol i’r cyhoeddiad.
Caffael ymchwil
12. Yn gyffredinol, gall gweithgarwch caffael barhau fel arfer oni bai ei fod yn ymwneud yn benodol ag ymchwil ar ardal yr is-etholiad. Dylid gofyn am gyngor ar achosion unigol gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.
Ceisiadau am wybodaeth neu gyngor
13. Dylid ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ffeithiol yn unol â’r Canllawiau i Staff Llywodraeth Cymru.
14. Byddwch yn deg wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth ffeithiol gan ymgeiswyr – er enghraifft o ran manylder yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ac o ran prydlondeb eich ateb.
15. Dylech barhau i ymateb i geisiadau am arweiniad ffeithiol ar fethodoleg.
16. Cymerwch ofal mawr wrth ymdrin â cheisiadau am gyngor ar ddehongli neu ddadansoddi ystadegau, yn arbennig ceisiadau sy’n ymwneud â pholisïau neu addewidion maniffesto pleidiau. Peidiwch â chostio polisïau nac addewidion heb ymgynghori’n gyntaf ag Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.
17. Bydd cyhoeddi deunyddiau a gyhoeddwyd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth ystadegol bob pythefnos yn parhau drwy gydol y cyfnod cyn-etholiadol a dylech sicrhau bod y tîm cyhoeddiadau ystadegol (Stats.web) yn cael eu hysbysu am geisiadau o’r fath. Mae’n bwysig bod hyn yn cael ei wneud ar sail systematig sy’n osgoi’r canfyddiad o fod yn ddetholus.
Ceisiadau am ddeunyddiau cyhoeddedig
18. Gallwch ddarparu niferoedd bach o daflenni, papurau cefndir neu gyhoeddiadau am ddim a oedd ar gael cyn cyfnod yr etholiad, mewn ymateb i geisiadau amdanynt. Peidiwch â bodloni archebion mawr heb gymeradwyaeth y Prif Ystadegydd neu’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol, oherwydd mae’n bosibl mai’r bwriad yw eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.
Arolygon
19. Gallwch barhau i gynnal cyfrifiadau ac arolygon rheolaidd, parhaus ac sydd ar y gweill eisoes. Gall arolygon ad hoc sy’n rhan o gyfres ystadegol barhaus gael eu cynnal hefyd.
20. Gall arolygon ad hoc eraill fod yn ddadleuol neu fod yn gysylltiedig â mater sy’n ymwneud â’r etholiad. Pan fo hyn yn debygol, dylech ystyried eu gohirio neu eu canslo. Pe bai hyn yn anodd neu’n gostus, ceisiwch gyngor gan Dîm Cyngor Arolygon y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.
Ymchwil maes
21. Yn gyffredinol, gall gwaith maes sy’n gysylltiedig â phrosiect ymchwil barhau fel arfer, ond dylid trafod gwaith maes yn ardal yr is-etholiad â’r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a fyddai’n ystyried yr angen am sampl sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ardal yr is-etholiad ac effaith wleidyddol ac etholiadol yr astudiaeth.
Cyngor
22. Os oes gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â’r unigolion isod neu â’r enwau cyswllt yn y canllawiau cyffredinol ynghylch yr etholiad.
Enwau cyswllt yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Y Prif Ystadegydd
Y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol
Penaethiaid Polisi Ystadegau a Safonau
