Fframwaith Pontio Teg: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig (IIA) i ddangos effaith Fframwaith Pontio Teg 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni pontio teg tuag at sefyllfa o allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Mae'r fframwaith wedi'i anelu at y sawl sy'n cymryd camau i ddatgarboneiddio'r economi, sy'n cynnwys pob lefel o lywodraeth, busnesau, y trydydd sector, a chymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn annog y sawl sy'n gweithredu i ymgorffori'r fframwaith yn eu prosesau presennol ar gyfer datblygu polisïau a gwneud penderfyniadau er mwyn helpu i leihau anghydraddoldebau pellach a gwella canlyniadau i'r sawl yr effeithir arnynt fwyaf gan y cyfnod pontio. Mae'r fframwaith yn disgrifio tair colofn sy'n llywio sut y dylid datblygu polisïau a phrosiectau, a saith egwyddor ganllaw y dylid eu dilyn er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n deg i bobl a'r blaned. Mae tair colofn a saith egwyddor ganllaw’r fframwaith wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn llywio datblygwyr polisïau a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i feddwl am yr effeithiau hirdymor a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â pholisïau a chynlluniau datgarboneiddio.
Hirdymor
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei huchelgais i gyrraedd, ac wedi deddfu i gyrraedd, targed o allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Bydd effeithiau newid hinsawdd a datgarboneiddio yn effeithio ar wahanol sectorau, sefydliadau, cymunedau ac unigolion mewn gwahanol ffyrdd.
Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn ceisio hyrwyddo cynllunio ar gyfer pontio i sero net mewn ffordd sy'n atal creu anghydraddoldebau newydd, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau presennol pan fo modd. Wrth wneud hynny, mae'n canolbwyntio ar yr angen i ddatblygu dealltwriaeth o effeithiau a chyfleoedd y broses bontio, ymgorffori hyn i brosesau gwneud penderfyniadau, a chynnwys y sawl yr effeithir arnynt. Bydd hyn yn ein caniatáu i ddatblygu'r mesurau priodol er mwyn lleihau allyriadau mewn ffordd sy'n ystyried yn ymwybodol yr effeithiau a'r cyfleoedd tebygol.
Atal
Nod y fframwaith yw meithrin cysondeb ar draws y llywodraeth, sefydliadau a chymunedau wrth nodi'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio. Mae’r broses o gynllunio ar gyfer y cyfnod pontio yn cael ei llywio gan egwyddorion sy'n cyd-fynd â nodau llesiant cenedlaethol Cymru ac arferion gorau rhyngwladol [wcpp.org.uk/] er mwyn atal tlodi rhag gwaethygu ac unrhyw effeithiau negyddol ar fusnesau a swyddi, iechyd a'r amgylchedd, gan gynnwys bioamrywiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Trwy wella'r broses o wneud penderfyniadau, mae atal wrth wraidd y dull hwn. Pan fo'n bosibl a lle cânt eu nodi, bydd yr egwyddorion canllaw hefyd yn ein cynorthwyo wrth nodi lle mae anghydraddoldebau presennol yn bodoli a lle gellir mynd i'r afael â hwy trwy gamau datgarboneiddio, gan achub ar gyfleoedd yn y dyfodol i wella llesiant a ffyniant cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Integreiddio
Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn cysylltu ac yn ychwanegu gwerth at ystod o bolisïau, gan helpu i sicrhau bod unrhyw fuddion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yn cael eu cynyddu i'r eithaf a bod unrhyw effeithiau negyddol tebygol yn cael eu nodi. Mae'r fframwaith wedi nodi effeithiau ar draws sectorau ar gymunedau, busnesau ac unigolion, ac mae'n cynnwys tair colofn, sydd oll yn amlygu dull croestoriadol:
- Dadansoddi effeithiau a chyfleoedd – ystyried effeithiau a chyfleoedd posibl, a sut y gellir eu cydlynu ar draws sectorau i wneud y mwyaf o gyfleoedd a lleihau effeithiau negyddol.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid a chydgysylltu ymateb ar y cyd – cydnabod bod angen dull amlsector ac ymateb ar y cyd os ydym am wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer cyfnod pontio teg.
- Integreiddio’r cyfnod pontio teg yn ein prosesau gwneud penderfyniadau – mae’n darparu canllawiau cyffredinol ledled Cymru, felly mae pob polisi’n ystyried eu heffeithiau a’u cyfleoedd, ac mae’r rhain wedi’u hintegreiddio i’r broses gynllunio.
Mae'r fframwaith yn cefnogi’n uniongyrchol yr amcanion llesiant canlynol, sy'n rhan o'n Rhaglen Lywodraethu:
- Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt. Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
- Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio.
- Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd, a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
- Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
Cydweithredu
Er mwyn cryfhau ein dull o ymdrin â'r cyfnod pontio, fe wnaethom gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar ddiwedd 2022. Cawsom 115 o ymatebion gan amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys busnesau, y byd academaidd, sefydliadau’r trydydd sector, undebau llafur a grwpiau cymunedol i lywio ein dull gweithredu. Llywiodd y galwad am dystiolaeth y broses o ddatblygu ein dull gweithredu, sydd wedi'i nodi yn y fframwaith. Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad Just Fframwaith Pontio Teg rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2024, a chawsom 106 o ymatebion. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi llywio fersiwn derfynol y fframwaith.
Cyfranogiad
Yn ogystal â'r galwad am dystiolaeth, mae cydweithredu a chyfranogiad drwy Sgyrsiau am yr Hinsawdd wedi llywio’r broses o ddatblygu’r Fframwaith Pontio Teg. Mae Cronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd wedi galluogi sefydliadau i gynnal digwyddiadau gyda chymunedau lleol ledled Cymru. Rhwng 2022 a 2024, fe wnaeth y gronfa alluogi ymgysylltiad â’r gyhoedd drwy 116 o ddigwyddiadau, ac roedd adborth trylwyr, a seiliwyd ar farn y cyhoedd, wedi’i ymgorffori yn ein polisïau.
Fe wnaethom weithio ar y cyd er mwyn sicrhau bod trafodaethau ynghylch tegwch wedi'u cynnwys yn agenda Wythnos Hinsawdd Cymru 2025. Roedd hyn yn cynnwys trafodaeth benodol ynghylch proses pontio teg, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Is-grŵp Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar Newid Hinsawdd, TUC Cymru, yr elusen National Energy Action Cymru, a Sefydliad Bevan, gan gwmpasu meysydd ymgysylltu â’r gymuned, polisïau trafnidiaeth, gwaith teg, a thlodi tanwydd. Roedd y trafodaethau hyn wedi canolbwyntio sylw ar ystyriaethau ynghylch pontio teg, a bydd yr adborth a ddarparwyd yn helpu i lywio gwaith o weithredu’r fframwaith yn y dyfodol.
Effaith
Mae'r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig wedi'u hamlinellu isod.
