Neidio i'r prif gynnwy

Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir y Fflint, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thor-faen fydd yn cael arian o Gronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Prif ffocws y gronfa eleni fydd gwneud bysiau'n fwy dibynadwy a lleihau amserau teithio trwy eu gwneud yn fwy hygyrch, lleihau tagfeydd ac integreiddio gwahanol fathau o drafnidiaeth. 
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 
"Rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r cynlluniau hyn, fydd yn gwella teithiau bws ar ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ledled Cymru. 
"Mae cyhoeddiad heddiw'n cynnwys arian ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys atebion technegol a mesurau i roi blaenoriaeth i fysiau a gwella cyffyrdd i helpu'r diwydiant bysiau ac i ehangu apêl bysiau fel ffordd ddeniadol a dibynadwy o deithio. 
"Rwy'n disgwyl ymlaen at weld y prosiectau hyn ar eu traed yn fuan er mwyn i gymunedau allu gweld manteision y gwelliannau."
Dyma'r prosiectau fydd yn cael arian o Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol 2017-18: 
  • £100,000 ar gyfer Datblygiadau i Gynyddu Nifer Teithwyr ar goridorau bysiau strategol y B5129 
  • £617,000 ar gyfer Pecyn Trafnidiaeth Integredig yng Nghastell-nedd Port Talbot 
  • £425,000 ar gyfer Gwelliannau i Deithwyr ar Goridor TrawsCymru trwy wella hygyrchedd ym Mhowys 
  • £600,000 ar gyfer Gwelliannau i Goridorau Bysiau'r A4119 ac A4059 yn Rhondda Cynon Taf 
  • £1,000,000 ar gyfer Coridorau Bysiau Strategol a Hybiau Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Abertawe 
  • £15,500 ar gyfer gwella cyffyrdd Union Street / Broad Street, Abersychan. 
Bydd yr arian yn cael ei neilltuo i awdurdodau lleol ar unwaith.