Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jayne yn gymrawd o'r Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr gyda bron i 30 mlynedd o brofiad fel gweithiwr proffesiynol ym maes cyllid.

Treuliodd 8 mlynedd fel archwilydd ac ymgynghorydd gyda Deloitte cyn symud ymlaen i nifer o rolau uwch yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.  Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau gweithredol ers dros ddeng mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyllid, risg, llywodraethiant, ac effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithredol.   

Ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd ac yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Cymwysterau Cymru (penodiad gweinidogol) ac mae'n aelod annibynnol o'r Pwyllgor Cyfalaf yng Nghyngor Celfyddydau Cymru.  Mae hi wedi gwasanaethu fel llywodraethwr a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg yng Ngholeg Sir Gâr ac fel aelod cyfetholedig o Bwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae Jayne yn rhugl yn y Gymraeg ac yn byw gyda’i theulu yng Nghaerfyrddin.