O blaid
- Mae’r Fframwaith Pontio Teg yn hyrwyddo proses fwy gwybodus o wneud penderfyniadau o ran polisïau sy'n ymwneud â'r hinsawdd. Mae'n rhoi canllawiau ac arweiniad i’r sawl sy’n llunio ac yn gweithredu polisïau i alluogi mesurau sy’n lliniaru yn erbyn yr amgylchiadau annisgwyl sydd ynghlwm wrth y broes o ddatgarboneiddio, gan hyrwyddo newid economaidd mwy cynlluniedig, teg a threfnus.
- Gellir defnyddio'r fframwaith fel offeryn ymarferol i ymgorffori ein deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o fewn polisïau hinsawdd.
Yn erbyn
- Gellid ystyried y fframwaith fel haen ychwanegol o fiwrocratiaeth, gan arafu'r broses o wneud penderfyniadau cychwynnol. Er mwyn osgoi pwysau ychwanegol ar adnoddau ac amser, mae'r fframwaith wedi'i gynllunio i ymgorffori’r broses o bontio teg o fewn prosesau sy’n bodoli eisoes, ac yn mapio i'r nodau llesiant sydd yn aml eisoes wedi'u hymgorffori mewn cynlluniau.
- Gall fod yn anodd diffinio sut olwg fydd ar ‘broses pontio teg lwyddiannus’. Mae mesur pontio teg yn gofyn am ystod eang o ddata a’r gallu i’w cyrchu, ynghyd â mecanweithiau i olrhain cynnydd mewn gwahanol gyd-destunau, a all fod yn anodd ac yn golygu bod yn rhaid i dimau ddefnyddio llawer o adnoddau i’w ymgorffori yn eu prosesau.
Fodd bynnag, awgrymodd ymchwil a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn sylfaen gadarn i adeiladu fframwaith arni, a bod angen egwyddorion canllaw wedi'u teilwra i helpu Cymru i ddatblygu ei chynlluniau datgarboneiddio. Mae'r fframwaith yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i ategu’r broses o ddatblygu polisïau a chynlluniau sy'n cyfrannu at ddatgarboneiddio'r economi. Cynhaliwyd ymarferion ymgysylltu pellach, a chafwyd cefnogaeth, gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a swyddogion o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Mae ein proses o ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol, ac mae’r timau wedi croesawu’r ystyriaethau ynghylch pontio teg. Byddwn yn parhau i weithio gyda meysydd polisi i brofi a gwella defnyddioldeb y fframwaith, gan ddefnyddio'r adborth hwn i gynllunio ein gwaith gweithredu yn y dyfodol.
Costau ac arbedion
Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol i weithredu'r fframwaith. Mae’n disgwyl i unrhyw gostau ychwanegol o’i weithredu fod yn fach iawn a byddant yn cael eu nodi a’u rheoli fel rhan o bob polisi neu benderfyniad unigol. Byddai defnyddwyr allanol y fframwaith yn gyfrifol am unrhyw gostau a ysgwyddir wrth ei ddefnyddio. Bydd swyddogion yn Is-adran Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn arwain ar y gwaith o ymgorffori'r fframwaith o fewn y llywodraeth, a byddant yn cefnogi rhanddeiliaid allanol i’w ddefnyddio. Bydd swyddogion yn darparu cymorth ac adnoddau i swyddogion eraill a rhanddeiliaid allanol i'w galluogi i gymryd camau gweithredu'n annibynnol.
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant
1. Amcanion polisi
Y penderfyniad sy'n cael ei asesu yw cyhoeddi a gweithredu Fframwaith Pontio Teg i Gymru. Yn Cymru Sero Net (2021), ailddatganodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i sicrhau pontio teg oddi wrth economi tanwyddau ffosil y gorffennol tuag at ddyfodol newydd carbon isel. Bydd cyflawni proses pontio teg yn golygu na fyddwn yn gadael neb ar ôl wrth i ni symud i Gymru lanach a mwy ffyniannus. Byddwn yn datblygu dealltwriaeth glir o effeithiau’r newid, pa un a fyddant yn gadarnhaol neu’n negyddol, ynghyd â dealltwriaeth glir o sut gellir sicrhau y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu dosbarthu’n deg mewn cymdeithas. Bydd y daith i sero net yn effeithio ar blant a phobl ifanc, a thrwy gysylltu'r fframwaith â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym yn cryfhau'r ystyriaethau o effeithiau ar genedlaethau'r dyfodol. Yn benodol, mae set o dair colofn yn llywio sut y dylid cynllunio ar gyfer y broses o ddatgarboneiddio mewn ffordd sy'n dadansoddi effeithiau a chyfleoedd ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl, yn cynnwys y bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan benderfyniadau, ac yn ymgorffori'r ffordd hon o feddwl mewn strwythurau gwneud penderfyniadau. Yn ehangach, gall pontio teg fod o fudd i ganlyniadau iechyd, cefnogi sefydlogrwydd teuluoedd yn ystod newid economaidd, a chreu cymunedau cryfach a mwy cyfartal â chyfleoedd hirdymor gwell. Trwy fuddsoddi mewn diwydiannau newydd a sicrhau nad yw rhanbarthau bregus yn cael eu gadael ar ôl, dylai cyfnod pontio teg helpu i sicrhau bod gan blant fynediad gwell at swyddi ac amgylchedd sefydlog wrth iddynt dyfu i fyny.
2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Canfu tystiolaeth o arolwg YouGov yn 2023 fod plant a phobl ifanc yn bryderus iawn ynghylch newid hinsawdd:dywedodd 78% eu bod yn bryderus, a dywedodd 27% eu bod yn bryderus iawn. Mae'r fframwaith yn annog y sawl yr effeithir arnynt fwyaf gan benderfyniadau ynghylch datgarboneiddio i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r fframwaith hefyd yn cyd-fynd â strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd Llywodraeth Cymru, sy'n ymrwymo i flaenoriaethu sgyrsiau am newid hinsawdd o blith y sawl na chlywir eu lleisiau’n aml, gan gynnwys pobl ifanc.
Yn ogystal â'r effeithiau ar iechyd meddwl, mae newid hinsawdd yn cael effeithiau uniongyrchol ar iechyd corfforol plant. Mae Newid Hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (2023) [ICCCGSIB.CO.UK] yn cadarnhau bod plant ymhlith un o'r grwpiau o bobl sy'n debygol o brofi effeithiau negyddol newid hinsawdd yn anghymesur. Ymhlith yr effeithiau hyn yw bod yn fwy sensitif i wres eithafol sy'n gysylltiedig â thymheredd cynyddol, a salwch o ganlyniad i ddigwyddiadau llifogydd.
Ffactor pwysig arall sy'n gysylltiedig â pholisïau datgarboneiddio yw tlodi, ac mae ymchwil [COMPLANTCYMRU.ORG.UK] yn dangos bod bron i un plentyn o bob tri yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mae'r effeithiau hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gartrefi mewn cyflwr gwael, sy'n arwain at gynnydd mewn llwydni a lleithder, gwasanaethau trafnidiaeth anfforddiadwy y mae’n anodd cael mynediad atynt, sy'n golygu bod unigolion yn methu addysg ac apwyntiadau meddygol, a phroblemau sy'n gysylltiedig â chostau byw fel maethiad gwael.
