Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi newidiadau mawr i Addysg Rhyw a Chydberthynas yng Nghymru a’i lle yn y cwricwlwm.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl i banel o arbenigwyr dan arweiniad yr Athro Emma Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd, adolygu’r pwnc, mae’r Ysgrifennydd Addysg wedi cyhoeddi mai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fydd y maes astudio hwn o hyn ymlaen ac y bydd yn rhan statudol o gwricwlwm newydd Cymru a fydd yn cael ei ddilyn o 2022.

Ar hyn o bryd, mae addysg rhyw a chydberthynas yn rhan statudol o’r cwricwlwm sylfaenol yng Nghymru ond ysgolion sydd i benderfynu sut maent yn cyflwyno’r pwnc ac weithiau nid yw’n mynd y tu hwnt i elfennau biolegol Cydberthynas dynol.

Mae addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cynrychioli newid mawr o’r agweddau traddodiadol hyn oherwydd mae’n ehangu’r maes astudio ac yn rhoi pwyslais ar feithrin a chynnal cydberthnasoedd iach, hapus a bodlon.

Bydd dysgwyr yn cael dealltwriaeth ehangach o lawer hefyd o rywioldeb sy’n cynnwys dysgwyr LGBTQI+ yn llawn ac mae’n cynnwys materion ehangach fel cydsyniad, cam-drin domestig a pharchu amrywiaeth.

Mae’r penderfyniad i newid ffocws y maes astudio i gydberthynas a rhywioldeb, yn ogystal â’r penderfyniad i’w gwneud yn statudol, yn adlewyrchu ei bwysigrwydd enfawr o ran sut mae dysgwyr yn deall eu hunain, ei gilydd, eu cymuned a chymdeithas.

Pan fydd cwricwlwm newydd Cymru ar waith yn 2022, bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn statudol rhwng 5 a 16 oed, ond ni fydd dysgwyr yn cael eu haddysgu am bynciau sy’n anaddas i’w datblygiad.

Byddai Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn parhau â’r driniaeth o’r pwnc â’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru (ar gyfer plant 3-7 oed) sy’n sicrhau bod plant yn dysgu am gydberthnasoedd gyda ffrindiau a theulu a sut i fod yn ddiogel.

Gan gydnabod bod angen yr hyfforddiant a’r cymorth cywir i athrawon i gyd-fynd â’r newidiadau hyn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg newidiadau i hyfforddiant Addysg Rhyw a Chydberthynas mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon ac o fewn y gweithlu cyfredol.

Er mwyn rhoi hwb cychwynnol i’r broses hon, bydd swm o £200,000 yn cael ei roi i gonsortia rhanbarthol fel y gallant ddechrau nodi anghenion dysgu proffesiynol yn y maes hwn. Mae £50,000 wedi’i ddyfarnu i Cymorth i Fenywod Cymru hefyd i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant i ysgolion.

Ymunodd yr Ysgrifennydd Addysg â dysgwyr yn Ysgol Casnewydd i weld sut maent yn gweithio ar draws y cwricwlwm i ddeall materion fel rhywedd, a chydraddoldeb a hawliau rhywiol.

Meddai Kirsty Williams:

“Mae dyddiau addysg rhyw draddodiadol wedi hen fynd; mae’r byd wedi symud ymlaen a rhaid i’n cwricwlwm wneud yr un fath.

“Ni ddylai rhyw gael ei addysgu’n annibynnol ar bopeth arall ar unrhyw gyfrif oherwydd, yn syml, mae cymaint mwy i’r peth na rhyw yn unig; mae’n ymwneud â chydberthynas, hawliau a pharch a rhaid i hynny fynd law yn llaw â dealltwriaeth ehangach o lawer o rywioldeb. Bydd unrhyw beth llai yn gwneud cam â’n dysgwyr ‘n hathrawon.

“Mae’n ffaith bod cydberthynas a rhywioldeb yn siapio’n bywydau yn ogystal â’r byd o’n cwmpas. Maent yn rhan hanfodol o bwy ydym ni a sut rydym ni’n deall ein hunain, ein gilydd a chymdeithas.

“Trwy greu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fel maes astudio statudol yn ein cwricwlwm newydd i Gymru, byddwn ni’n cynorthwyo ein pobl ifanc i ddatblygu cydberthnasoedd iach, cynnal iechyd meddwl da a chadw’n ddiogel yn gorfforol ac yn rhywiol.

