Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, yn dadorchuddio pum prawf i helpu i fesur llwyddiant y llywodraeth o ran sicrhau symudedd cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng Nghaerdydd yn uwchgynhadledd y Brifysgol Agored ar symudedd cymdeithasol, 'Pontio'r Bwlch', lle ymunodd â'r Gwir Anrh Alan Milburn, cyn-gadeirydd Comisiwn Symudedd Cymdeithasol y DU, amlinellodd yr Ysgrifennydd Addysg 'brofion' yn y meysydd allweddol canlynol:

1. Cynnydd o 10% o leiaf yn nifer y myfyrwyr hynny sy'n astudio ar lefel gradd Meistr;
2. Dyblu nifer y myfyrwyr sy'n elwa ar y profiad o astudio neu weithio dramor;
3. Disgwyliad y bydd bron pob disgybl yn cael ei gofrestru ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth;
4. Cynnydd o 10% yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n astudio ym mhrifysgolion Ymddiriedolaeth Sutton;
5. Dileu'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU ar bob lefel cymhwyster mewn deng mlynedd, a sicrhau ein bod o leiaf yn cynnal ein perfformiad ar lefel gymharol i weddill y DU yn y dyfodol.

Dywedodd Kirsty Williams:  
"Rydym yn cymryd camau uniongyrchol i greu cyfleoedd a gwella cyfleoedd bywyd pob dysgwr, yn enwedig y rheini o'r cefndiroedd tlotaf. Ond mae mwy o waith i'w wneud bob amser. Mae'r profion rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn rhai enghreifftiau o'r meysydd lle rwy'n mynnu gweld gwelliant.

"Mae'n glir i mi taw ein her nesaf o ran ehangu cyfranogiad yw symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig. Drwy gyflwyno cymorth cyfatebol ar gyfer costau byw i fyfyrwyr sy'n astudio ar lefel gradd Meistr, byddwn yn mynd i'r afael â'r her hon. Felly, gallaf wneud ymrwymiad y byddwn yn gweld cynnydd o 10% o leiaf yn ystod cyfnod y llywodraeth hon yn nifer y myfyrwyr hynny sy'n hanu o Gymru sy'n astudio ar lefel gradd Meistr.

"Y flwyddyn nesaf, byddwn yn lansio rhaglen i sicrhau bod llawer mwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael cyfle i astudio a chael profiad gwaith yn rhyngwladol, gan ddechrau gyda chynllun peilot yn gyntaf. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein huchelgais i weld nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n treulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau'n dyblu erbyn diwedd y llywodraeth hon.

"Yn anffodus, tan yn ddiweddar roedd yna rai ysgolion lle'r oedd y rhan fwyaf o'r disgyblion 16 oed yn astudio BTEC Gwyddoniaeth - yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Dyma ddiwylliant o ddisgwyliadau is y mae'n rhaid i ni ei newid, a byddwn yn gwneud hynny. Rydym eisoes yn gweld cynnydd yn y niferoedd sy'n cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth. Rwy'n disgwyl i'r momentwm hwn barhau fel bod bron pob disgybl yn ein system wedi'u cofrestru ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

"Mae ein Rhwydwaith Seren eisoes yn gwneud gwaith rhagorol ac yn codi uchelgais a dyheadau ar draws y genedl. Ni allwn gyfyngu ar uchelgeisiau ein pobl ifanc - o bob cefndir. Rwy'n pennu dyhead i weld cynnydd o 10% dros y bum mlynedd nesaf yng nghanran yr holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o Gymru sy'n mynd i brifysgolion Ymddiriedolaeth Sutton.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth gywir i fanteisio ar y cyfleoedd y mae marchnad lafur newidiol yn eu creu. Gan weithio ar draws adrannau a sectorau, byddwn yn dileu'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU ar bob lefel cymhwyster mewn deng mlynedd, ac yn sicrhau ein bod o leiaf yn cynnal ein perfformiad ar lefel gymharol i weddill y DU yn y dyfodol."