Rydym yn gobeithio, drwy weithredu'r fframwaith, y bydd yr effeithiau negyddol hyn yn gwella dros amser. Rydym yn gobeithio cyflawni hyn drwy sicrhau bod effeithiau penodol polisïau sero net ar blant a phobl ifanc yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd i’w lliniaru.
Nid ystyried effeithiau polisïau neu gamau gweithredu ynghylch datgarboneiddio ar blant yw diben yr Asesiad Effaith Integredig hwn, oherwydd bydd angen asesiadau o’r fath ar gyfer polisïau datgarboneiddio penodol. Mae'r Asesiad Effaith Integredig hwn yn edrych ar effaith y fframwaith ar sicrhau bod anghenion plant yn cael eu hystyried a'u deall yn effeithiol fel rhan o bolisi datgarboneiddio ac wrth ddatblygu camau gweithredu.
Mae'r Fframwaith Pontio Teg wedi'i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn unol â'r Ddeddf, mae'r fframwaith yn annog y sawl sy'n cymryd camau gweithredu ar yr hinsawdd i gynnwys pobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau fel y gallant ddylanwadu ar y broses o bontio i ddyfodol teg a sero net. Bydd pontio teg yn golygu ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb, hawliau plant a hawliau dynol yn weithredol ac yn atal anghydraddoldebau newydd rhag codi.
Tynnodd canlyniadau’r galwad am dystiolaeth sylw at y bwlch yn y dystiolaeth a ddarparwyd gan blant a phobl ifanc. I helpu i fynd i'r afael â hyn, fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiadau 'Sgyrsiau am yr Hinsawdd' yn 2023 a oedd yn canolbwyntio ar y thema tegwch, ac a helpodd i lywio datblygiad y fframwaith. Yn y 46 digwyddiad, roedd 2,757 o unigolion wedi cymryd rhan, ac roedd 42.9% ohonynt o dan 18 oed. Roedd y digwyddiadau hyn o wahanol feintiau, yn cael eu cynnal yn bennaf gan gymunedau, ac yn cynnig cipolwg pellach ar sut i gyflawni pontio teg i sero net yng Nghymru. Yn gyffredinol, roedd pobl ifanc yn gefnogol i weithredu ar yr hinsawdd, yn enwedig o ran gwella fforddiadwyedd systemau trafnidiaeth gyhoeddus a mynediad iddynt, cael mynediad i fannau gwyrdd, ac ehangu'r ddarpariaeth o ynni adnewyddadwy. Fodd bynnag, roedd teimlad o ddiffyg ymddiriedaeth tuag at y llywodraeth a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau yn amlwg, ac roedd cyfranogwyr mewn un digwyddiad yn galw am allu cymryd mwy o ran trwy fyrddau cynghori ieuenctid, dadleuon, ac actifiaeth mewn ysgolion.
3. Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith
Bydd y Fframwaith Pontio Teg yn llunio polisïau eraill sy'n ymwneud â'r hinsawdd, felly nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae'r fframwaith yn annog y sawl sy'n cymryd camau gweithredu ar newid hinsawdd i ystyried yr effeithiau a'r cyfleoedd i'r rheini yr effeithir arnynt fwyaf gan y penderfyniadau a wneir, gan gynnwys y grwpiau hynny o bobl yn y broses o ddatblygu polisïau, ac i integreiddio'r ystyriaethau hyn i strwythurau gwneud penderfyniadau. Rydym yn gobeithio, drwy annog y ffyrdd hyn o weithio, y bydd canlyniadau hirdymor i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn gadarnhaol.
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol
Erthygl 2 (dim gwahaniaethu)
Mae'r fframwaith yn galw'n uniongyrchol am gydraddoldeb canlyniadau, gan gynnwys yr egwyddor ganllaw: Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau a rhannu'r costau a’r buddion yn deg.
Erthygl 6 (bywyd, goroesiad a datblygiad)
Mae'r fframwaith yn annog polisïau hinsawdd i wella iechyd a llesiant fel rhan o'r egwyddorion canllaw ac yn gofyn bod dadansoddi yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau sy'n atal anghydraddoldebau pellach ac yn ysgogi dyfodol mwy cadarnhaol i Gymru.
Erthygl 12 (parch at farn y plentyn)
Un o dair colofn y fframwaith yw ysgogi rhanddeiliaid ac mae'n tynnu sylw at ba mor bwysig yw mewnbwn a chyfranogiad gan bawb y mae'r polisïau penodol yn effeithio arnynt.
Mae hyn yn cael ei gryfhau yng nghanllawiau’r fframwaith, lle rhoddir pwyslais ar leisiau plant fel y dinasyddion a fydd yn byw gyda gwaddol y penderfyniadau a wneir heddiw.
Erthygl 13 (rhyddid mynegiant)
Yn yr un modd ag Erthygl 12, pwysleisir bod y sawl yr effeithir arnynt fwyaf, yn enwedig plant, yn cael eu cynnwys, drwy osod y golofn cyfranogiad wrth wraidd y fframwaith. Caiff hyn ei ategu ymhellach drwy gysylltiadau â strategaethau ymgysylltu Llywodraeth Cymru.
Erthygl 23 (plant anabl)
Mae croestoriadedd yn cael ei ysgogi drwy'r golofn Dadansoddi effeithiau a chyfleoedd, ac yn yr egwyddor ganllaw Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau a rhannu'r costau a'r buddion yn deg. Fe'i cryfheir ymhellach yn y canllawiau gyda chyfeiriadau penodol at bobl anabl.
Erthygl 24 (iechyd a gwasanaethau iechyd)
Mae egwyddor ganllaw’r fframwaithGwella iechyd a llesiant drwy weithredu ar newid hinsawdd yn sicrhau bod unrhyw oblygiadau iechyd o ganlyniad i weithredu ar newid hinsawdd yn cael eu hystyried.
Erthygl 27 (safon byw ddigonol)
Un o’r prif ganlyniadau a fwriadwyd o weithredu'r fframwaith yw gwelliant o ran safon byw pobl Cymru. Mae lleihau anghydraddoldebau a darparu cyfleoedd yn thema drwy gydol colofnau ac egwyddorion y fframwaith.
Erthygl 29 (nodau addysg)
Mae egwyddor ganllaw’r fframwaith Buddsoddi mewn addysg, sgiliau ac economi carbon isel yn cyfeirio'n uniongyrchol at anghenion addysg ein heconomi yn y dyfodol.
