Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg, wedi llongyfarch disgyblion sydd wedi cael eu canlyniadau ar ôl sefyll arholiadau TGAU Mathemateg newydd a luniwyd yn benodol ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cymwysterau newydd yn rhan o ddiwygiadau pwysig i'r system addysg yng Nghymru i godi safonau drwy ganolbwyntio mwy ar lythrennedd a rhifedd.

Cafodd dau TGAU newydd, sef Mathemateg a Mathemateg Rhifedd, eu cyflwyno i'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2015. Y canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw oedd canlyniadau'r disgyblion hynny a wnaeth sefyll yr arholiadau ym mis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rwyf am longyfarch y disgyblion sydd wedi cael canlyniadau'r arholiadau TGAU newydd hyn mewn Mathemateg a Mathemateg Rhifedd, a luniwyd yn benodol ar gyfer Cymru.

"Mae'r cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddiwygiadau helaeth i'n system addysg sy’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth gywir i’n pobl ifanc fel y gallant ffynnu yn y byd modern.

"Mae hyn yn ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol o godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i lwyddo."

Mae'r canlyniadau'n dangos:

  • TGAU Mathemateg - y gyfran sy’n cyflawni A* i C yw 46.1%
  • TGAU Mathemateg Rhifedd - y gyfran sy’n cyflawni A* i C yw 46.1%