“Wrth reswm, ddeng mlynedd ar hugain ar ôl cyflwyno Adran 28, byddwn yn sicrhau hefyd fod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cynnwys pob rhywedd a rhywioldeb ac yn diwallu anghenion dysgwyr LGBTQI+.

“Yn hollbwysig i hyn oll, byddwn yn sicrhau bod gan ein hathrawon y wybodaeth a’r hyder i gyflwyno’r Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mae ein dysgwyr yn ei haeddu. Dyna pam rydym ni’n darparu er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr hyfforddiant a’r datblygiad proffesiynol yn iawn.

“Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, beirniadodd Margaret Thatcher awdurdodau addysg lleol am addysgu plant bod ganddynt hawl ddiymwad i fod yn hoyw. Rwyf eisiau i bob un o’n dysgwyr wybod bod ganddo hawl ddiymwad i fod yn hapus – dyma sydd wrth wraidd y newidiadau rydym ni’n eu cynnig.”

Meddai’r Athro Emma Renold:

“Rwy’n falch bod argymhellion y panel arbenigwyr wedi cael ymateb mor frwdfrydig gan Kirsty Williams. Bydd croesawu a gweithredu gweledigaeth seiliedig ar dystiolaeth y panel i drawsnewid Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, o addysgeg effeithiol i hyfforddiant athrawon, dros amser, yn sicrhau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb berthnasol a difyr o safon uchel sy’n diwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc.

“Mae cael egwyddorion craidd hawliau, cydraddoldeb, cynwysoldeb, diogelu a grymuso yn sail i’r cwricwlwm newydd yn argoeli’n dda ar gyfer dyfodol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru ac yn rhoi ar waith ambell enghraifft o arfer gorau sydd eisoes ar waith mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, ac yn rhyngwladol.”

Er y bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn dod yn statudol fel rhan o’r cwricwlwm newydd pan gaiff ei chyflwyno yn 2022, bydd yr enw newydd yn cael ei roi ar waith fel rhan o ailwampio’r canllawiau ar gyfer y cwricwlwm cyfredol. Bwriedir cyhoeddi’r canllawiau hyn ddechrau’r flwyddyn nesaf.

Yn ogystal ag adlewyrchu’r newid enw, bydd y canllawiau’n rhoi mwy o gymorth i ysgolion ar amrywiaeth o bynciau fel addysg ar gyfer dysgwyr LGBTQI+ ac atal trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.

Mwy o wybodaeth

Darpariaeth Gyfredol ar gyfer Addysg Ryw mewn Ysgolion

Mae gan bob lleoliad uwchradd yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, rwymedigaeth statudol i ddarparu addysg rhyw i'w dysgwyr. 

Mae addysg rhyw yn ffurfio rhan o'r "cwricwlwm sylfaenol" yng Nghymru (ochr yn ochr ag Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith). Mae ysgolion yn gallu penderfynu ar y cynnwys a'r dulliau i’w defnyddio wrth gyflwyno'r cwricwlwm sylfaenol. 

Y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

Mae rhoi i ddysgwyr yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynnal iechyd a llesiant corfforol, emosiynol a meddyliol da yn flaenoriaeth os ydym am eu cefnogi i gyflawni a gwneud y mwyaf o’u cyfleoedd mewn bywyd. Mae hyn yn flaenoriaeth allweddol yn nwy o ddogfennau Llywodraeth Cymru sef y strategaeth Ffyniant i Bawb ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl. 

I gefnogi'r nodau hyn, gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i'r Athro Emma Renold o Brifysgol Caerdydd gadeirio’r panel arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Cylch gwaith y panel oedd nodi cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac ymarferwyr lywio cwricwlwm addysg rhyw a chydberthynas y dyfodol fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant.

Adroddiad y Panel Arbenigol ar Rhyw a Pherthnasoedd 

Cyhoeddodd y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ei argymhellion ar 13 Rhagfyr 2017. Cafwyd 11 o argymhellion. 

Roedd argymhellion y panel yn cynnwys ail-enwi’r maes pwnc fel Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac y dylai fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer pob dysgwr 3-16 oed. I gefnogi hyn, argymhellwyd hefyd y dylid creu cyfleoedd dysgu proffesiynol arbenigol ar gyfer y gweithlu addysg, ar gyfer y rheiny mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon a'r rhai sydd eisoes yn ymarfer.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn derbyn yr argymhelliad i’r maes astudio hwn fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd. 