Erthygl 31 (hamdden, chwarae a diwylliant)
Nod y fframwaith yw gwella hyn drwy hyrwyddo ystyriaethau ehangach o bolisïau datgarboneiddio, gan gynnwys drwy'r egwyddorion canllaw canlynol:
- Gwella iechyd a llesiant drwy weithredu ar newid hinsawdd
- Addasu i newid hinsawdd a gwella'r amgylchedd naturiol
- Cefnogi a gwella diwylliant Cymru a'r Gymraeg
Erthygl 42 (gwybodaeth am hawliau)
Rydym yn gofyn yn weithredol i ddatblygwyr polisïau fod yn ymwybodol o hawliau plant drwy'r egwyddor ganllaw: Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau.
4. Rhoi cyngor i’r Gweinidog a’i benderfyniad
Roedd y cyngor i’r Gweinidog yn adlewyrchu natur a chynnwys y fframwaith yn llawn ac yn tynnu sylw at ei aliniad agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
5. Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc
Byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith ac yn parhau i ymgysylltu â'n rhanddeiliaid, gan gynnwys plant, drwy gydol y cam nesaf o’r broses weithredu. Byddwn yn gwneud hyn drwy gymryd rhan barhaus yn y broses o gynllunio ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru, a thrwy gyfrannu at ddigwyddiadau sgyrsiau am yr hinsawdd [GWEITHREDUARHINSAWDD.LLYW.CYMRU] cysylltiedig pan fo modd. Byddwn yn datblygu adnoddau cyfathrebu ychwanegol i helpu i gyfathrebu â phobl ifanc a phlant, megis datblygu dogfen esboniadol fer a chryno i rannu prif syniadau'r fframwaith – dogfen ‘hanfodion’ – ac astudiaethau achos ymarferol.
6. Monitro ac adolygu
Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant hwn wedi ystyried effeithiau posibl a all deillio o gamau datgarboneiddio ledled Cymru ar blant a phobl ifanc. Bydd polisïau unigol sydd â'r nod o ddatgarboneiddio'r economi yn ystyried eu heffeithiau eu hunain ac yn monitro eu hasesiadau yn eu tro.
Er mwyn olrhain cynnydd pontio teg, byddwn yn datblygu dull monitro lefel uchel i ddeall y cynnydd y mae Cymru yn ei wneud tuag at broses pontio teg. Bydd hyn yn cynnwys monitro a gwerthuso sawl ffynhonnell data meintiol ac ansoddol yn erbyn dangosyddion perthnasol a nodir.
Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
1. Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y'u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r Fframwaith Pontio Teg yn amlinellu dull Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni sero net erbyn 2050 mewn ffordd sy'n dosbarthu buddion a chostau mewn ffordd deg ar draws cymdeithas Cymru. Mae'r fframwaith wedi'i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, gan sicrhau bod gwaith datgarboneiddio a gwydnwch hinsawdd yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n osgoi creu neu waethygu anghydraddoldebau ac yn cefnogi dull systemau o ddeall risgiau a chyfleoedd a mynd i'r afael â hwy. Nid ystyried effeithiau polisïau neu gamau gweithredu ynghylch datgarboneiddio ar gydraddoldeb yw diben yr Asesiad Effaith Integredig hwn, oherwydd bydd angen asesiadau o’r fath ar gyfer polisïau datgarboneiddio penodol. Mae’r Asesiad Effaith Integredig hwn yn ystyried effaith y fframwaith ar sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried mewn modd effeithiol fel rhan o bolisi datgarboneiddio a’r broses o ddatblygu camau gweithredu.
Mae'r fframwaith yn ymgorffori cydraddoldeb fel egwyddor graidd, gan ei gwneud yn ofynnol bod yr effeithiau a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y broses o bontio i sefyllfa sero net yn cael eu dadansoddi ar gyfer gwahanol grwpiau cymdeithasol. Mae'n nodi egwyddorion canllaw i helpu i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn deg a bod dosbarthiad costau a buddion y cyfnod pontio yn cael ei ystyried. Mae'n galw am ddadansoddiad croestoriadol, gan gydnabod y gall pobl brofi anfanteision lluosog cronnus.
Yn absenoldeb proses gynllunio ar gyfer y cyfnod pontio, gallai effeithiau negyddol effeithio ar bobl mewn grwpiau gwarchodedig os na roddir mesurau lliniaru ar waith, neu efallai na fydd buddion yn cael eu dyrannu'n deg ar draws y gymdeithas. Dylid defnyddio'r Fframwaith Pontio Teg yn ystod y camau cynnar o ddatblygu polisïau neu gynigion. Mae hyn oherwydd ei fod yn chwarae rhan bwysig wrth ysgogi ystyriaethau o ganlyniadau a buddion anfwriadol i wahanol grwpiau o bobl. Mae angen nodi'r rhain yn gynnar fel y gellir eu lliniaru a chynllunio ar eu cyfer yn effeithiol. Dylid gwneud asesiad penodol gan ddefnyddio Asesiad Effaith Integredig.
Nod y fframwaith yw sicrhau bod cynllunwyr a llunwyr polisïau yn defnyddio tystiolaeth i nodi heriau a rhwystrau y gallai pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig eu hwynebu wrth inni fynd ati i ddatgarboneiddio Cymru. Bydd gofyn iddynt nodi'r rhwystrau y gallai'r bobl hyn eu hwynebu, a chymryd camau priodol i leihau, dileu a lliniaru'r rhwystrau hyn. Gwelsom gefnogaeth gadarnhaol i hyn yn yr ymatebion i'r galwad am dystiolaeth.
Ynghyd â nod llesiant cenedlaethol Cymru, ‘Cymru fwy cyfartal’, un o’r egwyddorion canllaw yn y fframwaith yw ‘hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau a rhannu’r costau a’r buddion yn deg’. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw un sy'n defnyddio'r Fframwaith Pontio Teg yn ystyried effeithiau canlynol eu polisïau:
- Y grwpiau o bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol gan y newid, a'r hyn y gellid ei wneud i liniaru'r effeithiau negyddol a chynyddu'r effeithiau cadarnhaol i’r eithaf.
- Sut mae eu polisïau’n mynd i'r afael â thlodi ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal.
- Sut mae effeithiau croestoriadol yn cael eu hystyried.
Bydd polisïau a chynigion unigol sydd wedi ystyried y Fframwaith Pontio Teg hefyd yn gyfrifol am rannu eu hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb mwy manwl a phenodol i ystyried effeithiau a chanlyniadau anfwriadol. Mae ‘dadansoddi effeithiau a chyfleoedd’ yn un o dair colofn y Fframwaith Pontio Teg hefyd, sy'n disgrifio ‘sut’ y gall llunwyr polisïau ystyried pontio teg, ac mae’n disgwyl i hyn gefnogi ystyriaeth ehangach o effeithiau.
Oherwydd natur y polisi hwn i alluogi a llywio, bydd angen i'r bobl sy'n defnyddio'r fframwaith nodi effeithiau perthnasol fesul polisi.
