Neidio i'r prif gynnwy

Joseph Dooher yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau yn Awdurdod Cyllid Cymru.

Penodwyd Joseph Dooher yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn 2026, lle mae’n arwain swyddogaethau darparu gwasanaethau'r sefydliad ac yn gyfrifol am berfformiad, ansawdd a gwelliant parhaus y gwasanaethau i drethdalwyr a rhanddeiliaid.

Ynghyd â bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau, Joseph hefyd yw’r Uwch Swyddog Cyfrifol (SRO) ar gyfer y rhaglen Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol (VLNR), sy’n rhaglen drawsnewid bwysig i ACC. Mae'n goruchwylio datblygiad a gweithrediad gwasanaethau cenedlaethol newydd, gan sicrhau llywodraethiant, rheolaeth ariannol ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid effeithiol, a chefnogi eu trawsnewidiad yn ddarpariaeth gwasanaeth busnes fel arfer.

Cyn hyn bu Joseph yn Bennaeth Strategaeth a Pholisi ACC, lle bu’n arwain datblygiad strategaeth gorfforaethol a fframwaith polisi'r sefydliad. Cyn iddo ymuno ag uwch dîm arweinyddiaeth ACC, bu’n gweithio nifer o swyddi gweithrediadol a pholisi uwch ar draws Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Sifil ehangach.

Cafodd Joseph ei eni a'i fagu yng Nghasnewydd a'i addysgu yng Nghaerdydd. Mae bellach yn byw ger Abertawe gyda'i deulu.