Rhoddodd adroddiad y Panel Arbenigol ac adolygiad thematig diweddar Estyn o addysg cydberthynas iach (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017) dystiolaeth fod angen mwy o gefnogaeth ar ysgolion i ddarparu addysg cydberthynas a rhywioldeb sy’n gyson o ansawdd uchel. Trwy gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd, y bwriad yw dangos bod mwy o bwys yn ei roi ar y maes astudio hwn ac annog gwelliannau yn y ddarpariaeth. 

Newid enw - Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb 

Penderfynwyd, mewn trafodaeth â chadeirydd y panel arbenigol, y dylid newid enw'r pwnc hwn i "Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb" (RSE). Mae’r gair "cydberthynas" wedi cael ei roi yn gyntaf i bwysleisio pwysigrwydd cydberthynas iach fel pwnc canolog yn y maes astudio hwn. 

Mae "Rhywioldeb" wedi'i gynnwys yn enw'r maes astudio hwn fel ei fod yn cyd-fynd â diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o 'addysg rhywioldeb', sy'n cwmpasu'r ffactorau diwylliannol, hanesyddol, biolegol a chymdeithasol sy'n effeithio ar sut rydym yn sefydlu cydberthynas. 

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar gyfer Dysgwyr Iau 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn yr argymhelliad y dylid rhoi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i ddysgwyr o’r adeg maen nhw’n cychwyn yn y system addysg. Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn statudol yn y cwricwlwm newydd o 5 oed, gan mai dyma’r oedran statudol y mae’n rhaid i blant ddechrau’r ysgol. 

Rhaid i'r Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a roddir i blant a phobl ifanc fod yn briodol i'w hoedran a’u datblygiad. 

Mae'n debygol y bydd cyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar gyfer dysgwyr iau yn adlewyrchu'r ddarpariaeth gyfredol, a gyflwynir fel rhan o Faes Dysgu Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cyfnod Sylfaen. Yn y maes dysgu hwn, mae plant yn dysgu am berthynas â theulu a ffrindiau a sut i gadw'n ddiogel. 

Dysgu Proffesiynol 

Bydd dysgu proffesiynol yn hanfodol i roi bwriadau diwygio'r cwricwlwm ar waith yn ymarferol, gan gynnwys darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y dyfodol. Mae 'Addysg yng Nghymru' yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddatblygu dulliau dysgu proffesiynol i sicrhau bod pob ysgol yn gallu cynllunio yn well ar gyfer newid yn y cwricwlwm. 

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Gynhwysol 

Yn ei hanfod, mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cydnabod ein bod ni i gyd yn wahanol a bod gennym anghenion gwahanol. Trwy ddysgu proffesiynol gwell ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, byddwn yn sicrhau y gall ein proffesiwn addysgu gefnogi pob dysgwr yn well, gan gynnwys y rhai sy'n ystyried eu hunain yn LGBTQI +. 

Hawl rhieni i dynnu eu plant allan o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb 

Nid oes unrhyw gynlluniau i newid egwyddor yr hawl i dynnu allan.

Ysgolion â Chymeriad Crefyddol 

Mae dyletswydd statudol ar ysgolion i ddarparu addysg rhyw sy'n briodol i oedran a chefndir crefyddol eu dysgwyr ar hyn o bryd. 

Nid oes unrhyw gynlluniau i newid y ddyletswydd ar gyfer ysgolion, gan gynnwys y rhai â chymeriad crefyddol, i ddarparu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n gyson â'u hethos. 

Atodiad - Y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd

Cafodd y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ei greu gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Mawrth 2017. Cyfarfu'r grŵp 5 gwaith dros yr haf a'r hydref. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 13 Rhagfyr 2017. 

Mae'r adroddiad a'r papur ymchwil cysylltiedig i'w gweld yn y dolenni canlynol: 

Cadeiriwyd y panel gan yr Athro Emma Renold, Athro Datblygiad Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd aelodau’r panel yn dod o amrywiaeth o randdeiliaid: 

  • Cymorth i Fenywod Cymru
  • BAWSO
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Barnardo’s Cymru
  • Hafan Cymru
  • Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru
  • Swyddfa’r Comisiynydd Plant
  • Heddluoedd Cymru (Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan) 
  • Estyn
  • Bwrdd Diogelu Cenedlaethol
  • NSPCC Cymru
  • Grid ar gyfer Dysgu’r De-orllewin
  • Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
  • Ysgolion
  • Stonewall Cymru
  • Anabledd Dysgu Cymru.