Blaenoriaeth uniongyrchol yn dilyn ei gyhoeddi yw datblygu strategaeth monitro a gwerthuso, er mwyn galluogi proses o fonitro'r fframwaith i wella canlyniadau, gwella meysydd gweithredu gwannach, a nodi cyfleoedd pellach ar gyfer ymgysylltu. Ein nod yw datblygu fframwaith monitro yn 2026.
Cofnod o effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
Mae egwyddorion canllaw’r fframwaith wedi'u cynllunio i ysgogi canlyniadau gwell i grwpiau bregus trwy sicrhau bod y sawl sy'n defnyddio'r fframwaith yn meddwl yn ehangach am eu polisïau. Mae hyn wedi'i ymgorffori drwy'r fframwaith cyfan, ond mae'n ffocws allweddol i un o'n hegwyddorion canllaw: Hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau a rhannu'r costau a’r buddion yn deg. Trwy ddarparu gyfresi o gwestiynau yn erbyn y colofnau a’r egwyddorion, rydym yn ysgogi ystyriaethau o dangynrychiolaeth a chroestoriadedd effeithiau, fel a ganlyn: A yw grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio neu heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynnwys yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau? a Sut y bydd dosbarthiad effeithiau a chyfleoedd y polisi yn cael ei ystyried trwy lens groestoriadol i atal anghydraddoldebau rhag gwaethygu?
Oherwydd natur y fframwaith – offeryn lefel uchel i gynorthwyo gydag ystyriaethau ehangach sy'n gysylltiedig â pholisïau a phenderfyniadau ynghylch datgarboneiddio – dim ond mewn ffordd ddangosol y cynhaliwyd yr asesiad penodol o effaith y fframwaith ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig. Ar gyfer pob grŵp, rydym wedi nodi enghraifft o bolisi neu gamau datgarboneiddio, a'u heffeithiau posibl.
Mae yna ystod eang o gamau datgarboneiddio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050. Bydd gofyn i'r holl gamau gweithredu a meysydd polisi hyn gwblhau Asesiad Effaith Integredig i asesu'r effeithiau ar yr holl grwpiau â nodweddion gwarchodedig a amlinellir isod.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig
Oedran (meddyliwch am wahanol grwpiau oedran)
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Plant yn byw mewn cartrefi oer
- Pobl hŷn yn byw mewn cartrefi oer
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Tynnodd sawl ymateb i'r galwad am dystiolaeth sylw at y cyfle i gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl. Mae'r ymateb yn nodi bod diffyg dulliau fforddiadwy o wresogi’r cartref yn gysylltiedig â nifer o risgiau iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae byw mewn cartrefi oer yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddod i gysylltiad â'r risgiau hyn – ac mae unigolion mewn sefyllfaoedd o'r fath saith gwaith yn fwy tebygol o wynebu heriau iechyd meddwl.
Awgrymodd y galwad am dystiolaeth fod pobl hŷn yn fwy tebygol o brofi tlodi tanwydd, oherwydd bod yn aml yn rhaid iddynt ddyrannu cyfran fwy o'u hincwm tuag at gostau tanwydd. Mae hyn yn golygu nad oes llawer o adnoddau ganddynt ar gyfer anghenion hanfodol eraill.
Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?
Mae egwyddorion canllaw’r Fframwaith Pontio Teg yn cynnwys y prif gwestiynau hyn y dylai’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau ofyn i'w hunain wrth ddatblygu polisïau: Sut fydd y newid, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn effeithio ar benderfynyddion ehangach iechyd a llesiant? Sut fydd y cyfnod pontio yn mynd i'r afael â thlodi ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal?
Trwy ofyn y cwestiynau hyn, gall y sawl sy’n llunio polisïau ystyried yn well y ffordd y mae mesurau datgarboneiddio yn effeithio ar wahanol grwpiau, gan ganiatáu i fuddion a chanlyniadau anfwriadol gael eu nodi a galluogi mynd i'r afael â hwy. Er bod gwresogi ac ynni yn bethau hollbwysig y mae’r sector yn canolbwyntio arnynt, bydd y fframwaith yn berthnasol i ystod ehangach o gamau datgarboneiddio, gan gynnwys gwelliannau mewn ansawdd aer, teithio llesol, cynhyrchu bwyd, mynediad i fannau gwyrdd, amaethyddiaeth, rheoli gwastraff, a datblygu sgiliau. Bydd gan bob un o'r meysydd hyn effeithiau penodol ar bob grŵp o bobl, a bydd Asesiadau Effaith Integredig ar gyfer meysydd polisi penodol yn mynd i'r afael â hyn mewn ffordd gynhwysfawr.
Anabledd (ystyriwch y model cymdeithasol o anabledd a sut y gallai eich cynnig achosi’n anfwriadol, neu sut y gellid ei ddefnyddio’n rhagweithiol, i ddileu’r rhwystrau sy’n anablu pobl sydd â gwahanol fathau o amhariadau)
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Teithio llesol [ACTIVETRAVELSTUDIES.ORG]
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae teithio llesol yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a all wella nifer o agweddau ar iechyd, gan gynnwys iechyd cardiofasgwlaidd a llesiant meddyliol. Mae Wheels for Wellbeing yn dangos pa mor bwysig yw ystyried anghenion pobl anabl wrth lunio polisïau a deddfwriaeth ynghylch teithio llesol, er budd iechyd corfforol a meddyliol, ar gyfer agendâu amgylcheddol a chynaliadwyedd, ac i wella tagfeydd traffig.
Efallai na fydd teithio llesol yn hygyrch i bawb [CYCLINGUK.ORG] – yn enwedig y sawl sydd â symudedd cyfyngedig. Mae pobl anabl yn aml yn dibynnu mwy ar opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd yn aml ni allant yrru, cerdded na beicio.
Mae cyfle i’r sector teithio llesol wneud teithio’n haws i bobl ag anghenion symudedd penodol, gydag ymchwil yn dangos y gall trafnidiaeth gyhoeddus beri amrywiaeth o rwystrau [WHEELSFORWELLBEING.ORG.UK], a bod beicio yn ddull teithio a ffefrir gan rai unigolion, e.e. y sawl ag amhariad ar eu golwg nad ydynt bellach yn gallu cael trwydded yrru.
Mae ymchwil [BMJ.COM] yn dangos y gall aer glân a strydoedd mwy diogel fod o fudd i bobl anabl yn fwy, oherwydd y gallant yn aml fod yn fwy agored i broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â llygredd aer.
Os na cheisir lleisiau pobl anabl wrth lunio polisïau, gall cynlluniau teithio llesol flaenoriaethu anghenion defnyddwyr abl, a all atgyfnerthu anghydraddoldebau.
Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?
Mae'r fframwaith yn pwysleisio tegwch a chyfranogiad. Tynnir sylw at gyfiawnder gweithdrefnol, er mwyn hyrwyddo proses gyfranogol o wneud penderfyniadau.
