Llysgennad Japan yn ymuno â'r Prif Weinidog yng Nghastell Conwy i ganu anthem genedlaethol Cymru, i nodi diwedd blwyddyn Cymru a Japan.
Daeth blwyddyn o ddyfnhau cysylltiadau diwylliannol ac economaidd rhwng Cymru a Japan i ben yr wythnos hon wrth i Lysgennad Japan, Hiroshi Suzuki, ymuno â'r Prif Weinidog Eluned Morgan i berfformio anthem genedlaethol Cymru yng nghastell Conwy, i ddathlu'r berthynas rhwng Cymru a Japan. Dyma'r eildro i'r Llysgennad ymweld â Chymru eleni.
Yn 2019, Castell Conwy a Chastell Himeji yn Japan oedd y Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO cyntaf i gael eu gefeillio. Ers hynny, mae'r berthynas wedi mynd o nerth i nerth, gan gynnwys adnewyddu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng safleoedd treftadaeth y ddwy wlad.
Mae Blwyddyn Cymru a Japan Llywodraeth Cymru wedi agor cyfleoedd allforio a bargeinion buddsoddi newydd i fusnesau Cymru ac wedi cyflwyno diwylliant Cymru i filoedd o bobl ledled Japan.
Yr wythnos ddiwethaf croesawodd Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru 11 o gwmnïau o Japan ar draws sectorau gan gynnwys ynni, gweithgynhyrchu uwch a MedTech. Mynychodd 23 o fusnesau o Gymru hefyd deithiau masnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru i Japan yn 2025.
Cafwyd cyfnewidiadau diwylliannol hefyd yn ystod y flwyddyn gyda dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Nghastell Himeji, a ddenodd fwy na 4,000 o ymwelwyr, tra denodd Diwrnod Cymru yn Expo Osaka 3,500 o ymwelwyr.
Derbyniodd un ar hugain o brosiectau diwylliannol £290,000 drwy Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig eleni i ddatblygu cydweithrediadau artistig newydd sy'n cysylltu'r ddwy genedl.
I gloi'r flwyddyn, cynhelir arddangosfa am ddim sy'n dathlu cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Japan yn Llysgenhadaeth Japan yn Llundain tan 16 Ionawr 2026.
Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru:
"Mae hon wedi bod yn flwyddyn anhygoel i Gymru a Japan. Mae'r cysylltiadau rydyn ni wedi'u meithrin trwy ddiwylliant, busnes ac addysg yn hynod ystyrlon a byddant yn parhau am genedlaethau i ddod.
"Mae sawl digwyddiad cofiadwy wedi'u cynnal eleni, ac yn enwedig dehongliad gwych y Llysgennad Suzuki o Hen Wlad Fy Nhadau, yn ogystal â chynrychiolaeth gref gan gwmnïau o Japan yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru yr wythnos ddiwethaf.
"Mae cynhesrwydd a brwdfrydedd pobl Japan tuag at Gymru wedi creu cryn argraff arnaf ac edrychaf ymlaen at weld ein cyfeillgarwch yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod."
Dywedodd Llysgennad Japan i Gymru, Horoshi Suzuki:
Mae "Cymru a Japan 2025" wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Hoffwn fynegi fy niolch enfawr i'r Prif Weinidog Eluned Morgan am ei harweiniad wrth gyflawni hyn.
"Gallaf gofio'n glir ei dehongliad gwych o Kimigayo yn y digwyddiad agoriadol. Cynhaliwyd cymaint o ddigwyddiadau dilynol yng Nghymru a Japan, gan greu cysylltiadau economaidd cryfach a chyflawni canlyniadau pendant.
"Mae 'Cymru a Japan 2025' wedi dyfnhau cysylltiadau diwylliannol ac wedi dod â phobl Cymru a Japan gymaint yn agosach. Mae gen i obeithion mawr y bydd ein cyfeillgarwch yn parhau i dyfu a ffynnu am flynyddoedd lawer i ddod."
