Neidio i'r prif gynnwy

Fe’i ganed ym Mhenrhyn Gŵyr a graddiodd o Brifysgol Abertawe (Peirianneg Fecanyddol). Bu James yn gweithio am 32 mlynedd yn CalsonicKansei (prif gyflenwr i’r diwydiant modurol) yn y DU, Ewrop a Japan, gan arwain ei Is-adran Rheoli Thermol ($2.5 biliwn).

Ym mis Ebrill 2017, daeth yn Brif Swyddog Gweithredol Diwydiant Cymru (Corff Hyd Braich i Lywodraeth Cymru), i ddod â llais y diwydiant Technoleg, Peirianneg a Gweithgynhyrchu i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn y DU sy'n cwmpasu pob sector. Mae Diwydiant Cymru hefyd yn gyfrifol am bedwar fforwm yn y sectorau diwydiannol : Technology Connected, fforwm Awyrofod Cymru, fforwm Modurol Cymru ac, yn ddiweddar, Diwydiant Sero Net Cymru sy’n gyfrifol am ddatgarboneiddio diwydiant.

Cafodd ei ailbenodi ar y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar gyfer yr Economi yng Nghymru ac mae hefyd wedi cwblhau tymhorau ar Dasglu'r Cymoedd a Chomisiwn Burns ar gyfer Trafnidiaeth.

Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gweithio ar adnewyddiad helaeth o’r Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu i ddatblygu strategaethau i gynorthwyo’r Economi Sylfaenol a’r sectorau Masnachadwy trwy grynhoi'r galw a datblygu gallu'r gadwyn gyflenwi leol i angori gweithgaredd, sgiliau a marchnad ar lefel gymunedol a rhanbarthol.

Mae’n Aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ers 2018, ac o’r Grwpiau Rhanbarthol – Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, y Cymoedd Technoleg a Phartneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae'n aelod o fwrdd Arloesedd Anadlol Cymru.