Mae colofnau’r fframwaith yn annog ystyriaeth o’r canlynol: Sut gall y cyfnod pontio atal anghydraddoldebau pellach ac ysgogi dyfodol mwy cadarnhaol ar gyfer cymunedau Cymru? Sut ydym ni wedi sicrhau bod y cydweithrediad a'r cyfranogiad wedi bod yn gynhwysol, yn hygyrch, ac yn gynrychioliadol?
Mae'r egwyddorion canllaw yn annog ystyriaeth o’r canlynol: Sut fydd y newid yn cyfrannu at ymddygiadau a ffyrdd o fyw iach? Pa grwpiau o bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio'n gadarnhaol ac yn negyddol gan y newid a beth y gellid ei wneud i liniaru'r effeithiau negyddol? Sut fydd y cyfnod pontio yn cefnogi cymunedau diogel, deniadol a chysylltiedig?
Anogir asesiad llawn yn ôl meysydd polisi penodol drwy'r fframwaith, er mwyn sicrhau bod ystod eang o rwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn cael eu hystyried. Bydd angen i hyn gynnwys rhwystrau ffisegol, ymddygiadol a systemig a all godi o bolisïau datgarboneiddio, gan ganolbwyntio’n rhagweithiol ar gael gwared ar rwystrau a chreu cyfleoedd i wella canlyniadau i bobl anabl.
Ailbennu rhywedd (y broses o drawsnewid a phobl drawsryweddol)
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Anhysbys hyd yn hyn
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae bylchau yn y maes ystyriaeth hwn ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r bylchau hyn drwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a diweddaru'r asesiad effaith a'r fframwaith wrth i wybodaeth newydd a pherthnasol ddod ar gael. Fodd bynnag, dylai'r egwyddorion a'r colofnau gynnig awgrymiadau ystyrlon i ystyried ailbennu rhywedd.
Beichiogrwydd a mamolaeth
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Anhysbys hyd yn hyn
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae bylchau yn y maes ystyriaeth hwn ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r bylchau hyn drwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a diweddaru'r asesiad effaith a'r fframwaith wrth i wybodaeth newydd a pherthnasol ddod ar gael. Fodd bynnag, dylai'r egwyddorion a'r colofnau gynnig awgrymiadau ystyrlon i ystyried materion yn ymwneud â beichiogrwydd a mamolaeth.
Hil (gan gynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr, a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Cyfleoedd gweithle mewn diwydiannau gwyrdd
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â diwylliannau a normau yn y gweithle, yn ogystal â mynd i'r afael â chynrychiolaeth anghymesur menywod Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol mewn rolau â chyflog isel a chyflog ansicr yn y sectorau hyn.
Tynnodd The Race Report sylw at y ffaith bod y sector amgylchedd a chynaliadwyedd yn un o'r sectorau lleiaf amrywiol o ran hil yn y wlad. Tynnodd sylw at y ffaith bod 6-7% o rolau yn cael eu llenwi gan hunaniaethau nad ydynt yn wyn, o'i gymharu â phoblogaeth o 14-15% o hunaniaethau nad ydynt yn wyn yn y boblogaeth gyffredinol.
Mae ymchwil yn dangos [RACEEQUALITYFOUNDATION.ORG.UK] bod myfyrwyr o gymunedau ethnig leiafrifol yn dymuno swyddi sy'n helpu'r amgylchedd yn fwy na myfyrwyr Gwyn Prydeinig. Mae hyn yn gofyn am ymyriadau wedi'u targedu i sicrhau bod rhagor o gymunedau ethnig leiafrifol yn astudio pynciau STEM ac yn cael eu hamlygu i feysydd gwaith amgylcheddol.
Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?
Byddwn yn ymgysylltu'n eang wrth i ni weithredu'r fframwaith er mwyn sicrhau bod pob maes polisi yn gweithio’n weithredol i liniaru'r effeithiau ar grwpiau ethnig leiafrifol a chynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Mae egwyddorion canllaw’r fframwaith yn annog y sawl sy’n llunio polisïau i ystyried cymunedau ethnig leiafrifol drwy’r ystyriaethau canlynol: A yw'r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y newid ar gael? A oes cyfleoedd neu gymorth y gallwch eu darparu i helpu i ddiwallu anghenion y dyfodol? Sut caiff effeithiau croestoriadol (e.e. rhywedd ac ethnigrwydd) eu hystyried? Sut fydd y cyfnod pontio yn hyrwyddo cyfle cyfartal? A yw grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio neu sydd wedi’u tangynrychioli’n cael eu cynnwys yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau?
Mae colofnau’r fframwaith yn annog ystyriaeth o’r canlynol: Sut fydd dosbarthiad effeithiau a chyfleoedd y polisi yn cael ei ystyried drwy lens groestoriadol er mwyn sicrhau nad yw anghydraddoldeb yn gwaethygu? Pa fewnwelediadau allwn ni eu defnyddio i atal anghydraddoldebau yn y dyfodol, gan gynnwys gan y sawl sydd â phrofiadau bywyd ohonynt? Sut mae'r polisi'n ymgorffori penderfyniadau sy'n helpu i ddatgymalu'r rhwystrau systemig sy'n effeithio'n anghymesur ar wahanol grwpiau o bobl, e.e. cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol?
Crefydd, cred a diffyg cred
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Anhysbys hyd yn hyn
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae bylchau yn y maes ystyriaeth hwn ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r bylchau hyn drwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid fel Faith for the Climate.
Rydym wedi ymgysylltu’n weithredol â’r ymchwilwyr a ysgrifennodd Beyond The Tick-Box: meaningful inclusion of racialised communities in UK net zero policy i ystyried iaith a chyfathrebu yn ein fframwaith, ac ystyried y cymhellion diwylliannol a chrefyddol dros weithredu ar yr hinsawdd.
Rhyw/rhywedd
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Mynediad at swyddi a chyfleoedd a gwaith teg
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Yn ôl ymateb y galwad am dystiolaeth, nid yw cynnig hyfforddiant neu ailsgilio i fenywod neu grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio ar gyfer cyflogaeth sero net o reidrwydd yn mynd i'r afael â phroblemau dyfnach. Dangosodd eu tystiolaeth, pan fydd diwylliannau a strwythurau gweithleoedd yn parhau i adlewyrchu normau sy'n canolbwyntio ar ddynion, fod prosiectau gwyrdd mewn perygl o barhau anghydraddoldeb yn anfwriadol.
Cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)
Polisi neu gynnig enghreifftiol
Dim byd hyd yn hyn, ond ceisiwyd ymgysylltu â'r fframwaith
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae bylchau yn y maes ystyriaeth hwn ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r bylchau hyn drwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a diweddaru'r asesiad effaith a'r fframwaith wrth i wybodaeth newydd a pherthnasol ddod ar gael. Fodd bynnag, dylai'r egwyddorion a'r colofnau gynnig awgrymiadau ystyrlon i ystyried cyfeiriadedd rhywiol.
