Nod o’r ymchwil yw asesu profiad ac effaith MPA ar ddefnyddwyr gwasanaethau (yfwyr niweidiol, peryglus a dibynnol) a gwasanaethau ledled Cymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwil ar isafswm prisio ar gyfer alcohol
Mae’r adroddiad hwn, sy’n seiliedig ar ymchwil a gynhaliwyd ddwy flynedd ar ôl rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith, yn darparu asesiad interim pwysig o brofiad ac effeithiau cynnar MPA ar yr yfwyr hynny sydd:
- wedi’u targedu’n uniongyrchol gan y ddeddfwriaeth (h.y. yfwyr niweidiol a pheryglus)
- y grŵp poblogaeth mwyaf agored i niwed y mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, ond nad yn cael ei dargedu’n uniongyrchol (h.y. yfwyr sy’n gaeth ar incwm isel)
Casglodd yr ymchwil farn a safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau gan ddefnyddio cyfuniad o gyfweliadau ansoddol a holiaduron arolwg ar-lein.
Adroddiadau
Asesu profiadau ac effaith isafbris alcohol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau: canfyddiadau interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1019 KB
Asesu profiadau ac effaith isafbris alcohol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau: atodiadau (tystiolaeth ategol) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Asesu profiadau ac effaith isafbris alcohol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 335 KB
Cyswllt
Janine Hale
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.