Neidio i'r prif gynnwy

Mae pencadlys sefydliadau sy'n hybu Sbaeneg ac Almaeneg yng Nghymru wedi'i lansio'n swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw (dydd Iau 21 Medi).

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen a Swyddfeydd Goethe Institut wedi'u lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r naill sefydliad a'r llall wedi derbyn £10,000 yr un gan Lywodraeth Cymru i sefydlu eu swyddfeydd yn y ddinas.

Ym mis Rhagfyr, llofnododd yr Ysgrifennydd Addysg Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth Sbaen oedd yn cynnwys cytundeb i gefnogi, cynyddu a gwella addysgu Sbaeneg yng Nghymru.

Mae'r Goethe Institut yn hybu astudio Almaeneg dramor ac yn annog cyfnewid diwylliannol yn rhyngwladol. Yn Seremoni Wobrwyo Athrawon Almaeneg y DU yn 2017, roedd dau o'r tri athro a ddaeth i'r brig o Gymru.

Mae'r cymorth yn rhan o gynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i hybu ieithoedd  tramor modern i ddisgyblion a myfyrwyr.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rydw i wrth fy modd yn dathlu lansio Swyddfa'r Goethe Institut a Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Rydyn ni am weld rhagor o'n disgyblion a'n dysgwyr yn cydnabod pwysigrwydd ieithoedd  tramor modern ac arwyddocâd y cyfleoedd y gallant eu cynnig iddynt o ran eu bywyd a'u gyrfa. Ein nod yw gwella profiadau dysgu ac addysgu ieithoedd  tramor modern yn ein hysgolion a'u gwneud yn bynciau y mae mwy yn dewis eu hastudio ar lefel TGAU, Safon Uwch ac fel pwnc prifysgol.

"Rydw i am weld ein pobl ifanc yn dod yn ddinasyddion byd-eang, yn gallu siarad â phobl mewn ieithoedd eraill a deall a gwerthfawrogi eu diwylliant eu hunain yn ogystal ag eraill."