Priodas a phartneriaeth sifil
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Anhysbys hyd yn hyn
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Mae bylchau yn y maes ystyriaeth hwn ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r bylchau hyn drwy ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid a diweddaru'r asesiad effaith a'r fframwaith wrth i wybodaeth newydd a pherthnasol ddod ar gael. Fodd bynnag, dylai'r egwyddorion a'r colofnau gynnig awgrymiadau ystyrlon i ystyried priodas a phartneriaethau sifil.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Gweler yr asesiad effaith
Aelwydydd incwm isel
Polisi neu gynnig enghreifftiol
- Mae risg o golli swyddi, ac efallai na fydd costau’r mesurau datgarboneiddio a delir ymlaen llaw yn fforddiadwy i rai grwpiau, gan olygu y byddant yn wynebu costau teithio a gwresogi uwch o bosibl.
Effeithiau cadarnhaol a negyddol y cynnig
Gall rhai costau ynghlwm wrth y broses bontio ddisgyn yn anghymesur ar y grwpiau hynny sy’n ei chael yn fwy anodd eu hysgwyddo, e.e. gallai gosod pympiau gwres o'r aer / paneli solar wrth newid o ffynonellau gwres hŷn greu trafferthion ariannol ar aelwydydd ag incymau is.
Os na chaiff hyn ei liniaru, gallai waethygu caledi ariannol aelwydydd ag incymau is.
Sut y byddwch yn lliniaru'r effeithiau?
Trwy ymgorffori ein fframwaith ar draws sectorau, gallwn hyrwyddo ystyriaethau gweithredol o'r heriau sy'n wynebu aelwydydd ag incwm isel wrth lunio polisïau datgarboneiddio.
Mae'r ystyriaethau hyn yn cael eu hannog drwy'r Fframwaith Pontio Teg, yn enwedig drwy'r colofnau sy'n annog y sawl sy’n llunio polisïau i ystyried y canlynol: Sut gall y cyfnod pontio atal anghydraddoldebau pellach ac ysgogi dyfodol mwy cadarnhaol ar gyfer cymunedau, gweithlu, busnesau ac amgylchedd Cymru? Sut mae meddwl hirdymor wedi'i ymgorffori yn ein prosesau o wneud penderfyniadau? Sut fydd dosbarthiad effeithiau a chyfleoedd y polisi yn cael ei ystyried drwy lens groestoriadol er mwyn sicrhau nad yw anghydraddoldeb yn gwaethygu?
Mae ein hegwyddorion canllaw hefyd yn hyrwyddo meddwl teg a chyfiawn, drwy wneud y canlynol: Sut fydd y cyfnod pontio yn ategu’r broses o greu swyddi o ansawdd uchel sy'n ddiogel, â chyflog teg, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dilyniant a datblygiad? Sut fydd y cyfnod pontio yn mynd i'r afael â thlodi ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal, gan gynnwys ar gyfer pobl o gefndiroedd sydd wedi’u hymyleiddio?
Hawliau dynol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig
A fydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl yn eich barn chi?
Hawliau dynol
Erthygl 2 – Hawl i fywyd
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Nod y fframwaith yw amddiffyn bywyd drwy annog meysydd polisi i ystyried effeithiau’r newid i economi sero net ar dlodi tanwydd, iechyd y cyhoedd ac amgylcheddau iach.
Os na chaiff y broses o ddatgarboneiddio ei chynllunio a'i gweithredu mewn ffordd deg, gall rhai grwpiau wynebu risgiau iechyd cynyddol ac effeithiau negyddol ar eu llesiant cyffredinol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Mae'r fframwaith wedi'i gynllunio i leihau'r effeithiau negyddol y gallai datgarboneiddio eu cael ar fywyd ac iechyd. Mae wedi'i ategu gan ystyriaeth statudol ehangach Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Sut y byddwch yn lliniaru effeithiau negyddol?
Mae angen Asesiadau Effaith Integredig ar gyfer pob polisi, a bydd yr adran pontio teg ynddynt yn sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi a'u lliniaru, ac mae cymorth wedi’i dargedu’n cael ei datblygu ar gyfer meysydd polisi penodol.
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut y mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Mae datblygiad y Fframwaith Pontio Teg wedi'i ategu gan ymgysylltiad ac ymwneud helaeth â'r sawl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru alwad am dystiolaeth cynhwysfawr ac ymgynghoriad ffurfiol, ac roedd dros 200 o ymatebion wedi dod i law gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys busnesau, cyrff y sector cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, undebau llafur, grwpiau cymunedol, a chynrychiolwyr plant a phobl ifanc. Roedd yr ymarferion ymgysylltu wedi’i dargedu yn cynnwys digwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd, a ddenodd bron i 2,000 o gyfranogwyr o gefndiroedd amrywiol, ac yn cynnwys darparwyr addysg a sefydliadau ieuenctid. Roedd y digwyddiadau hyn yn sicrhau bod lleisiau o boblogaethau amrywiol Cymru yn cael eu clywed a'u hystyried. Cafodd y broses o ddatblygu’r fframwaith ei llywio ymhellach gan adborth gan arbenigwyr mewnol ac allanol, megis Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a thimau polisi Llywodraeth Cymru.
8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?
Effeithiau cadarnhaol
Nod y fframwaith yw mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a thegwch, creu buddion a chyfleoedd, a lliniaru effeithiau negyddol i'r sawl yr effeithir arnynt gan y broses o bontio i economi sero net. Felly, rhagwelir amrywiaeth o effeithiau cadarnhaol:
Cysondeb strategol o fewn Llywodraeth Cymru
Mae ymgorffori'r fframwaith yn galluogi cynllunio cyson, traws-sector sy'n ymgorffori ystyriaethau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r fframwaith yn darparu canllawiau ar ymgorffori tegwch a chyfiawnder o fewn proses polisïau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru.
Cydraddoldeb, tegwch a chynhwysiant
Mae'r fframwaith yn annog meysydd polisi i ystyried dosbarthiad cyfartal o gostau a chyfleoedd wrth bontio i economi sero net. Mae'n helpu i nodi a lliniaru anghydraddoldebau a gwella cyfleoedd ar gyfer cymunedau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol. Roedd hon yn thema gref drwy gydol ein proses o ymgysylltu ar y dull arfaethedig â chydweithwyr mewnol ac allanol, ac mae llawer o ymatebion yn pwysleisio'r angen i annog dealltwriaeth o sut mae anfanteision sy'n gorgyffwrdd yn llunio bregusrwydd i effeithiau pontio i wlad sero net.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Trwy annog prosesau ymgysylltu cynhwysol, mae'r fframwaith yn atgyfnerthu ymddiriedaeth ac yn gwella tryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'n tynnu sylw at yr angen i'r sawl yr effeithir arnynt fwyaf fod yn rhan o'r broses o ddatblygu polisïau o ddechrau'r broses.
