Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Dr Andrew Goodall, wedi cyhoeddi heddiw fod Judith Paget wedi cael ei phenodi, ar sail barhaol, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Judith wedi bod yn gwneud y swydd ar sail dros dro ers mis Tachwedd 2021, ac wedi cael ei phenodi ar sail barhaol yn dilyn ymarfer recriwtio rhyngwladol trwyadl dan gadeiryddiaeth Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Sifil.

Wrth drafod cael ei phenodi i'r swydd, dywedodd Judith:

Mae'n fraint cael fy mhenodi i'r swydd bwysig hon, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidogion a sefydliadau GIG Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal o'r radd flaenaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae Judith wedi dangos rhagoriaeth wrth arwain a goruchwylio GIG Cymru yn ystod rhai o'i gyfnodau mwyaf anodd erioed. Hoffwn i ei llongyfarch ar gael ei phenodi, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau ein gwaith i sicrhau ein bod yn gallu ymfalchïo yn GIG Cymru.