Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Iau, 24 Awst), fe wnaeth Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, longyfarch disgyblion ar eu canlyniadau TGAU a Bagloriaeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Eleni, am y tro cyntaf, mae disgyblion yn cael eu canlyniadau ar gyfer cyrsiau TGAU Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith, Cymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Llenyddiaeth, Mathemateg - Rhifedd a Mathemateg sy'n unigryw i Gymru.

Mae canlyniadau eleni yn dangos:

  • bod 62.8% o'r dysgwyr, gan gynnwys ymgeiswyr iau, wedi ennill graddau A*-C.
  • o gyfrif dysgwyr 16 oed yn unig, bod y ffigur yn codi i 66.7%.
  • bod canlyniadau A* wedi parhau i fod yn sefydlog.
  • bod gwelliant yng nghanlyniadau'r haf o ran A*-C mewn pynciau mynediad eang, ee Llenyddiaeth Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth a Chymraeg 2il Iaith.

Eleni, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr a gofrestrwyd cyn cwblhau eu rhaglen astudio lawn. Ni wnaeth nifer o'r myfyrwyr a gofrestrwyd yn gynnar ailsefyll yr arholiad yn yr haf, hy y rheini a gofrestrwyd yr haf diwethaf neu ym mis Tachwedd.

Mae Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr annibynnol, wedi dweud felly nad oes modd dod i gasgliadau dibynadwy o gymharu canlyniadau haf 2017 a haf 2016 yn uniongyrchol, neu ganlyniadau'r haf ledled y DU.

Wrth ymweld ag ysgol Cefn Saeson yng Nghastell-nedd, dywedodd Kirsty Williams:

"Fe hoffwn i longyfarch y miloedd o ddisgyblion ledled Cymru sy'n cael eu canlyniadau heddiw.

"Nod y cymwysterau diwygiedig hyn yw darparu'r sgiliau iawn i ddisgyblion ar gyfer y byd modern. Fe allwn ni ymfalchïo yn y ffordd mae ein disgyblion a'n hathrawon wedi ymdopi â'r cymwysterau newydd hyn a gafodd eu cyflwyno, sy'n chwarae rôl hollbwysig yn y broses o godi safonau.

"Mae'r nifer uchel sy'n cael eu cofrestru'n gynnar ar gyfer eu harholiadau yn destun pryder imi. Dyw llawer o'r disgyblion hyn, sy'n cymryd eu harholiadau cyn cwblhau eu dwy flynedd o astudio, ddim wedi cael cyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Mae hyn yn rhoi pwysau diangen ar ddisgyblion ac athrawon, ac mae hefyd yn rhoi straen ychwanegol ar gyllidebau ysgolion. Fe fydda i'n ymateb i adolygiad cyflym Cymwysterau Cymru o'r mater hwn pan ddaw i law ym mis Hydref, ond mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaliadwy ac mae angen inni ystyried yr opsiynau.

"Diben yr ailwampio radical ar ein system addysg yw codi safonau a chodi dyheadau ein dysgwyr. Yn ogystal â diwygio cymwysterau TGAU, rydyn ni'n cyflwyno cwricwlwm newydd a safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i lwyddo mewn bywyd."

Mae cymwysterau TGAU yn newid yng Nghymru; mae chwe phwnc TGAU wedi'u diwygio - Cymraeg Iaith, Saesneg Iaith, Cymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Llenyddiaeth, Mathemateg - Rhifedd a Mathemateg. Mae arholiadau haf 2017 yn adlewyrchu'r cymwysterau newydd hyn, ac mae cymwysterau TGAU eraill ar fin newid.