Neidio i'r prif gynnwy

Mae teithwyr ar fysiau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru wedi derbyn newyddion da heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r grant, fydd ar gael i Gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ar unwaith, yn caniatáu i wasanaethau sy’n cael eu colli gael eu cyflwyno unwaith yn rhagor, ac i roi sicrwydd i’r gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu darparu.    

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith:   

“Dwi’n falch o gyhoeddi y cyllid hwn ar gyfer yr awdurdodau lleol yr effeithir arnynt fwyaf o ganlyniad i ddiddymu GHA Coaches. Dwi’n disgwyl iddo gael ei ddefnyddio i wella gwasanaethau, a’r dewis i deithwyr, gan ail-gyflwyno y prif lwybrau a gollwyd a rhoi sicrwydd i’r rhwydwaith.   

“Mae’n amlwg, fodd bynnag, fod yn rhaid inni edrych ar ddyfodol hirdymor teithio ar fysiau a sut y gall awdurdodau lleol, cwmnïau bysiau, grwpiau teithwyr, Llywodraeth Cymru ac eraill gydweithio’n well i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnal a’u gwella.  

“Bydd Uwchgynhadledd y Gwasanaethau Bysiau y byddaf yn ei harwain yn Wrecsam ar 23 Ionawr, swydd cydgysylltydd bysiau Gogledd Cymru sydd wedi ei chreu gennym a’r cymorth ychwanegol yr wyf wedi ei gyhoeddi drwy Busnes Cymru a Chyllid Cymru i gyd yn helpu.     

“O ran y cyllid hwn, rwyf wedi gwneud yn glir i’r cynghorau ei fod wedi ei ddarparu ar y sail y byddant yn datblygu a chyflwyno strategaeth gadarn ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru erbyn mis Mawrth.  Mae er budd pawb i sicrhau nad oes sefyllfa fel yr un a welwyd gyda GHA coaches yn codi eto, ac rwyf yn benderfynol fod ein gwasanaethau bysiau yn fwy cynaliadwy.   

“Mae gan bob un ohonom yr un nod – sicrhau bod teithwyr ar draws y rhanbarth a thu hwnt yn derbyn y safon a’r gwasanaeth cynaliadwy y mae ganddynt yr hawl iddo.  Bydd y cyllid hwn yn helpu hynny.”