Neidio i'r prif gynnwy

Gall y gogledd edrych tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach a mwy ffyniannus a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, meddai Gweinidog yr Economi a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr wythnos pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chenhadaeth ar gyfer adfer ac adeiladu’r economi ar ôl pandemig coronafeirws (COVID-19), bydd y Gweinidog yn annerch uwchgynhadledd Cyngor Busnesau Gogledd Cymru a Mersi-Dyfrdwy am adferiad y rhanbarth.

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Ken Skates:

“Mae’r flwyddyn a aeth heibio wedi bod yn un eithriadol o anodd i fusnesau, ac mae’r heriau’n parhau. Er y bydd yn rhaid delio â sefyllfaoedd wrth iddyn nhw godi, rhaid hefyd edrych tua’r dyfodol a meddwl sut y gallwn ailadeiladu.

“Mae’r uwchgynhadledd yn un amserol iawn ac yn dangos sut y mae’r gogledd yn gweithio gyda’i gilydd fel rhanbarth a chyda’i phartneriaid ar draws y ffin. Mae hyn yn gryfder yn y rhanbarth.

“Ddoe, cyhoeddais ein Cenhadaeth Cadernid Economaidd ac Ad-drefnu sy’n esbonio sut y byddwn yn ailadeiladu economi Cymru ar ôl covid, gan ganolbwyntio ar lesiant, ffyniant, yr amgylchedd a sicrhau bod pawb yn cael gwireddu ei botensial.

“I gefnogi hyn, cyhoeddais hefyd £270 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru. Bydd hynny’n golygu y bydd rhagor na £500 miliwn ar gael trwy’r gronfa hyd at 2030 i helpu busnesau i lwyddo a thyfu yn y tymor hir, gan greu a diogelu miloedd o swyddi yng Nghymru.

“Bydd Bargen Twf y Gogledd yn allweddol ar gyfer adeiladu a chefnogi’r rhanbarth dros y misoedd a blynyddoedd i ddod. Mae ganddi’r potensial i weddnewid economi’r rhanbarth, gyda’i nod i sbarduno £1 biliwn o fuddsoddiad. Fis Rhagfyr diwethaf, cefais y pleser o lofnodi cytundeb terfynol y fargen.

“Rydym yn buddsoddi yn seilwaith trafnidiaeth y rhanbarth trwy raglen metro’r gogledd ac mae prosiectau mawr ar waith, fel ffordd osgoi gwerth £135 miliwn rhwng Caernarfon a’r Bontnewydd sy’n dod â buddiannau economaidd a chyfleoedd gwaith. Bydd y datblygiadau hyn yn ein helpu â’r gwaith tymor hir o ailadeiladu economi’r rhanbarth.

“Mae’r heriau sy’n wynebu busnesau yn rhai anferth, ond rydym am gyd-gerdded â nhw bob cam o’r ffordd. Mae cyfle i ni nawr weithio gyda’n gilydd i ailadeiladu dyfodol tecach, gwyrddach a mwy ffyniannus lle na chaiff neb ei adael ar ôl a lle caiff pawb y cyfle i wireddu ei botensial.