Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysgol newydd gwerth £40 miliwn wedi’i hagor heddiw yn swyddogol ym Mhort Talbot gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams (dydd Llun 13 Mawrth).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cymerwyd 18 mis i adeiladu Ysgol Bae Baglan gyda £20 miliwn yn dod o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen werth £1.4 biliwn dros gyfnod rhwng 2014 a 2019 a dyma’r buddsoddiad mwyaf mewn ysgolion a cholegau ers y 1960au. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yn elwa ar yr arian ac mae gwaith adeiladu ar y gweill ar 53 o brosiectau a 59 wedi’u cwblhau hyd yma.

Mae swm oddeutu £126 miliwn o’r rhaglen wedi’i glustnodi ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.

Mae gan yr adeilad newydd le i 1500 o ddisgyblion ac fe’i codwyd yn lle tair ysgol uwchradd ac un ysgol gynradd. Mae’n un o ddim ond saith ysgol pob oed yng Nghymru a fydd yn addysgu disgyblion o dair oed i un ar bymtheg.

Bydd yr ysgol yn agored tan 10pm yn ystod yr wythnos gyda’r ffreutur yn trosi’n gaffi a fydd yn agored i’r gymuned.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Yr ysgol arbennig hon, sy’n werth £40 miliwn, yw’r buddsoddiad unigol mwyaf  ym maes addysg yn y sir hyd yma. Pan ewch chi o gwmpas y safle gwych yma, fe welwch chi fod yr arian wedi’i wario’n ddoeth.

“Golyga fod plant a phobl ifanc yr ardal yn gallu elwa ar gael yr amgylchedd mwyaf modern posibl ar gyfer eu haddysg ac i wireddu eu huchelgais.

“Mae’r prosiect yn un fydd nid yn unig o fudd i’r athrawon a’u plant ond hefyd yn un sydd wedi cynnig cyfleoedd hyfforddi a gwaith i’r gymuned leol a swyddi ar gyfer cadwyni cyflenwi lleol.

“Bydd yr ysgol hefyd yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau hamdden i unigolion, grwpiau, clybiau a chymdeithasau eu defnyddio a’u mwynhau. Dyma enghraifft arall eto o’r modd rydyn ni’n parhau i fuddsoddi yn ein hysgolion a’r gymuned.”

Mae Ysgol Bae Baglan ar restr fer ar gyfer gwobr nodedig Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig.