Neidio i'r prif gynnwy

Mae cronfa newydd, gwerth £36m, i leihau maint dosbarthiadau babanod ac i godi safonau wedi’i gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y gronfa yw targedu’r rheng flaen: gan ddechrau gyda’r dosbarthiadau mwyaf, bydd yn targedu dosbarthiadau lle mae angen gwella addysgu a dysgu, a lle ceir lefelau uchel o ddifreintiedigaeth.

Caiff yr arian, sy’n gyfuniad o gyllid cyfalaf a chyllid refeniw, ei fuddsoddi dros y pedair blynedd nesaf tan 2021.

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos bod 7.6% (8,196) o ddisgyblion sy’n fabanod mewn dosbarthiadau o fwy na 30 disgybl.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau a chreu cyfleoedd i’n holl bobl ifanc.

“Dro ar ôl tro mae rhieni ac athrawon yn dweud wrthyf eu bod yn poeni am faint dosbarthiadau. Rydym wedi gwrando ar eu pryderon, wedi edrych ar y dystiolaeth ryngwladol, ac rydym heddiw’n cyhoeddi’r gronfa nwydd hon, gwerth £36m, i fynd i’r afael â maint dosbarthiadau babanod.

“Mae yna gysylltiad cadarnhaol rhwng dosbarthiadau llai o faint a chyrhaeddiad plant. Mae hyn yn arbennig o wir o ran plant o gefndiroedd tlotach. Mae hyn yn cael mwy fyth o effaith ar blant iau, a dyna pham rydyn ni’n targedu’r buddsoddiad hwn at ddosbarthiadau babanod.

“Bydd y cyhoeddiad hwn, ynghyd â’n diwygiadau eraill, yn galluogi athrawon i addysgu a disgyblion i ddysgu.”