Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn ymweld â Chongqing a Shanghai yr wythnos nesaf fel rhan o'r gwaith i gryfhau'r cysylltiadau cryf sydd eisoes yn bodoli rhwng Cymru â Tsieina.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd taith fasnach o 18 cwmni o Gymru yn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet yn Shanghai. Mae'r cwmnïau'n cynnwys Clogau Gold, i2L Research, Timberkits a Tiny Rebel ac maent i gyd am wella eu perthynas fasnachol gydag ail economi fwyaf y byd. 

Fel rhan o'i ymweliad, bydd Ken Skates yn cynnal digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi i arweinwyr llywodraeth, busnes a diwylliant yn Chongqing a Shanghai, a bydd yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan ac i'r dyfodol, ac sy'n awyddus i gryfhau cysylltiadau a'i phartneriaid masnach byd-eang. 

Bydd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn cwrdd â chwmnïau Tsieinaidd a chynrychiolwyr y Llywodraeth i drafod sut y gellir cryfhau cysylltiadau masnachol a diwylliannol y gwledydd ac i ystyried sut y gall Cymru weithio i gynyddu ei hallforion i farchnad enillfawr Tsieina. 

Mae dirprwyaeth ddiwylliannol o Gymru hefyd yn teithio i Tsieina. Gobeithir y bydd hyn yn arwain at bartneriaethau newydd, cyfleoedd dysgu newydd, a chyfleoedd i gyfnewid arddangosfeydd a pherfformwyr rhwng y ddwy wlad.

Wrth siarad am ei ymweliad â Tsieina, dywedodd Ken Skates:

"Mae Tsieina yn rym rhyngwladol anferth ac yn wlad y mae Cymru yn awyddus i gryfhau ei chysylltiadau â hi. 

"Ar hyn o bryd mae 19 o gwmnïau o Tsieina yn gweithredu yng Nghymru, a rhyngddynt, maent yn cyflogi dros 2500 o bobl. Mae'r ffigurau diweddaraf yn nodi bod allforion Cymru i Tsieina werth £209 miliwn.

"Mae'r rhain yn ffigurau gwych, ond ar ôl fy ymweliad a'r daith fasnach,  byddwn yn ceisio adeiladu ar y llwyddiant hwnnw er mwyn cynyddu ein cyfran o allforion i Tsieina ac i ddenu mwy o fuddsoddwyr Tsieinaidd i Gymru.

"Mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig fel partner masnach, fel cyrchfan i dwristiaid ac fel partner diwylliannol. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE mae'n fwy pwysig nag erioed ein bod yn estyn llaw i Tsieina a phartneriaid rhyngwladol eraill a pharhau i weithio i adeiladu economi gryfach a thecach i Gymru ac i bawb."