Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, wedi cyhoeddi penodiad 13 o uwch aelodau panel annibynnol. Mae'r unigolion hyn yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, a phobl LHDT+.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddant yn sicrhau bod y gwaith o recriwtio pobl i benodiadau cyhoeddus yn cael ei wneud mewn ffordd deg a thryloyw.

Gwnaed pob penodiad yn unol â Chod Llywodraethu'r Comisiynydd ar Benodiadau Cyhoeddus, ac ar sail teilyngdod.

Dyma'r Uwch Aelodau Panel Annibynnol:

  • Aaqil Ahmed
  • Moawia Bin-Sufyan
  • Pippa Britton
  • Lynne Hamilton
  • Arun Midha
  • Ruth Marks
  • Andrew Miller MBE
  • Tracy Myhill
  • Rosetta Plummer
  • Grace Quantock
  • Judi Rhys
  • Craig Stephenson
  • Alison Thorne