Neidio i'r prif gynnwy

Er mai yng Nghymru mae rhai o’r lonydd mwyaf diogel yn y byd, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi heddiw, mai un yn ormod yw pob marwolaeth a phob anaf difrifol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw agorodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ddigwyddiad pwysig Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghymru, lle y bydd trafodaethau rhwng y prif unigolion sy’n gwneud penderfyniadau yn y gwasanaethau brys a’r awdurdodau lleol. Bydd y digwyddiad yn edrych ar sut y bydd technolegau newydd yn y dyfodol yn cael effaith ar ddiogelwch ar ein ffyrdd. Bydd hefyd yn edrych ar sut y gellir defnyddio modelau newid ymddygiad i leihau damweiniau, yn enwedig ymhlith y grwpiau sydd fwyaf agored i risg, sef beicwyr modur a phobl ifanc.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

“Mwy na thebyg y bydd buddsoddiad nas gwelir mo’i fath o’r blaen gan Lywodraeth Cymru yn ein ffyrdd dros y ddegawd nesaf – bydd ein llwybrau beicio, ein llwybrau troed, ein rheilffyrdd a’n meysydd awyr yn cael eu gwella hefyd. 

“Wrth fuddsoddi mewn rhwydwaith sy’n deilwng o’r Gymru fodern, mae diogelwch wedi bod ar frig y rhestr o hyd. Dyma egwyddor sydd wedi ei hadlewyrchu yn ein targed uchelgeisiol i leihau’r nifer sy’n cael eu lladd neu’u hanafu’n ddifrifol o 40% erbyn 2020. 

“Trwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, Llywodraeth y DU, y gwasanaethau brys a sefydliadau diogelwch ar y ffyrdd, rydym wedi cymryd camau breision tuag at wireddu’r targed hwn. Mae’n lonydd ni ymysg y rhai mwyaf diogel yn y byd bellach. Mae pob marwolaeth ar ein ffyrdd ni yn un farwolaeth yn ormod. Rwy’n gwbl bendant y dylem barhau i edrych ar ffyrdd o wneud gwelliannau pellach.

“Oherwydd hyn, rydym wedi parhau i fuddsoddi miliynau yn y Grant Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd, y  Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd, a chyllido camerâu cyflymder drwy Gan Bwyll, ynghyd â phethau eraill. Felly, mae’n destun siom a rhwystredigaeth, nad yw’r system trwyddedu gyrwyr graddedig yn cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU o hyd. Gall hyn fod yn sbardun posibl ar gyfer gweddnewid diogelwch ar y ffyrdd.

“Rwy’n credu mai un o’r camau gorau y gallwn ni ei gymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn sylweddol yw helpu i sicrhau bod gyrwyr amhrofiadol a’r rhai sydd ar y ffordd fel arall yn cael eu diogelu yn y ffordd orau bosibl. Rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei safbwynt ar hyn.”

Mae Diogelwch ar y Ffyrdd yng Nghymru yn ddigwyddiad sy’n dod â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru at ei gilydd i adolygu ac i ddiweddaru Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru. Mae’r fframwaith hwn yn llywio sut y mae partneriaid yng Nghymru yn cydweithio i sicrhau bod ffyrdd Cymru mor ddiogel â phosibl, yn gosod targedau a’r camau sy’n cael eu cymryd i gyflawni’r targedau hynny.