Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi croesawu adroddiad newydd gan yr OECD sy’n cydnabod yr hyn a wnaed hyd yma i ddiwygio’r system addysg yng Nghymru (Dydd Mawrth 28 Chwefror).

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Tachwedd 2016, ar ôl derbyn gwahoddiad gan yr Ysgrifennydd Addysg, fe ddaeth y sefydliad uchel ei barch sef y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ymweliad â Chymru i edrych ar y gwaith sydd ar droed ar ddiwygio addysg i sicrhau ei fod ar y trywydd iawn.

Yn ôl y canfyddiadau annibynnol (dolen allanol) sydd wedi’u cyhoeddi heddiw dywedir fel a ganlyn:

“the OECD has witnessed progress in several policy areas and a shift in the Welsh approach to school improvement away from a piece meal and short term policy orientation towards one that is guided by a long term vision.”

Nodir yn yr adroddiad hefyd fod y gwaith diwygio yng Nghymru yn seiliedig ar gydweithio agos rhwng y llywodraeth a’r sector addysg a bod yr ymrwymiad i wella yn weladwy ar bob lefel o’r system addysg.

Dywedodd Kristy Williams:

“Fe wnes i wahodd yr OECD i ddod i Gymru i herio’r hyn rydyn ni’n ei wneud i ddiwygio ein system addysg yng Nghymru ac rydw i’n croesawu eu canfyddiadau. Eu casgliad yw ein bod ni’n gwneud cynnydd a bod gennym weledigaeth hirdymor i symud yn ein blaen.

“Rydyn ni eisoes yn cymryd camau i roi nifer o’u hargymhellion ar waith. Mae hynny’n cynnwys creu academi genedlaethol newydd ar gyfer arweinyddiaeth, trawsnewid addysg gychwynnol athrawon, lansio safonau proffesiynol newydd a chyflwyno trefn genedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol.

“Ein gwaith yw parhau i gynnal ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg yn seiliedig ar wella safonau a helpu pob dysgwr yng Nghymru, beth bynnag ei gefndir, i gyflawni ei botensial.

“Yn unol ag argymhelliad yr OECD, rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn parhau i weithio ar roi ein gweledigaeth ar gyfer diwygio’r system addysg ar waith mewn modd priodol. Rydw i’n gwbl ymrwymedig i godi safonau, cau’r bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.”

Bydd yr Ysgrifennydd Addysg ac Andreas Schleicher, Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau yr OECD, yn annerch cynrychiolwyr o bob un o’r 205 o ysgolion uwchradd gwladol sydd yng Nghymru mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd.