Neidio i'r prif gynnwy
James Davies

Mae James Davies yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.

Mae James yn ddyn busnes profiadol ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori Gweinidogol Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Cafodd ei eni ym Mhenrhyn Gŵyr a graddiodd mewn Peirianneg Fecanyddol o Brifysgol Cymru, Abertawe. Ymunodd James â safle cydrannau Grŵp Rover yn Llanelli (CalsonicKansei erbyn hyn) yn 1989. Yn 2006, cafodd ei benodi’n Bennaeth CalsonicKansei Europe (plc). Yn 2011 cafodd ei benodi’n Swyddog Corfforedig cyntaf Calsonic Kansei Corporation heb fod yn enedigol o Japan, yn gweithio yn Ewrop a Japan. Ei rôl ddiwethaf oedd Uwch-ddirprwy Lywydd Busnes HE a Phennaeth Gwerthiannau Byd-eang (trosiant o $10bn) yn Japan.

Ym mis Ebrill 2017, daeth yn Gadeirydd Gweithredol Diwydiant Cymru, er mwyn Bod yn Llais Diwydiant i Lywodraeth Cymru. Diwydiant Cymru yw corff mantell Rhwydwaith Technolegau Meddalwedd ac Electronig Cymru, Fforwm Modurol Cymru ac AFW. Ac yntau’n Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae hefyd wedi bod yn aelod o gyrff cynghori Autocouncil, prifysgolion a Bwrdd SMMT. Mae James yn aelod o Fwrdd Cynghori Economaidd Gweinidogol Llywodraeth Cymru ac Is-grŵp yr Economi Sylfaenol.

Mae James hefyd yn Aelod o Fwrdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; Aelod o’r Bwrdd Strategaeth Economaidd, Bargen Ddinesig Bae Abertawe; Aelod o Dasglu Gweinidogol y Cymoedd ac Aelod o Grŵp Cynghori Strategaeth y Cymoedd Technoleg.