Sylfaen ar gyfer canllawiau pellach
Mae'r fframwaith yn cefnogi gwaith yn y dyfodol i ymgorffori cyfnod pontio teg ar draws meysydd polisi a sectorau. Mae hyn yn cynnwys gwaith i gynnwys ystyriaethau pontio teg mewn asesiadau effaith, cynlluniau datgarboneiddio, ac ymarferion ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae hyn yn ategu amcan Llywodraeth Cymru i “ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn”.
Effeithiau negyddol
Er na ragwelir unrhyw effeithiau negyddol uniongyrchol o ganlyniad i gyhoeddiad y fframwaith, mae rhai risgiau'n gysylltiedig â chyhoeddi a sefydlu'r fframwaith.
Baich gweinyddol
Efallai y bydd rhai rhanddeiliaid, yn enwedig y sawl sydd eisoes ag adnoddau prin, yn ystyried bod ymgorffori'r fframwaith yn eu cynlluniau yn ymarfer ychwanegol sy'n cymryd llawer o amser. Gallai hyn effeithio ar gysondeb y ddarpariaeth yn erbyn ystyriaethau pontio teg, yn dibynnu ar adnoddau, gan olygu bod rhai sectorau neu feysydd polisi yn gwneud ystyriaethau mwy cadarn nag eraill. Roedd hon yn thema allweddol a nodwyd yn ein hymarferion ymgysylltu ar y fframwaith, yn enwedig ymhlith timau polisi mewnol a chynrychiolwyr y sector cyhoeddus, gyda galwad am wella capasiti a chanllawiau, a sicrhau bod cyllid ar gael.
Risg y caiff ei ddefnyddio mewn ffordd berfformiadol
Os nad oes mesurau ar waith i ddwyn sefydliadau i gyfrif o ran pontio teg, gellid mabwysiadu'r fframwaith a'i ystyried fel proses ‘ticio blychau’, heb ddarparu unrhyw fuddion i bobl yng Nghymru. Mae'r risg hon yn cael ei gwaethygu gan absenoldeb gweithdrefn fonitro gadarn ar waith adeg cyhoeddi'r fframwaith. Fodd bynnag, mae hwn yn ddatblygiad o flaenoriaeth yn dilyn ei gyhoeddiad. Mae risg gysylltiedig ychwanegol y bydd ymgorffori'r fframwaith yn canolbwyntio ar gydymffurfedd yn hytrach na chyflawni canlyniadau gwell, a allai arafu cynnydd tuag at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru.
Dylanwad cyfyngedig
Ni all y fframwaith fynd i'r afael yn uniongyrchol â meysydd polisi sydd o fewn cwmpas Llywodraeth y DU, e.e. llesiant neu fasnach, neu o fewn cwmpas sefydliadau'r sector preifat. Gall hyn gyfyngu ar ei allu i gyflawni canlyniadau mwy cyfartal a theg i bobl yng Nghymru.
I gloi, mae ymgorffori'r Fframwaith Pontio Teg yn darparu dull strwythuredig ac egwyddorol o gyflawni proses pontio teg a chynhwysol i sero net yng Nghymru. Mae'n rhoi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith drwy gyd-fynd â'i nodau a'i ffyrdd o weithio ac yn ategu amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Er bod ei lwyddiant yn dibynnu ar weithredu effeithiol a chefnogaeth barhaus, mae'r fframwaith yn cynnig sylfaen gref ar gyfer sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal, wydn a llewyrchus.
8.3 Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig yn gwneud y canlynol:
cynyddu’r cyfraniad i’n hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae'r cynnig yn cynyddu ei gyfraniad i'r eithaf at y nodau llesiant drwy fynnu gweithredu yn erbyn tair colofn sy'n gysylltiedig â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: dadansoddi effeithiau a chyfleoedd, ysgogi rhanddeiliaid, ac ymgorffori pontio teg yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae set o saith egwyddor ganllaw yn sicrhau, ymhlith ffactorau eraill, bod cydraddoldeb, hawliau plant, gwaith teg, diwylliant a'r Gymraeg, a diogelu a gwella'r amgylchedd yn cael eu hystyried drwy weithredu ar yr hinsawdd.
Er mwyn sicrhau’r effeithiau cadarnhaol mwyaf posibl, rydym yn bwriadu datblygu a gweithredu adnoddau wedi’u targedu ar gyfer y meysydd polisi a’r sectorau sydd fwyaf mewn perygl o effeithio ar eu rhanddeiliaid wrth bontio i economi sero net. Byddwn yn cynnal ac yn cryfhau ein proses ymgysylltu i wneud yn siŵr bod y cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf yn cael eu cynnwys yn weithredol, ac yn adeiladu sylfeini tystiolaeth perthnasol i lenwi bylchau tystiolaeth i lywio ein rhaglen weithredu.
Er mwyn lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r fframwaith, rydym yn bwriadu monitro a mynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol drwy adolygu defnyddioldeb y fframwaith a thrwy geisio adborth yn rheolaidd. Byddwn yn sicrhau bod y broses o gynllunio ar gyfer pontio yn sensitif i'r cyd-destun lleol ac yn annog cynllunio sy'n seiliedig ar leoedd a chynllunio yn ôl sector, er mwyn teilwra mesurau i anghenion penodol. Byddwn yn blaenoriaethu’r broses o ddatblygu methodoleg fonitro i olrhain sut mae'r fframwaith yn cael ei ymgorffori, ac, yn bwysicach fyth, pa mor dda y mae'n cyflawni canlyniadau ystyrlon.
Wrth wneud hynny, bydd y fframwaith yn helpu i sicrhau bod y broses o bontio i economi sero net nid yn unig yn effeithiol yn amgylcheddol, ond yn gymdeithasol gyfiawn, gan gyfrannu at bob un o'r saith nod llesiant a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Bydd y broses o fonitro a gwerthuso'r Fframwaith Pontio Teg yn cael ei datblygu fel rhan o'r rhaglen waith ar ôl ei gyhoeddi. Byddwn yn nodi dangosyddion meintiol ac ansoddol a fydd yn helpu i olrhain cynnydd ar bontio teg. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i asesu i ba raddau y mae ystyriaethau pontio teg yn cael eu hymgorffori ym mhrosesau gwneud penderfyniadau, megis asesiadau o effaith a chynlluniau sectoraidd. Bydd adborth gan randdeiliaid hefyd yn llywio'r gwerthusiad, gan gynnwys drwy weithgareddau ymgysylltu megis Wythnos Hinsawdd Cymru a gweithdai penodol i'r sector.
Bydd adolygiad ôl-weithredu yn cael ei alinio â chyhoeddiad y cynllun ar gyfer trydedd gyllideb garbon Cymru (2026–2030) ddiwedd 2026, gan ganiatáu myfyrio ar sut mae'r fframwaith wedi cefnogi’r broses o ddatgarboneiddio a gweithredu ar yr hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut mae'r fframwaith wedi helpu i nodi a lliniaru anghydraddoldebau, hyrwyddo ymgysylltiad cynhwysol, a chefnogi canlyniadau teg i gymunedau ledled Cymru.
